Mae ffilm fer newydd yn amlygu sut brofiad yw gweithio ym maes tyfu bwyd, a sut gwnaeth tyfwyr eu ffordd i mewn i yrfa mewn garddwriaeth. Gallwch ei wylio'n rhad ac am ddim yma: https://www.tyfucymru.co.uk/opportunities/training-educaion/careers-in-growing/

Gwahoddir ysgolion a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc i ddefnyddio’r ffilm i arddangos cyfleoedd ar gyfer eu dysgu a’u gyrfa yn y dyfodol. Mae'r ffilm yn cynnwys tyfwyr o bob rhan o'r DU gan gynnwys Growing for Change, Bangor a Cae Tan CSA, Gŵyr.

Os hoffech chi fewnosod y ffilm yn eich gwefan eich hun neu ar y cyfryngau cymdeithasol cysylltwch â Horticulture@lantra.co.uk

Angen mwy o wybodaeth am yrfaoedd ym maes tyfu?

Gall unrhyw un sydd eisiau dilyn yn ôl troed y tyfwyr ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, cyrsiau a swyddi yng Nghymru yn: https://www.tyfucymru.co.uk/opportunities/

Gweler hefyd wybodaeth Lantra sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd: https://www.lantra.co.uk/careers/Industry/Horticulture%20%26%20Landscaping

Gall ymadawyr ysgol sydd â diddordeb mewn addysg bellach berthnasol chwilio am golegau sy’n cynnig cyrsiau fel:

  • HNC Garddwriaeth (Cynhyrchu a Dylunio)
  • Diploma mewn Astudiaethau Tir (Anifeiliaid, Planhigion a Natur)
  • Diploma mewn Astudiaethau Tir (Amaethyddiaeth a Chefn Gwlad)
  • Diploma Lefel 2 NVQ mewn Garddwriaeth Adfywiol

Mae prentisiaethau hefyd ar gael gyda busnesau garddwriaethol.

Mae llawer o dyfwyr o amgylch y DU yn cynnal hyfforddeiaethau neu leoliadau fel interniaethau. Mae'r rhain a chyfleoedd gwirfoddoli yn aml yn cael eu hysbysebu gan Land Workers Alliance a Organic Growers Alliance. Mae WWOOF yn hyrwyddo gwirfoddoli ar ffermydd organig yn y DU ac yn fyd-eang.

Ynglŷn â'r prosiect

Crëwyd y ffilm fel rhan o Resilient Green Spaces i arddangos cyfleoedd i weithio yn y sector, ac i roi blas o sut beth yw’r swyddi hyn. Bu Lantra, Landworkers Alliance a Phrifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Mud&Thunder i ddatblygu’r ffilm.

Mae Mannau Gwyrdd Gwydn yn brosiect partneriaeth gwerth £1.27m sy'n cael ei arwain gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol i dreialu systemau bwyd eraill sydd wedi'u hail-leoleiddio gan ddefnyddio cymunedau a'u mannau gwyrdd fel y sbardun ar gyfer newid ledled Cymru tan fis Mehefin 2023. Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.