FC Mentors

“Ni waeth pa mor hyderus ydych chi yn eich gallu eich hun, weithiau, bydd dulliau gwell neu wahanol o wneud pethau.”

Dyma eiriau William Williams, sy’n cadw tua 500 o famogiaid Easy Care ar y fferm 200 erw ger Bangor lle mae ei deulu'n denantiaid ers cenedlaethau lawer. Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth William droi at raglen mentora Cyswllt Ffermio ar ôl sylweddoli nad ei system ‘stocio sefydlog’ draddodiadol oedd y dull mwyaf effeithlon na phroffidiol o redeg y fferm. Dewisodd Keith Williams, ffermwr bîff a defaid adnabyddus o ganolbarth Cymru, i fod yn fentor iddo. Mae Keith yn un o ysgolorion Nuffield a bu’n Ffermwr Defaid y Flwyddyn Farmers Weekly ar un adeg, ac mae cael ei fentora ganddo wedi helpu William i weddnewid busnes ei fferm.

William Williams

MENTORA – SUT MAE’N GWEITHIO

Fe wnaeth William a Keith ymweld â ffermydd ynaill a’r llall, a phan wnaeth y pandemig gyfynguar gyfarfodydd wyneb yn wyneb, fe wnaeth eudeialog barhau ar-lein a dros y ffôn.

Cafodd William ei fentora gan Keith ynghylch y canlynol:

  • Rheoli tir glas a mesur glaswellt
  • Gwella perfformiad y ddiadell, oedd yn cael ei rheoli’n flaenorol gan ddefnyddio system stocio sefydlog, nad oedd yn cyflawni’r lefelauuchaf o ran perfformiad
  • Lleihau costau gwrtaith

Roedd argymhellion Keith fel mentor yn cynnwys:

  • Sicrhau y caiff y tir orffwys yn hir yn y gaeaf; fe wnaeth hynny leihau sathru trwy ddod â’r ddiadell gyfan i mewn
  • Buddsoddi mewn ffensys trydan a chynllunio i rannu caeau yn gelloedd at ddibenion pori cylchdro dwys
  • Cynghori ynghylch lleiniau tir i sicrhau patrymau pori gwastad
  • Targedu’r defnydd o wrtaith i leihau amsera chostau chwalu

Y canlyniadau i William:

“Rydym yn isrannu’r tir, ar sail awgrymiadau Keith, er mwyn i siapiau’r lleiniau tir sicrhau patrymaupori gwastad, ac rydym wedi osgoi gwneud camgymeriadau costus.

“Mae’r system celloedd wedi arwain at arbedion enfawr ar gostau gwrtaith. Bellach, rydym yn chwalu tua hanner y cyfanswm blaenorol.

“Pan oedd y mamogiaid yn barod i wˆ yna allan ym mis Ebrill, roedd y glaswellt mewn cyflwr gwych.

“Roedd hi’n fuddiol iawn cael cyfle i sgwrsio’n uniongyrchol â ffermwr defaid profiadol sydd wedi gwneud y gorau o’i dir ei hun trwy weithredu system pori cylchdro dwys debyg.

“Mae cael Keith yn fentor wedi dangos y gallwn ni ddysgu mwy bob amser, ni waeth pa mor hyderus ydym ni yn ein galluoedd ein hunain.

Keith Williams

Gair i gloi gan Keith:

“Er bod William wedi defnyddio ei oriau mentora, mae ganddo lasbrint ar gyfer y dyfodol erbyn hyn.

“Rwyf wrth fy modd yn mentora, ac mae William yn gwybod y byddaf ar gael bob amseri ateb y ffôn ac yn fodlon ei gynorthwyo pan fydd arno angen cymorth gennyf.”

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.