One planet launch

Yr wythnos hon, lansiwyd prosiect newydd a gyllidir gan Lywodraeth Cymru sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn y Drenewydd i ystyried materion ym maes newid yn yr hinsawdd. 

Mae Prosiect y Genhedlaeth Un Blaned, yn cael ei gydlynu gan Agor Drenewydd, sef ymddiriedolaeth datblygu annibynnol a menter gymdeithasol sy’n rheoli 130 erw o fannau gwyrdd yn Y Drenewydd.

Mae’r prosiect, sy’n parhau am ddwy flynedd, eisoes wedi dechrau gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu syniadau newydd o ran sut gall pobl leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Mae Cadetiaid Heddlu’r Drenewydd wedi bod yn ymchwilio i ôl-troed carbon bwydydd gwahanol, ac ystyried atebion i leihau’r effaith.

Yn y cyfamser, mae myfyrwyr sy’n astudio celf a dylunio yng Ngholeg NPTC Y Drenewydd wedi bod yn defnyddio celfyddydau gweledol i gyfleu’r argyfwng yn yr hinsawdd ac i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y broblem hon. Mae’r myfyrwyr wedi cynhyrchu darnau gwaith a ysbrydolwyd gan yr argyfwng yn yr hinsawdd, gyda’r nod o annog gweithredu. Bydd eu gwaith yn cael ei arddangos yn Oriel Davies nes ymlaen yn y mis.

Dywed Kerala Irwin, Swyddog Ymgysylltu â Phobl Ifanc Prosiect y Genhedlaeth Un Blaned: “Rwyf yn llawn cyffro i gael cyfle i siarad gyda phobl ifanc am eu barn ar broblemau’r hinsawdd, ac i allu gwrando ar eu sylwadau.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc rwyf eisoes wedi siarad gyda nhw’n ymwybodol ac yn bryderus am effaith newid yn yr hinsawdd. Fy ngobaith yw y bydd y prosiect hwn yn cynnig cyfle iddyn nhw ddod at ei gilydd, nid yn unig i drafod hyn, ond hefyd i’w cynnwys wrth gynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy.”

Fel rhan o’r broses ymgysylltu, bydd fforwm ieuenctid newydd, Cynulliad y Genhedlaeth Un Blaned, yn cael ei lansio yn y flwyddyn newydd. Rydym yn chwilio am bobl ifanc sy’n frwdfrydig am ddiogelu’r blaned, sydd â diddordeb hefyd mewn cwrdd ag eraill tebyg eu barn, sydd am rannu syniadau o ran sut gall Y Drenewydd leihau ei ôl-troed ecolegol, a sefydlu platfform i gael dweud eu dweud.

Gofynnir iddynt ymweld â thudalen we’r prosiect: - https://opennewtown.org.uk/one-planet-generation/  ar gyfer y manylion cysylltu.

Hefyd byddem yn annog pobl ifanc i chwilio am ddigwyddiadau sydd ar y gweill a ffyrdd i ymuno â ni trwy dudalen we’r prosiect a thrwy gyfrifon Agor Drenewydd ar gyfryngau cymdeithasol.

Bydd y prosiect hefyd yn rhedeg rhaglen o weithgareddau natur yn y dref a’r ardal gyfagos er mwyn creu cyfleoedd i blant lleol ymgysylltu â, deall a gwerthfawrogi’r amgylchedd naturiol a’u lle yn yr amgylchedd.

Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i blant ddysgu a chwarae yn yr awyr agored, ac annog ymgysylltiad positif gyda natur er budd eu llesiant corfforol a meddyliol.

Mae’r prosiect yn rhan o gyfres o brosiectau natur sy’n cael eu rhedeg mewn partneriaeth, a gydlynir gan Agor Drenewydd ac a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, a seilir ar lesiant a gwydnwch pobl a busnesau yn y dref.

Mae’r prosiectau newydd hyn yn cael eu cefnogi trwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - y Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, a gyllidir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru hyd at fis Mehefin 2023.