Mae astudiaeth o Gymru wedi rhoi ffocws newydd i’r strategaethau ar gyfer lleihau allyriadau amonia yn y sector dofednod, gyda ffermwyr yn cael eu hannog i fabwysiadu mesurau gan gynnwys protocolau awyru da a rheoli sarn a thail i lefelau is. 

Mewn cynllun treialu tair blynedd gan Bartneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru ar ddwy fferm magu cywion, edrychwyd yn benodol ar y rôl y gallai ychwanegion ei chwarae i leihau allyriadau drwy wella iechyd y perfedd a pherfformiad y dofednod.

Yn ôl yr astudiaeth, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y rhain yn effeithiol i’r pwrpas hwn –  cofnodwyd lefelau tebyg o amonia yn y siediau oedd yn rhan o’r cynllun treialu.

Ond dywed rheolwr prosiect Jason Gittins, cyfarwyddwr technegol da byw yn ADAS, fod nifer o fesurau eraill y gall ffermwyr eu cymryd i fynd i'r afael ag allyriadau.

Mae amonia yn elfen o wrea, sy'n cael ei waredu mewn ysgarthion dofednod; pan fydd y tail hwnnw'n agored i aer ac i leithder, mae'r nwy yn cael ei ryddhau.

Mae amaethyddiaeth yn ffynhonnell sylweddol o amonia, gan gyfrif am 87% o allyriadau'r DU yn 2019; o’r ganran hon, daeth 14% o gynhyrchu dofednod.

"Mae nwy amonia yn nwy niweidiol i weithwyr dofednod a dofednod ac mae dyddodion nitrogen gormodol sy'n deillio o allyriadau amonia hefyd yn niweidio'r amgylchedd,'' rhybuddia Mr Gittins. 

Yma, mae'n rhoi ei gyngor ar sut y gall ffermwyr dofednod leihau'r allyriadau hynny.

Awyru

Bydd siediau wedi'u hawyru'n wael yn arwain at sarn gwlyb, sy'n caniatáu i fwy o amonia gael ei ryddhau i'r awyr. Gall defnyddio system awyru effeithiol i wneud y gorau o'r amgylchedd mewnol, ac atal cyddwysiad olygu bod mwy o ddeunydd sych yn y sarn a thrwy hynny, leihau allyriadau amonia.

Mae systemau gwresogi anuniongyrchol yn cynhesu'r sied heb yr anwedd dŵr a’r carbon deuocsid ychwanegol a gynhyrchir gan systemau gwresogi nwy uniongyrchol, esbonia Mr Gittins.

"O ganlyniad, mae cyflwr y sarn yn aml yn sychach, sy'n gwneud amodau'n llai ffafriol ar gyfer cynhyrchu amonia,'' mae'n nodi.

Systemau golchi amonia

Mae'r systemau hyn fel arfer yn gwthio’r aer a ddaw o’r sied drwy hylif i ddal yr amonia; yna mae gan yr aer a ryddheir i'r atmosffer lefel is o amonia. Dywed Mr Gittins fod adroddiadau wedi dangos bod gostyngiadau mewn allyriadau amonia o tua 80% yn bosibl drwy ddefnyddio systemau golchi amonia, ond bod y costau cyfalaf a gweithredu yn uchel.

Llunio diet cywir

Yn ôl cyngor Mr Gittins, dylid llunio dietau yn seiliedig ar ofynion asid amino, yn hytrach na phrotein crai.

"Dylai'r broses o lunio diet newid drwy gydol cylch y dofednod er mwyn sicrhau bod y cyflenwad maetholion yn cyfateb yn agos i ofynion yr adar o ran asid amonia a maetholion eraill.''

Mae gwelliannau yn y gymhareb defnyddio porthiant anifeiliaid ac FCR (feed conversion ratio) yn sicrhau manteision amgylcheddol ac ariannol.

Symud a storio tail yn gywir

Dylid rhoi’r tail mewn storfeydd wedi'u gorchuddio ar arwynebau anhydraidd. Os mai’r drefn yw rhoi tomenni ar gaeau, dylai'r arwynebedd fod mor fach â phosibl: siâp 'A', gan y bydd hyn yn lleihau allyriadau, meddai Mr Gittins.

"Un ystyriaeth bwysig yw bod sarn a thail dofednod gwlyb yn gallu arwain at allyriadau uwch o amonia ac felly'r flaenoriaeth yw eu cadw mor sych â phosibl, yn y sied ac wedyn.

"Gall hyn hefyd gynyddu ei werth fesul tunnell fel gwrtaith a lleihau costau cludo nwyddau a pheryglon arogleuon.''

Dylid dilyn arfer da arferol o ran defnyddio tail, mae'n ychwanegu.

"Dylai hyn gynnwys osgoi chwalu tail yn ystod rhew, eira a glaw trwm ac ystyried cyflwr y pridd ar y pryd.

"Ar gyfer tail organig hylifol, mae dulliau chwalu tail manwl gywir yn well na systemau plât sblasio.''

Wrth gynhyrchu wyau buarth, mae symud i systemau aml-lefel, yn hytrach nag un lefel, yn gyson â lleihau amonia, oherwydd defnyddir beltiau a chaiff y tail yn cael ei symud yn aml.

Atal offer dal dŵr rhag gollwng 

Mae cadw sarn yn sych yn allweddol i leihau lefelau amonia. Dylid atal yr offer dal dŵr rhag gollwng – mae angen rhoi sylw i unrhyw ollyngiadau a'u datrys yn gyflym.

"Dylid mabwysiadu systemau tethi dŵr, gan ei bod yn ffordd well o reoli faint o ddŵr a ddefnyddir, gan leihau gwastraff dŵr,'' mae Mr Gittins yn argymell. 

Cadw statws iechyd adar yn uchel

Bydd cadw statws iechyd adar yn uchel yn helpu i gynnal a chadw’r sarn mewn cyflwr sychach. 

"Mae adar sy'n cael eu herio gan glefydau ac iechyd gwael yn aml yn cynhyrchu tail gwlypach, sy'n gallu arwain at allyriadau amonia uwch,'' meddai Mr Gittins.

Mae’r EIP yng Nghymru, sy'n cael ei ddarparu gan Fenter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.