Mae Ffermydd Cymdeithasol a Gerddi yn galw ar gymunedau Yng Nghymru sydd am blannu ffrwythau bwytadwy a choed cnau neu ddechrau prosesu cynnyrch ffrwythau a chnau newydd fel rhan o'n prosiect Perllannau Cymunedol Cynhyrchiol. HEFYD, mae ein tîm Datblygu Rhandiroedd Cenedlaethol yn chwilio am dirfeddianwyr neu geiswyr tir i helpu i ddatblygu safleoedd rhandiroedd newydd ledled Cymru, mae'r ddau brosiect yn elfennau firaol o'n prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn gwerth £1.27 miliwn.

Mae Mannau Gwyrdd Gwydn yn brosiect partneriaeth sy’n cael ei arwain gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol er mwyn cynnal peilot o systemau bwyd ail-leoledig amgen ledled Cymru, gan ddefnyddio cymunedau a’u mannau gwyrdd fel sbardun dros newid, a hynny nes mis Mehefin 2023. 

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd drwy’r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig fel rhan o Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.

“Rydym wrth ein boddau’n lansio ein galwad am safleoedd ar gyfer perllannau cymunedol cynhyrchiol eto” meddai Gary Mitchell, Cyd-reolwr Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol Cymru.

“Mae’r gwaith hwn yn dilyn ein rownd gyntaf o geisiadau a hefyd ein prosiect Perllan dros Gymru hynod lwyddiannus yn 2020. Y tro hwn, rydym am gefnogi deg safle cymunedol sydd eisoes yn bodoli neu ddeg safle cymunedol newydd i blannu oddeutu 100 o goed ffrwythau a chnau bwytadwy a’u helpu i storio a phrosesu eu cynnyrch. Gofynnwn i unrhyw un sydd wedi bod yn ystyried y naill neu’r llall gysylltu â ni.”