Bedwyr Jones

Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i ffermydd defaid mynydd Cymreig, diolch i’r dechnoleg ddiweddaraf sy’n cael ei defnyddio i recordio perfformiad anifeiliaid, yn ôl un ffermwr ifanc.

Mae Cynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a’r UE, yn profi’n arf bwysig i ffermwyr yr ucheldir a’r bryniau gan fod technoleg DNA sy’n edrych ar rieni ŵyn, Gwerthoedd Bridio Tebygol ynghyd â braster a dyfnder cyhyrau yn cael eu defnyddio i helpu ffermwyr i ddewis hyrddod o safon i’w rhoi i’w diadelloedd.

Mae’r ffermwr profiadol Bedwyr Jones o Nant Gwynant yn arweinydd praidd o fewn y  Cynllun Hyrddod Mynydd ac mae’n rhan o’r ymdrech i gofnodi data am brif nodweddion anifeiliaid i helpu ffermwyr Cymru i gynhyrchu cig o’r safon y mae defnyddwyr yn chwilio amdano. Mae’r cynllun hefyd yn sicrhau diadelloedd o fridiau brodorol gwydn effeithlon sy’n gweddu orau i amgylchedd llethrau ucheldir Cymru.

Yn ôl Ryan Williams, 28 oed, sy’n ffermio’n rhannog yn Ffestiniog, Gwynedd mae’n dweud bod y cynllun wedi sicrhau bod ei ŵyn tew yn barod i’r farchnad dau gilo yn drymach ers prynu meheryn gan Bedwyr drwy’r Cynllun Hyrddod Mynydd.

“Dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae’r hyrddod wedi bod yn perfformio,” eglura Ryan sy’n ffermio Tŷ Isaf, Ffestiniog mewn system ffermio ar y cyd gyda Bini a Dr Huw Jones. Fel rhan o’r busnes, maen nhw’n gwerthu bocsys cig Bini Organic sy’n cyflenwi cwsmeriaid yn lleol a thu draw.

“Tydy ni heb wneud unrhyw newidiadau i’n system yma,” meddai Ryan sy’n dweud iddo ddysgu llawer yn ystod y broses ac mae’n ddiolchgar i Bedwyr a’i deulu am agor y drws i arddangos ei fferm a’i stoc.

“Gallwch weld lle mae’r ŵyn mynydd Cymreig yn cael eu cynhyrchu yng Ngwastadanas. Mae Bedwyr yn gweithio gyda byd natur ar yr ucheldir a’r mynyddoedd ac yn cynhyrchu ŵyn o safon. I mi, mae hynny’n hollbwysig i’n busnes ninnau hefyd gan ein bod ni’n pori ar ucheldir y Mignaint.”

Sefydlodd Bedwyr ar fferm Nant Gwynant, 25 mlynedd yn ôl a dywed fod technoleg a phrofion DNA bellach yn cefnogi’r dulliau ffermio traddodiadol i gynhyrchu ŵyn o ansawdd gwell ar gyfer y farchnad.

Mae Bedwyr a’i deulu’n gwella rhinweddau genetig eu praidd, yn cynhyrchu ŵyn oddi ar laswellt i fodloni gofynion y farchnad ac yn magu hyrddod sydd â pherfformiad ansawdd cydnabyddedig.

“Roedd arwerthiant hyrddod blynyddol Gwastadanas eleni yn un o’r goreuon eto,” eglura Bedwyr, sydd ynghyd â’i wraig, Helen, eu mab Aron a’u tri plentyn arall yn ffermio 4000 o erwau ar eu fferm wartheg a defaid yn Nant Gwynant, gyda’i tir yn cyrraedd hyd at gopa'r Wyddfa.

“Yr hyn rydyn ni wedi’i ddarganfod dros y tair blynedd ers i ni fod yn rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd yw ein bod ni’n gweld gwelliannau bach bob blwyddyn. Mae potensial yr ŵyn yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth fagu pwysau a gwella ansawdd. Rydyn ni’n dewis yr hyrddod magu gorau, yn rheoli’r ddiadell yn well oherwydd y data rydyn ni’n ei gasglu ac yn defnyddio’r dechnoleg er mantais i ni.

“Mae’n arf ychwanegol i ni. Wrth gwrs, rydyn ni’n dal i edrych ar y gwlân, y dannedd, y traed a’r ffrwythlondeb, ond mae'r llinach sydd yn y DNA, y cynnydd yn y pwysau a mesur braster y cefn i gyd yn gweithio law yn llaw â'n dulliau ffermio traddodiadol ni.

“Ers dechrau’r gwaith gyda Chynllun Hyrddod Mynydd HCC a chofnodi perfformiad y stoc, mae ein hyrddod, ar gyfartaledd, wedi bod yn gwerthu rhwng £180 a £200 y pen yn well. I fusnes fferm teuluol, dyna pryd rydych chi'n gweld y dystiolaeth yn llewyrchu,” meddai Bedwyr Jones.

Mae Cynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru yn un o dri phrosiect pum mlynedd o fewn y Rhaglen Datblygu Cig Coch, a ariennir gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.