Sheep lung disease

Mae prosiect Hybu Cig Cymru yn rhoi sesiynau mentora ymarferol ar ffermydd i filfeddygon er mwyn taclo clefydau a chefnogi ffermwyr Cymru sy’n awyddus i fynd i’r afael ag afiechyd gwanychol ar ysgyfaint defaid.

Mae’r rhaglen Stoc+, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r UE, yn gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon i hybu rheolaeth iechyd a lles defaid a gwartheg, sydd yn ei dro yn helpu’r amgylchedd a busnesau amaethyddol. 

Mae gan adenocarsinoma pwlmonaidd defaid (OPA) a elwir weithiau yn ‘Jaagsiekte’ ganlyniadau dinistriol posibl mewn diadelloedd defaid. Mae’n glefyd heintus a achosir gan firws sy'n effeithio ar yr ysgyfaint a gellir ei drosglwyddo mewn mamogiaid trwy gyswllt trwyn-i-drwyn.

Diolch i ddatblygiad archwiliad uwchsain o ysgyfaint defaid gan filfeddygon wedi eu hyfforddi, mae Stoc+, prosiect rheoli iechyd diadelloedd a buchesi sy’n gweithio gyda ffermwyr Cymru, wedi rhoi cyfle i filfeddygon wella eu sgiliau a rhannu gwybodaeth hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r clefyd hwn. Yn ogystal â sesiynau hyfforddi ffurfiol a gefnogwyd gan HCC eleni, roedd cyfle mentora ar gael i filfeddygfeydd.

Yn ddiweddar gwahoddodd Roger a Ceri Squire o Fferm Tylacoch, Betws ym Mhen-y-bont ar Ogwr y milfeddyg profiadol Rosie Gibson o Bractis Milfeddygol Honddu i sganio eu praidd gyda’r milfeddyg, Siân Fuller, o Filfeddygfa South Wales Farm Vets yn derbyn sesiwn fentora yn ystod yr ymweliad fferm.

“Rydym wedi cael tri anifail yn dangos symptomau OPA dros y blynyddoedd,” eglurodd y ffermwr Ceri Squire sy’n gweithio mewn partneriaeth â’i gŵr Roger.

“Felly pan glywson ni y gallai Stoc+ ein cefnogi i ddod â milfeddygon yma, roedden ni’n awyddus i fwrw mlaen. Roedd clywed bod dau filfeddyg yn dod atom, gyda milfeddyg profiadol yn mentora’r llall yn newyddion da i ni.”

Defnyddiodd y milfeddyg, Rosie Gibson, ei sgiliau diagnostig uwchsain ar y praidd o dros 200 yn Tylacoch er mwyn gwirio iechyd ysgyfaint cyffredinol y defaid. Roedd rhoi cyngor i’r ail filfeddyg, Siân, a phrofiad ymarferol i adnabod problemau OPA yn hanfodol, wrth iddi hithau symud ymlaen a datblygu profiad pellach.

Yn ystod yr ymweliad dangosodd un ddafad o symptomau OPA. Gwahanwyd y famog oddi wrth y praidd a'i hanfon i'w difa.

“Rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad yn dilyn cyngor gan y milfeddygon y byddwn ni nawr yn sganio’n flynyddol. Byddwn hefyd yn sganio ein hyrddod dyflwydd cyn i’r arwerthiannau bridio ddechrau a byddwn hefyd yn difa unrhyw ŵyn o unrhyw famogiaid heintiedig, gan fod tystiolaeth yn awgrymu bod trosglwyddiad o’r fam i’r oen yn uchel.

“Mae’n glefyd gwanychol, a gorau po gyntaf y byddwn yn ei waredu o’n praidd, er lles ein hanifeiliaid ac effeithlonrwydd ein busnes.

Dywedodd Heather McCalman o gynllun Stoc+ Hybu Cig Cymru: “Rydym yn falch o weld bod Stoc+ yn galluogi milfeddygon i fentora mewn maes arbenigol fel OPA, trwy gysylltu mifeddygfeydd â’i gilydd. Gall y clefyd gael effaith ddifrifol ar fusnesau amaeth felly mae cael gwared ohono o’r praidd yn gam cadarnhaol.

“Mae rhannu gwybodaeth rhwng milfeddygon a ffermwyr yn galluogi busnesau fferm i fynd i’r afael â materion yn gynnar, ac o flwyddyn i flwyddyn, yn sicrhau bod unrhyw achosion sy’n ail godi yn cael eu trin yn gyflym.

Ychwanegodd Ceri Squire: “Hoffwn ddiolch i Hybu Cig Cymru a’i staff am y cymorth a’r cyngor parhaus rydym wedi ei gael. Helpodd y wybodaeth a'r sesiwn i gael gwared â phryderon oedd gennym am y clefyd. Achosodd y clefyd ansicrwydd i ni ond byddwn yn gallu mabwysiadu dull rhagweithiol nawr wrth symud ymlaen, nid yn unig i adnabod OPA, ond gobeithio, yn y tymor hir, ei ddileu.”

Mae Stoc+ HCC yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.