Lantra awards

Mae pawb a gafodd eu henwebu ar gyfer cynllun Gwobrau Lantra Cymru eleni wedi dangos eu hymrwymiad i ddysgu gydol oes a chynnal y safonau uchaf ar draws pob maes gwaith, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru. 

Mi wnaeth y Gweinidog ddiolch a llongyfarch holl enillwyr gwobrau eleni yn ogystal â’r darparwyr hyfforddiant a oedd wedi eu henwebu.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae Gwobrau Lantra Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ymrwymiad ac angerdd unigolion ledled Cymru. Da iawn i bawb gafodd eu henwebu, yr enillwyr a’r darparwyr hyfforddiant am eu holl waith caled gan gynnwys gwella effeithlonrwydd a chyflwyno syniadau arloesol pellach i’w dulliau o weithio.”

Llywydd y panel beirniaid eleni oedd yr amaethwr blaenllaw o Gymru Mr Peter Rees, cadeirydd Lantra Cymru, ac roedd aelodau eraill y panel yn cynnwys Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Dr Nerys Llewelyn Jones, sylfaenydd a Phartner Rheoli cyfreithwyr Agri Advisor a’r arbenigwr Iechyd a Diogelwch amaethyddol Brian Rees, cyn-gadeirydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru a mentor diogelwch fferm Cyswllt Ffermio.  

Dywedodd Mr Rees fod Gwobrau Lantra Cymru bob amser yn un o uchafbwyntiau’r calendr ffermio blynyddol yng Nghymru, ac ychwanegodd ei bod yn dyst i holl randdeiliaid gwledig y diwydiant, gan gynnwys colegau a darparwyr hyfforddiant, eu bod unwaith yn rhagor wedi nodi ac enwebu nifer o unigolion eithriadol, er gwaethaf yr heriau economaidd sy’n wynebu’r diwydiant ar hyn o bryd.   

“Mae cynllun Gwobrau Lantra Cymru, sydd bellach yn cael eu cynnal am y 28ain blynedd, yn gwobrwyo cyflawniadau dysgu gydol oes llawer o weithwyr sy’n defnyddio eu sgiliau a’u galluoedd niferus i gyfrannu nid yn unig at y diwydiant ffermio ond at raglen wledig ehangach Cymru, ein heconomi wledig ac at y cymunedau lle maen nhw’n byw ac yn gweithio.  

“Mae ymrwymiad clir yr holl unigolion sydd wedi cael eu henwebu i ddatblygiad proffesiynol parhaus a chyflawniadau yn y sectorau amgylcheddol a thir, yn gwneud cymaint i gynnal safonau proffesiynol, cyfredol yn ein diwydiant.

“Mae pob un ohonyn nhw’n gwneud cyfraniad sylweddol, nid yn unig yn eu maes gwaith penodol, ond i gynaliadwyedd a’r broses o foderneiddio amaethyddiaeth Cymru yn y tymor hir,” dywedodd Mr Rees. 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.