Welsh Vets on the Menter Moch Cymru Pig CPD course at Forest Coalpit Farm

Mae Menter Moch Cymru yn helpu milfeddygon Cymru i ehangu eu gwybodaeth am iechyd moch gyda chyfres o ddiwrnodau hyfforddi manwl ac ymarferol.

Dan arweiniad Menter Moch Cymru, gan weithio gyda Chanolfan Milfeddygaeth Cymru (WVSC), Iechyd Da, a Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid – mae amserlen hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn cynnwys cymysgedd o ddiwrnodau ymarferol a darlithoedd.

Ychydig wythnosau yn ôl, teithiodd milfeddygon i Fferm Forest Coalpit ger y Fenni ar gyfer diwrnod ymarferol o hyfforddiant uned awyr agored mewn dulliau asesu ar gyfer archwilio moch, hwsmonaeth moch a rheoli, trin, bioddiogelwch, a samplu ar gyfer proffilio iechyd.

Aethpwyd â nhw ar daith o amgylch y fferm arobryn, sy’n magu ei frid ei hun o foch ‘Duon Cymreig’ (cymysgedd o foch traddodiadol Duroc a Moch Du Mawr).

Mae'r ymweliad yn rhan o raglen ddwys o chwe diwrnod o hyfforddiant a gynhelir rhwng mis Mai a mis Medi ac a ddarperir gan y milfeddyg moch arbenigol Dr Annie Davis o George Veterinary Group, ynghyd â llu o siaradwyr gwadd arbenigol.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, Melanie Cargill,

“Rydym yn falch iawn o gael gweithio unwaith eto gyda WVSC, Iechyd Da, a Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid i ddarparu cyrsiau DPP sy’n canolbwyntio ar foch ar gyfer milfeddygon Cymru.

“Mae’r cyrsiau’n caniatáu i filfeddygon gael profiad ymarferol o drin moch, a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth fanwl iddynt ac yn eu cynorthwyo ymhellach yn y gwasanaethau y maent yn eu darparu i’w cleientiaid.”

Dywedodd Swyddog Datblygu Menter Moch Cymru, Lauren Smith,

“Roedd y cwrs hwn yn hynod boblogaidd pan wnaethom ei gynnal yn 2019, ac mae’n wych gweld y brwdfrydedd sydd wedi bod ar gyfer cwrs 2022. Ar ôl dwy flynedd o hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar-lein, mae’n wych gallu dychwelyd i DPP wyneb yn wyneb.”

“Roedd diwrnod DPP y milfeddyg yn Fferm Forest Coalpit yn llwyddiant mawr. Roedd yn gyfle gwych i filfeddygon wella eu sgiliau a chynyddu eu hyder wrth weithio gyda moch. Yn dilyn diwrnod ymarferol blaenorol yn gweithio gyda moch dan do, cafodd y milfeddygon gyfle i roi eu sgiliau ar brawf ar fferm awyr agored a gwella eu gwybodaeth am filfeddygaeth moch."

Dywedodd Ymchwilydd Clefyd Milfeddygol a Rheolwr Patholeg WVSC, Dr Beverley Hopkins,

"Waw, am ddiwrnod. Fferm yn llawn moch hapus a chyfle gwych i ni i gyd ddysgu gan Kyle a Lauren. Dysgais gymaint ganddyn nhw. Yr heriau maen nhw’n eu hwynebu, nid oes unrhyw flwyddyn byth yr un fath mewn ffermio moch, mae'n rhaid i chi fod yn gwbl barod i newid y ffordd yr ydych yn gwneud pethau."

Roedd pynciau blaenorol yn y cwrs DPP chwe diwrnod yn ymdrin â phynciau gan gynnwys fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, gwyliadwriaeth clefydau, TB, maeth, dangosyddion cynhyrchu a pherfformiad, yn ogystal â beichiogrwydd a porchella.

Aeth milfeddygon hefyd ar daith o amgylch uned foch dan do yng Nglynllifon yng Nghaernarfon, lle'r oedd y cwrs yn canolbwyntio ar samplu gwaed gwyliadwriaeth, cynlluniau iechyd, a defnydd cyfrifol o wrthfiotigau.

Cynhelir dwy uned olaf y cwrs yn gynnar ym mis Medi yn WVSC a byddant yn cynnwys theori post-mortem moch ac archwiliadau, cynllunio iechyd pwrpasol, gwirio perfformiad, a datblygiadau arloesol yn y dyfodol.

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.