Chefs of the future contribute to Welsh Lamb research

Roedd grŵp o gogyddion y dyfodol ymysg bron i 500 o bobl a gymrodd rhan mewn prosiect ymchwil cyffrous sy’n casglu adborth cwsmeriaid ar suddlonder a blas Cig Oen Cymru.

Ymunodd yr ugain myfyriwr o Goleg Cambria â 480 o gwsmeriaid a flasodd ac a farciodd cyfanswm o 3,360 sampl o Gig Oen Cymru yn y gyfres ddiweddaraf o dreialon blasu a gynhaliwyd ym misoedd olaf 2021.

Bydd y 480 o gwsmeriaid yn ychwanegu at y sampl o 2,000 cwsmer yn ystod y prosiect sy’n cael ei redeg gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Mae Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru HCC yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch sydd, dros gyfnod o bum mlynedd, sy’n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn ceisio sicrhau bod Cig Oen Cymru yn cadw ei enw da ledled y byd trwy astudio hoffterau defnyddwyr a thrwy ddadansoddiad gwyddonol o amrywiaeth o samplau cig oen.

Bob blwyddyn maer prosiect yn archwilio gwahanol ffactorau ar y fferm, a ffactorau prosesu a allai ddylanwadu ar yr ansawdd bwyta. Llynedd, roedd y cig a samplwyd yn y paneli blasu yn edrych ar ddiet pesgi ŵyn a chyfnod aeddfedu’r cig.

Yn ystod y paneli blasu, gofynnir i’r cwsmeriaid sgorio saith darn o Gig Oen Cymru ar briodoleddau ansawdd cig; tynnerwch, suddlonder, blas, arogl, a hoffter cyffredinol. Mae’r paneli blasu cwsmeriaid yn targedu amryw o grwpiau er mwyn cael cynrychiolaeth gywir o ddefnyddwyr y cynnyrch.

Dywedodd Paul Smith, cogydd aseswr yng Ngholeg Cambria, a ddaeth gyda’r grŵp o fyfyrwyr, “Roedd yn ddigwyddiad wirioneddol ysbrydoledig i’r myfyrwyr newydd gymryd rhan ynddi, ac yn gyflwyniad anhygoel i gynnyrch lleol o Gymru.”

Ychwanegodd ail cogydd aseswr, John Webster, “Rhoddodd y digwyddiad gyfle gwych i’r myfyrwyr ddeall pwysigrwydd gweithio gyd ffermwyr lleol a helpu gwella ansawdd cynnyrch o Gyrmu.”

Gyda’r paneli blasu ar gyfer y treial hwn wedi’u cwblhau, bydd y data yn cael ei ddadansoddi ac mi fydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i sefydlu asesiad o amrywiad ansawdd cig a fydd ar gael i’r gadwyn gyflenwi ynghyd ag adroddiad llawn o’r canlyniadau ddiwedd y gwanwyn.

Esboniodd John Richards, Rheolwr Datblygu’r Diwydiant a Chydberthynas HCC, “Bydd yr asesiad yn helpu hysbysu’r gadwyn gyflewni o’r fferm i’r plât, ac yn helpu i ddeall dewis cwsmeriaid o ran blas a gwaead ac yn gwella’r profiad ansawdd bwyta Cig Oen Cymru i’r cwsmer modern.

“Hyd yn hyn, mae’r paneli blasu wedi cael eu cynnal mewn dinasoedd ar draws y DU gan gynnwys Caer, Reading a Chaerdydd. Tra mae prif nod y paneli yw casglu adborth gwerthfawr, mae hefyd yn cynnig cyfle pwysig i dynnu sylw at fuddion maethol o fwyta cig oen i gwsmeriaid.”

Mae’r Prosiect  gan HCC yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.