Mainc Sian

Rhwng y 9fed a’r 15fed o Fai mi fydd hi’n Wythnos Iechyd Meddwl â’r prif thema i’r wythnos hon yw unigrwydd. Ar draws Gwynedd mae Pontio’r Cenedlaethau a Llwybrau Llesiant wedi cyd-weithio â sawl partner a bellach mae dros ddeg mainc ar draws y sir drwy gynllun Meinciau Cyfeillgarwch.  Mae’r dair mainc diweddaraf wedi eu ariannu gan Arloesi Gwynedd Wledig drwy cynllun LEADER a mae’r dair mainc i’w gweld yn dref Porthmadog.

Tri artist lleol sydd wedi gweithio ar y meinciau,

Fiorella Wyn from Porthmadog
Fiorella Wyn o Borthmadog

 

Sian Elen from Groeslon
Sian Elen o Groeslon

 

Mainc Llyr
Mainc Llyr Williams o Trawsfynydd

 

Mae mainc Fiorella i’w gweld ym mharc Porthmadog ac wedi’i ysbrydoli gan fyd natur yr ardal. Mae mainc Sian Elen i’w gweld ger parc Bodawen a Sian wedi cyd-weithio a chriw Clwb Ni Llwybrau Llesiant er mwyn casglu syniadau ac ysbrydoliaeth o fyd natur y Glaslyn. Cafodd Llyr ysbrydoliaeth gan griw Hafod y Gest, Grŵp Cynefin wrth iddynt drafod beth oedd yn bwysig iddyn nhw ym Mhorthmadog a mae’r fainc yma i’w gweld wrth ymyl Siop Fawr Portmeirion.

Rydym wedi cyd-weithio yn agos ag Adran Priffyrdd, Cyngor Gwynedd a chyda Cynghorydd Nia Jeffreys a’r cyn Gynghorydd Selwyn Griffiths ar y prosiect yma a ddywedodd: 

“Fel cyn Bencampwr Pobl Hyn Gwynedd ac is-gadeirydd presennol Cyngor Tref Porthmadog hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cydweithio gyda’r prosiect yma yn y dref. Mae y gwaith sydd wedi ei wneud ar y meinciau o safon uchel iawn ac fe hoffwn ddiolch i’r tri arlunydd am eu gwaith lliwgar ac addas i gymeriad tref Porthmadog. Mae ymateb y cyhoedd wedi bod yn eithriadol o bositif ac yn sicr wedi cymell pobli fynd i’w gweld a chael sgwrs. Fe fyddwn wrth fy modd pe baem yn y dyfodol yn gallu adeiladu ar y gwaith yma drwy gael meinciau mewn ardaloedd arall yn ein cymuned wedi eu peintio.

Rydym yn gobeithio y bydd y meinciau hyn yn gyfle i drigolion Porthmadog eistedd arnynt i gael sgwrs a blaguro cyfeillgarwch. Os eisteddwch ar y meinciau pan yn teimlo ychydig yn unig mae’n wahoddiad i rhywun ymuno â chi am sgwrs ac yn dilyn dwy flynedd ar wahân beth well na meinciau i ddod a phobl ynghyd.”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.