Farmers Planning Ahead to Deal with Problematic Parasites

Mae ffermwyr defaid sydd ar brosiect amaethyddol pwysig yn derbyn cymorth i ddelio ag un o’r afiechydon a all achosi problemau i ŵyn yn ystod y Gwanwyn a’r Haf.

Mae Nematodirws yn glefyd sy’n niweidiol i ŵyn ifanc; gall arafu eu twf ac achosi problemau iechyd hirdymor.

Fe allai'r tywydd heulog a gafwyd ddiwedd mis Mawrth gyfrannu at y broblem. Gall tywydd oer sy’n cynhesu’n sydyn beri i nifer fawr o larfa Nematodirws ddeor - a gall hynny gael effaith sylweddol ar yr ŵyn ifanc sy'n pori ar hyn o bryd.

Mae Adrian Ford o Fferm Iscoed, ger Hendy-gwyn, Sir Gaerfyrddin, yn rhan o brosiect cynllunio iechyd diadelloedd a buchesi Stoc+, sy'n cael ei arwain gan Hybu Cig Cymru (HCC) a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. 

Dywedodd Adrian: “Yn dilyn problem gyda Nematodirws ar y fferm yn 2021, rwyf wedi cynllunio ymlaen llaw ac wedi defnyddio fy nghynllun gweithredu Stoc+ a luniwyd gan fy milfeddyg, Lucy Sullivan, i atal Nematodirws rhag bod yn broblem yn y dyfodol. Byddaf yn rheoli'r pori drwy wneud yn siŵr nad oes ŵyn yn cael eu rhoi ar dir a gafodd ei bori gan ŵyn ifanc yn y flwyddyn flaenorol – oherwydd bydd hynny'n lleihau'r risg.”

Dywedodd y milfeddyg, Lucy Sullivan:

“Gyda nematodirws, fel gyda llawer o gyflyrau iechyd eraill sy’n effeithio ar dda byw, mae atal yn well na gwella. Mae hyn yn arbennig o wir gyda Nematodirws oherwydd gall ŵyn ddangos arwyddion o afiechyd clinigol difrifol 3-4 diwrnod cyn i'r llyngyr llawn dwf gynhyrchu wyau – sy’n golygu bod rhaid i ni wneud y defnydd gorau posib o ragolygon a rheoli pori'n briodol. 

“Ni fydd cyfrif wyau ysgarthol yn effeithiol yn y cyfnod hwn. Rhaid cofio bod yr haint yn cael ei drosglwyddo o ŵyn a aned un flwyddyn i ŵyn sy'n cael eu geni'r flwyddyn ganlynol heb i'r famog chwarae unrhyw ran o bwys. Y porfeydd sydd â’r risg uchaf yw’r rhai a gafodd eu pori gan ŵyn flwyddyn yn gynharach.

“Am y cafodd achos o Nematodirws ei gadarnhau eisoes yn Sir Gaerfyrddin eleni, mae’n bwysig i bob ffermwr fod yn wyliadwrus a chadw llygad yn gyson ar y rhagolygon Nematodirws. 

“Rydyn ni’n gobeithio gwneud gwahaniaeth trwy gymryd camau fel rheoli pori, a fydd yn helpu o ran sicrhau'r lles anifeiliaid gorau o fewn ein gallu, yn ogystal â gwneud y fferm mor effeithlon â phosib.”

Gall ffermwyr ledled Cymru fonitro’r risg drwy edrych ar y map risg ar y wefan sy’n cael ei rhedeg gan SCOPS.  Mae'r map yn defnyddio'r data diweddaraf i ragweld lle gall problemau godi.

Mae Stoc+ yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.