Nicola Dickenson- pigs on farm

Mae ffermwyr o Sir Gaerfyrddin sy’n frwd dros eu cenfaint wedi sicrhau eu bod yn wynebu’r dyfodol mewn sefyllfa dda drwy fanteisio ar y cymorth iechyd y genfaint a gynigir gan Menter Moch Cymru.

Mae Martin a Nicola Dickenson o gwmni “Pasture Perfect”, Fferm Esgair yn Llanpumsaint wedi gweld cryn wahaniaeth i’w cenfaint foch - a chyllid y fferm - ers gweithredu Cynllun Iechyd y Genfaint.

Mae’r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i gynhyrchwyr moch godi proffidioldeb a pherfformiad drwy wella iechyd eu cenfaint, a thrwy Menter Moch Cymru gall ffermwyr moch cymwys yng Nghymru gael mynediad at gyllid o 100% tuag at eu cynllun iechyd eu hunain, yn ogystal â chyngor wedi’i deilwra i helpu i wella iechyd a chynhyrchiant eu cenfaint.

Dywedodd Nicola Dickenson: “Roedd cynllun iechyd y genfaint yn gyfle gwych i ni. Mae wedi bod yn gam cadarnhaol i’r cyfeiriad cywir. Mae wedi rhoi man cychwyn gwych i ni felly mae gennym ni syniad clir o ble rydyn ni nawr a statws iechyd ein moch.”

Mae’r cynllun yn meithrin perthynas agos rhwng ffermwyr a milfeddygon, gan greu strategaeth sydd wedi’i theilwra i anghenion y fferm a’r genfaint unigol.

“Roedd yn wych cael trafodaeth gyda’r milfeddyg am ein moch. Roeddwn i'n arfer cadw moch a gobeithio am y gorau bod popeth yn mynd i fod yn iawn. Ar ôl ymweliad y milfeddyg, sesiwn cynghori manwl a derbyn y canlyniadau o samplau gwaed y moch, roeddem yn gallu targedu triniaeth ataliol a chael gwell ffocws ar gynhyrchu.

“Heddiw rydyn ni’n gwybod yr heriau mae’r moch yn eu hwynebu, ac wrth symud ymlaen rydyn ni’n gwneud gwell penderfyniadau i’n cenfaint yn ogystal ag elwa’n ariannol.”

Ychwanegodd Nicola Dickenson: “Rwyf mor hapus gyda pherfformiad y moch. Roeddwn i’n arfer eistedd a meddwl, ‘ydw i’n gwneud popeth fel y dylwn i?’, ond ar ôl cwblhau cynllun iechyd y genfaint rwy’n llawer mwy hyderus, a dwi’n gwybod heddiw fy mod yn gwneud fy ngorau i’r moch.”

“Byddwn yn annog yr holl gynhyrchwyr moch i sefydlu eu cynllun iechyd eu hunain, ac yn sicr i fanteisio ar y cyllid o 100% gan Menter Moch Cymru. Roedd yn broses mor hawdd. Mae’n gam cadarnhaol i’r cyfeiriad cywir ar gyfer busnesau moch yma yng Nghymru.”

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Elin Haf Jones, Swyddog Datblygu Menter Moch Cymru, “Nod cynllun iechyd y genfaint yw gwella iechyd, rheoli afiechyd, a lles y moch. Yn y pen draw mae hyn yn arwain at gynnydd mewn effeithlonrwydd fferm, elw, a chynaliadwyedd.

“Mae’r broses yn cynnwys ymgynghoriad milfeddygol a sgrinio iechyd y genfaint ar gyfer amrywiaeth o glefydau; yn ogystal â chyngor ar frechu, bioddiogelwch, a pherfformiad bridio.

“Mae’n wych gweld cynhyrchwyr moch fel Nicola Dickenson yn defnyddio’r cyllid a’r gefnogaeth sydd ar gael gan Menter Moch Cymru. Yn enwedig wrth glywed am yr effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar y fferm.”

Yn ogystal â hyn, dros y 3 blynedd diwethaf, mae Menter Moch Cymru, mewn partneriaeth â Chanolfan Milfeddygaeth Cymru, Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid ac Iechyd Da, wedi bod yn darparu hyfforddiant CDP pwrpasol i Filfeddygon Cymru i sicrhau eu bod yn hyderus ac yn wybodus ynghylch sut i gyflawni cynllun iechyd y genfaint ar gyfer menter foch. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno unwaith eto eleni.

Prif nod cynllun iechyd y genfaint yw hybu lles anifeiliaid trwy reoli problemau iechyd. Mae iechyd anifeiliaid gwell yn arwain at broffidioldeb a pherfformiad cenfaint well a busnes mwy cynaliadwy.