Study Tour 1

Mae Menter Moch Cymru (MMC) yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr moch ddysgu gan rai o gynhyrchwyr mwyaf llwyddiannus ac arloesol y DU fel rhan o daith astudio i Ddyfnaint yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd y daith astudio am dridiau yn Nyfnaint (Mawrth 28-30) yn cynnwys ymweliadau â chynhyrchwyr porc, proseswyr, a manwerthwyr sydd wedi datblygu cyfleoedd marchnad arloesol.

Dyma’r daith astudio gyntaf i MMC ei chynnal ers dyfodiad y Covid-19, a bydd llawer o’r siaradwyr gwadd yn rhannu eu profiadau o weithredu mewn pandemig a sut mae bod yn wydn ac ymaddasol wedi eu galluogi i ddod i’r brig.

Mae Dyfnaint wedi sefydlu ei hun fel cyrchfan bwyd poblogaidd i dwristiaid yn y DU, gyda’i siopau fferm o safon uchel a thafarndai gastro sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r daith yn cynnwys ymweliad â River Cottage, y tyddyn organig a sefydlwyd gan y cogydd, y newyddiadurwr a’r ymgyrchydd bwyd Hugh Fearnley-Whittingstall. Bydd y grŵp MMC yn mwynhau cwrs ‘Cyflwyniad i Charcuterie’ ymarferol a gyflwynir gan y crefftwr blaenllaw Steve Williams.

Ar y deithlen mae ymweliad â fferm a chigydd arobryn Pipers Farm, sy'n cyrchu cig gan ffermwyr ar raddfa fach ledled Gorllewin Lloegr. Bydd y grŵp MMC hefyd yn mynd i The Meat Box Company yn Elston Farm, lle byddant yn gweld lladd-dy symudol cyntaf y DU wedi’i gymeradwyo’n llawn ac yn clywed am gynaliadwyedd a phrosiectau ymchwil y fferm - yn enwedig sivopasture, masnachu carbon a ffermio adfywiol.

Mae’r daith astudio hefyd yn cynnwys Ben’s Farm Shop, sy’n cynnwys Riverford Farm, pedair siop fferm a bar tapas. Yno, bydd y grŵp yn cael blas ar borc lleol a chlywed stori Ben’s Farm Shop gan y perchennog Harry Watson. Hefyd yn siarad yn ystod yr ymweliad bydd y ffermwr Simon Price, sydd â mwy na 40 mlynedd o brofiad o gynhyrchu moch maes. Mae Simon yn cyflenwi nifer o allfeydd adnabyddus a bydd yn rhannu mewnwelediad i’w ddulliau ffermio, ei ymrwymiad i arferion ffermio cynaliadwy a’r gwersi y mae wedi’u dysgu ar hyd y ffordd.

Mae yna hefyd ymweliad â Kenniford Farm, sy'n adnabyddus am ei phorc lles uchel arobryn, ei siop ar-lein a'i fusnes arlwyo a rhostio mochyn llwyddiannus.

Yn ystod eu harhosiad yn Nyfnaint, bydd y grŵp yn cyfarfod a chlywed gan John Sheaves, Prif Swyddog Gweithredol Taste of the West, y grŵp bwyd rhanbarthol annibynnol mwyaf yn y DU. Mae Taste of the West yn cynnal cynllun gwobrau blynyddol ac yn hyrwyddo cynnyrch lleol.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “Gall treulio amser yn ymweld â busnesau eraill fod yn ffordd werthfawr o ddarganfod gwell dulliau o weithio. Mae’n gyfle i weld arfer gorau ar waith a dod â syniadau newydd yn ôl i arloesi eich menter.

“Mae llawer o gynhyrchwyr moch yn Nyfnaint yn rhannu heriau tebyg i rai Cymru. Mae’n ardal sy’n frith o unedau moch bach sy’n cynhyrchu porc o frid prin traddodiadol o ansawdd uchel.”

Mae teithiau astudio blaenorol yr MMC wedi rhoi syniadau a chyngor ymarferol i gynhyrchwyr o Gymru sydd wedi mynd ymlaen i'w defnyddio ar eu ffermydd eu hunain.

Dywedodd cynhyrchydd o Sir Fynwy, Kyle Holford o Forest Coalpit Farm a deithiodd i Gernyw gyda MMC ar daith astudio flaenorol,

“Roedd y daith astudio yn ysbrydoledig. Roedd yn dda gweld enghreifftiau a chamau amrywiol o gynhyrchu porc a chadwyni cyflenwi. Cefais lawer o awgrymiadau a syniadau defnyddiol y byddaf yn eu defnyddio ar fy fferm. Fe wnes i hefyd gysylltiadau gwych â ffermwyr o’r un meddylfryd.”

Dywedodd cyd-aelod o daith flaenorol Mark Evans: “Prif uchafbwynt y daith imi oedd y rhyngweithio a’r drafodaeth rhwng aelodau’r grŵp. Roedd yr holl ymweliadau yn ysbrydoledig ac yn rhoi llawer inni siarad amdano. Mae gennyf lawer o ganllawiau i’w dilyn yn dilyn y trafodaethau.”

Cynhelir y daith astudio am dri diwrnod rhwng dydd Llun 28ain a dydd Mercher 30ain o Fawrth a chaiff ei sybsideiddio'n helaeth gan brosiect MMC; felly, dim ond yn costio £60 y/p. Mae hyn yn cynnwys 2 noson o lety, cludiant, prydau bwyd a phob ymweliad a sgwrs.

Ychwanegodd Melanie Cargill, “Mae hwn yn gyfle gwych i geidwaid moch yng Nghymru i ymweld â llu o fusnesau gwybodus ac ysbrydoledig. Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu gyda cheidwaid moch bach a chanolig mewn golwg, sy’n gwerthu’n uniongyrchol neu drwy gadwyni cyflenwi byr. Er bod croeso mawr i unrhyw randdeiliaid o fewn y sector fynychu. Bydd y rhaglen orlawn yn sicr yn gadael y mynychwyr gyda syniadau ymarferol y gallent eu rhoi ar waith yn eu busnesau eu hunain.

Ewch i www.mentermochcymru.co.uk neu ffoniwch 07494 478 652 am fwy o wybodaeth.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Study Tour 2