Helen Gwenllian - Executive Chair

 

Croesawa Menter Mynyddoedd Cambrian Cwmni Budd Cymunedol Helen Gwenllian fel Cadeirydd Gweithredol i arwain uchelgais y mudiad. Mae Helen yn ymuno wrth i Ieuan Joyce ymddeol wedi dros chwe mlynedd wrth y llyw, 

“Rydym yn ymfalchio wrth groesawi Helen fel y Cadeirydd newydd. Mi wneith y rhanbarth elwa yn fawr o’i phrofiad a sgiliau.” Mi fydd Ieuan yn parhau fel Cyfarwyddwr Anweithredol i'r corff.

Roedd Helen yn rhan o ddyddiau cynnar y mudiad ac y mae’n dychwelyd i roi arweiniad cadarn ar ddatblygu elfennau masnachol a pharhau i ddatblygu prosiectau cydweithredol.

Mae Helen wedi cynnal sawl apwyntiad uwch fel ymarferydd gwledig. Gan gynnwys fod yn gyn-Cydweithredwr Anweithredol i Hybu Cig Cymru a Chomisiynydd ar gyfer Comisiwn Isadeiledd Cymru. Helen oedd prif-awdur Gweledigaeth ar gyfer Cymru Wledig i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn gweithio ar ran y naw awdurdod gwledig yng Nghymru.

Serch hynny, mae ei hesgidiau yn gadarn ar lawr gwlad fel entrepreneur ac ymgynghorydd busnes sy'n cefnogi busnesau bach a chanolig. Hi hefyd yw sylfaenydd Merched Medrus, grŵp datblygu busnes ar gyfer menywod sy'n rhedeg busnesau gwledig yng Ngheredigion.

“Mae busnesau bach annibynnol yn chwarae rhan hanfodol ym mywiogrwydd cymunedau gwledig. Roedd y ddrama ddiweddar am sgandal Horizon yn amlygu pa mor fregus y gallant fod - yn enwedig wrth gyflenwi cyrff llawer mwy o faint. Mae Menter Mynyddoedd Cambrian CBC yma i hyrwyddo busnesau annibynnol gwych y rhanbarth trwy hyrwyddo'r ardal fel cyrchfan ‘Syfrdanol’ i'r ymwelydd soffistigedig. Fy ngweledigaeth i yw i swyno gyda’n storïau, a hyrwyddo’r cynnyrch lleol fel cynnyrch sy’n honi wrth galon Cymru,” meddai Helen.

Nid oes amheuaeth bod yr hinsawdd bresennol yn heriol i bob busnes gwledig. Mae Mynyddoedd y Cambrian yn cynrychioli rhannau gwledig dyfnaf Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys. Cymunedau yn yr ardaloedd yma fydd y cyntaf i brofi effeithiau toriadau y sector cyhoeddus a byddant yn eu teimlo'n ddifrifol. Ynghyd â gostyngiad disgwyliedig o 10% mewn cymorth fferm uniongyrchol, ni chollir difrifoldeb yr hinsawdd bresennol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Fenter.

“Mae Menter Mynyddoedd Cambrian CBC yma i gefnogi datblygiad gwledig lle mae busnesau da yn gwneud eu 'ceiniog' tra'n cadw cariad dwfn tuag at eu 'cynefin' a'u 'cymdogaeth'. Yn hollol groes i arferion busnes annheg sy’n tynnu adnoddau o’r gymuned wledig, hoffwn gyfeirio ato fel 'economeg calonogol', sy'n chwarae rhan gref ym mrand Mynyddoedd Cambrian.”

“Mae'r dirwedd wyllt hon yn gysur i'r enaid, a thra bod nifer yn ymweld a’r ardal am lonyddwch, rwyf am i fusnesau a chymunedau Mynyddoedd Cambrian i ddeall nad ydynt nhw ar eu pennau eu hunain."