Gwobrau LANTRA Cymru


“Mae pob un a enwebwyd ar gyfer cynllun Gwobrau Lantra Cymru eleni wedi dangos eu hymrwymiad i ddysgu gydol oes, i gynyddu effeithlonrwydd, cyflwyno arloesi a chynnal y safonau uchaf ar draws pob maes gwaith,” dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

O ganlyniad i gyfyngiadau Covid 19, a oedd yn golygu y bu'n rhaid trefnu a beirniadu'r cynllun gwobrwyo o bell, roedd y Gweinidog wedi recordio neges ymlaen llaw, a ryddhawyd heddiw (dydd Mawrth, 9 Chwefror), lle yr enwodd holl enillwyr gwobrau eleni, gan longyfarch a diolch i'r holl rai a enwebwyd, yn ogystal â chyfranogwyr o flynyddoedd blaenorol.

Perthnasol:

Datganiad llawn yma

Lluniau'r enillwyr 

Cyhoeddiad Gwenidog 

Gwobrau Lantra Cymru 2021.doc