On farm visit

Bydd canlyniadau ac argymhellion cyfarfod cynta'r Grŵp Cynghori Technegol (TAG) ar TB Gwartheg yn cael eu cyhoeddi heddiw.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf TAG ar 17 Ebrill, a'r flaenoriaeth oedd trafod y polisi ar ladd gwartheg ar y fferm sydd wedi cael adwaith i brawf TB a pharatoi cyngor.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies wedi derbyn argymhellion y Grŵp yn llawn.

Bydd newidiadau'n cael eu gwneud ar unwaith i'r polisi lladd ar y fferm. Y nod yw lleihau nifer y gwartheg sy'n gorfod cael eu lladd ar ffermydd yng Nghymru.

Y prif resymau dros ladd ar y fferm o ran rheoli TB yw naill ai am nad yw'n bosib i'r anifail deithio am resymau lles, er enghraifft, os na fydd yn hir cyn bwrw llo, neu oherwydd cyfnodau cadw meddyginiaeth o'r gadwyn fwyd.

Bydd ffermwyr yn cael gohirio symud buwch neu dreisiad (heffer) yn ei 60 diwrnod olaf o feichiogrwydd ac anifeiliaid sydd wedi geni llo yn y 7 diwrnod diwethaf, cyn belled â'u bod yn cymryd mesurau bioddiogelwch i amddiffyn gwartheg eraill y fuches. Yn yr un modd, bydd rhywfaint o hyblygrwydd i ynysu a gohirio'r symudiad os bydd y cyfnod cadw meddyginiaeth o'r gadwyn fwyd yn dod i ben ymhen ychydig ddyddiau, ond ystyrir pob achos yn ôl ei rinweddau.

Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru, NFU Cymru, FUW a chynrychiolwyr eraill o'r sector gwartheg yn sefydlu gweithgor partneriaeth dan arweiniad y diwydiant i weld sut y gellid osgoi lladd ar y fferm a lleihau ei effeithiau, trwy gyd-ddylunio a chyd-gyflawni.

I weld sut mae TB yn effeithio ar deuluoedd ffermio, ymwelodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig â Fferm Rhadyr ym Mrynbuga yn ddiweddar lle cafwyd achos o'r TB.

Yn ogystal â'r teulu, cyfarfu'r Ysgrifennydd Materion Gwledig ag Undebau Ffermio a milfeddygon yn ystod yr ymweliad i gael cyfle i wrando ar ystod o safbwyntiau ar TB ac ar ladd ar y fferm.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: 

Rydym wedi gweld y trallod y mae TB yn ei achosi i deuluoedd a busnesau ffermio.

Gall lladd gwartheg ar y fferm achosi diflastod ofnadwy i'r rheini sy'n ei weld yn digwydd a chael effaith niweidiol ar les ac iechyd meddwl ffermwyr a gweithwyr fferm. 

Ei effaith ar ffermwyr, eu teuluoedd a'u busnesau sydd flaenaf ar fy meddwl.

Hoffwn ddiolch i TAG am weithio'n gyflym i gyflwyno'r argymhellion hyn ar bwnc mor sensitif. Gallwn nawr ddechrau ystyried sut i wneud newidiadau cadarnhaol i'r rhaglen TB.

Allwn ni ddim cael gwared ar TB ar ein pennau ein hunain. Mae gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a milfeddygon yn hanfodol er mwyn cyrraedd y nod cyffredin o Gymru heb TB.