Minister On-Farm to Discuss Project Progress

Mae Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, wedi ymweld â fferm ger Rhaeadr Gwy ym Mhowys sy’n rhan o gynllun i sicrhau bod Cig Oen Cymru yn parhau i arwain y byd o ran ansawdd.

Ymwelodd Ms Griffiths â fferm ddefaid Rob Lewis yng Nglanelan, sy’n edrych dros gronfeydd dŵr Cwm Elan, i glywed am gynnydd y Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru, sy’n defnyddio’r wyddoniaeth ddiweddaraf a phanel o gannoedd o flaswyr o blith y cyhoedd i werthuso’r ffactorau sy’n effeithio ar y blas, tynerwch a chynnwys maethol cig oen.

Mae Mr Lewis wedi cyflenwi ŵyn i’r Prosiect, sy’n rhan o Raglen Datblygu Cig Coch Hybu Cig Cymru (HCC), ac mae’n cynnwys sawl partner ar draws y gadwyn gyflenwi o ffermwyr a phroseswyr i ddefnyddwyr.

Mae cam presennol yr ymchwil yn gwerthuso effaith natur dymhorol a gwahanol rywiau cig oen ar flas ac ansawdd maethol y bwyd, yn ogystal â chyfansoddiad y cig o ran maetholion buddiol fel haearn, sinc a Fitamin D.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Roedd yn wych ymweld â fferm Rob Lewis yng ngolygfeydd godidog Cwm Elan, i drafod cynnydd Rhaglen Datblygu Cig Coch HCC, sy’n cael ei hariannu gan yr UE a Llywodraeth Cymru, ac yn arbennig y Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru arloesol.

“Mae’n buddsoddiad wedi’i gynllunio i gefnogi pobl i gynhyrchu bwyd o’r safon uchaf sydd wedi’i gynhyrchu’n gynaliadwy.

“Mae camau cynnar Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru eisoes wedi cynhyrchu canlyniadau diddorol o ran manteision maethol cig oen sy’n cael ei fagu yn y Ffordd Gymreig mewn systemau ffermio sy’n bennaf seiliedig ar laswellt.”

Dywedodd John Richards, Rheolwr Datblygu’r Diwydiant a Rhyng-berthynas HCC,

“Mae’r buddsoddiad strategol pum mlynedd yn Rhaglen Datblygu Cig Coch HCC yn dwyn ffrwyth, ac roeddwn yn falch iawn o fynd gyda’r Gweinidog i Raeadr Gwy i drafod cynnydd.

“Allforion cig coch o Gymru yw un o’r sectorau allweddol yn strategaeth fwyd Cymru, sy’n werth dros £200m y flwyddyn i’r economi, ac mae Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru wedi’i gynllunio i sicrhau ein bod yn parhau i arwain y byd o ran safon.”

Dywedodd Rob Lewis,

“Mae’n rhaid i ffermio yng Nghymru arloesi er mwyn goroesi mewn marchnad fyd-eang gynyddol gystadleuol. Rwyf wedi bod yn falch o helpu HCC drwy gyflenwi ŵyn benyw i’r Prosiect Ansawdd Cig.

“Edrychaf ymlaen at gael adborth ar yr hyn sy’n effeithio ar gyfansoddiad maethol ac ansawdd bwyta’r cig – o ran system gynhyrchu’r anifeiliaid. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn derbyn data perfformiad ŵyn a dadansoddiadau pridd a gasglwyd ar gyfer y prosiect. Bydd hyn yn helpu i wneud penderfyniadau busnes yn y dyfodol ac yn gwella effeithlonrwydd pesgi ŵyn o fewn system gynaliadwy sy’n seiliedig ar laswellt.”

Mae Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.