Pigs / Moch

Mae Menter Moch Cymru wedi cyhoeddi estyniad i’w Gynllun Iechyd y Genfaint, gan alluogi cenfeiniau moch llai i dderbyn cymorth critigol yn ystod cyfnod hollbwysig i’r sector. 

Mae Cynllun Iechyd y Genfaint yn rhoi cyfle unigryw i gynhyrchwyr moch godi proffidioldeb a pherfformiad y genfaint trwy wella iechyd eu cenfeiniau.
Drwy Menter Moch Cymru, gall ffermwyr moch cymwys yng Nghymru gael mynediad at gyllid 100% tuag at eu cynllun iechyd y genfaint a chyngor wedi’i deilwra i helpu i wella iechyd a chynhyrchiant eu cenfaint.

Mae’r cynllun yn meithrin perthynas waith agos rhwng ffermwyr a milfeddygon, gan greu strategaeth sydd wedi’i theilwra i anghenion y fferm a’r genfaint unigol. A bydd ymwelwyr â’r Sioe Frenhinol yr wythnos nesaf yn gallu darganfod mwy am Gynlluniau Iechyd y Genfaint ar stondin Menter Moch Cymru ger y Cylch Moch.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “Gyda heriau gan gynnwys costau cynhyrchu cynyddol ar draws y sector amaethyddol, rydym wedi newid meini prawf cymhwysedd y cynllun Iechyd y Genfaint er mwyn caniatáu i fwy o geidwaid moch yng Nghymru gael mynediad at y cyllid sydd ar gael.

“Prif nod cynllun iechyd y genfaint yw hyrwyddo lles anifeiliaid trwy reoli problemau iechyd a ganfuwyd fel y gellir eu rheoli trwy atal. Mae iechyd anifeiliaid gwell yn arwain at broffidioldeb a pherfformiad cenfaint gwell a busnes mwy cynaliadwy.”

Nod cynllun iechyd milfeddygol yw lleihau’r risg o glefydau newydd yn cael eu cyflwyno i’r genfaint foch trwy fioddiogelwch effeithiol a rheoli unrhyw heintiadau ar y fferm trwy reolaeth dda.

Bydd cynnal safonau uchel o raglenni hylendid a thriniaeth ataliol o fewn cynllun iechyd effeithiol yn:

  • Gwella iechyd y genfaint, rheoli clefydau a lles moch
  • Lleihau colledion cynhyrchu
  • Cynyddu effeithlonrwydd, elw a chynaliadwyedd fferm

Unwaith y bydd cais wedi’i gymeradwyo, bydd milfeddyg yn cynnal ymweliad ymgynghori â’r fferm i gymryd samplau sgrinio iechyd, a bydd y canlyniadau’n helpu i lunio cynllun iechyd y genfaint. Ar ôl ei gwblhau a thalu amdano, gall y cynhyrchydd hawlio hyd at uchafswm o £400 tuag at gost y cynllun.

Hefyd, mae Menter Moch Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Milfeddygaeth Cymru, Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid ac Iechyd Da i ddarparu hyfforddiant CDP pwrpasol i filfeddygon Cymru i sicrhau eu bod yn hyderus ac yn meddu ar y sgiliau i gyflawni cynllun iechyd y genfaint ar gyfer mentrau moch.

Dywedodd Melanie Cargill, “Rydym yn gobeithio y bydd llawer mwy o gynhyrchwyr moch yng Nghymru yn dod ymlaen i gael mynediad at y cymorth hwn, a fydd yn gwella iechyd eu cenfeiniau, a gobeithio, eu harian hefyd.”

Ewch i www.mentermochcymru.co.uk i gael rhagor o wybodaeth ac i gael gafael ar y ffurflen Mynegi Diddordeb. Gyda’r prosiect yn dod i ben ym mis Tachwedd 2022, anogir busnesau i wneud cais yn fuan i osgoi cael eu siomi. Rhaid i bob hawliad Cynllun Iechyd y Genfaint ddod i law cyn 30 Tachwedd 2022.

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.