Mae Megan a’i chwaer Bronwen wedi cymryd addewid Act4Food Act4Change. 

Mae'r addewid yn cynnwys cytuno i 10 Cam y mae pobl ifanc am i lywodraethau a busnesau eu cymryd i atgyweirio ein system fwyd. Mae'r rhestr hon wedi'i chreu gan yr ieuenctid ac mae dros 100,000 o bobl ifanc yn fyd-eang wedi pleidleisio arni!

Y gweithredoedd yw:

  1. Dylai pawb allu fforddio bwyd iach a maethlon
  2. Cefnogi ffermio cynaliadwy i adfywio ein priddoedd a lleihau cemegau niweidiol
  3. Dylai pob plentyn fwyta pryd iachus a chynaliadwy yn yr ysgol, coleg neu meithrin
  4. Addysgu pawb am fwyd a'i effaith ar ein planed ac ar ein iechyd
  5. Atal a gwrthdroi traw snewid defnydd tir, gan gynnwys datgoedwigo
  6. Gwahardd plastigion untro pecynnau bwyd a diod
  7. Gwerthfawrogi gwybodaeth leol a chynhenid am fwyd
  8. Creu cyflogaeth i ffermwyr ifanc ac amaeth-preneuriaid
  9.  Amddiffyn cynhyrchu bwyd rhag aflonyddwch gwleidyddol, gwrthdaro ac effeithiau newid hinsawdd
  10. Cefnogi tyfwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol gyda chymorthdaliadau a chymhellion treth

Mae Act4Food Act4Change yn ymgyrch sy’n cael ei harwain a’i chychwyn gan bobl ifanc sy’n ysgogi pŵer pobl ifanc, mae yn galw am system fwyd fyd-eang sy’n rhoi mynediad i bawb at ddietau diogel, fforddiadwy a maethlon, tra bod yn amddiffyn natur, taclo newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo hawliau dynol. Hyd yn hyn mae 160,105 o wedi addo.

Gallwch chi gymryd yr addewid a darganfod mwy o'u gwefan. https://actions4food.org/cy/

Yr addewid

Rydym yn gwybod bod ein systemau bwyd presennol yn cyfrannu at argyfyngau iechyd, hinsawdd a bioamrywiaeth parhaus ac yn thorri hawliau dynol. Dim ond gyda thrawsnewidiad sylfaenol o'n systemau bwyd y byddwn yn gallu cyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Er ein bod ni fel pobl ifanc wedi cael ein cau allan o’r rhan fwyaf o brosesau gwneud penderfyniadau gwleidyddol ac economaidd, ni hefyd yw’r rhai a fydd yn byw hiraf gyda’r
penderfyniadau a wneir heddiw.

Rydym yn addo gweithredu. Ac rydym yn mynnu gweithredu ar raddfa fawr ar frys o pobol arall, yn enwedig gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn llywodraeth a busnes.

Fel ieuenctid rydym ni #Act4Food #Act4Change er mwyn gefnogi #BwydiBod i Bawb

Mae Megan a Bronwen yn rhan o Brosiect Megan a’r Criw Bwyd .Mae’r prosiect Megan a’r Criw Bwyd, wedi llwyddo i dderbyn cyllid  gan RDP (Cynllun Datblygu Gwledig) Sir Gâr a’i Raglen Arweinydd/Leader. 

I ddarganfod mwy am Megan a’r Criw Bwyd, gallwch e-bostio ljwilliams@cetma.org.uk , chwiliwch am @CETMAWales neu @Meganandthefoodsquad ar Facebook, neu ffoniwch 01554227540.

I gael gwybod mwy am CETMA a’r gwaith y mae’n ei wneud, ewch i: www.cetma.org.uk