Local children from Ysgol Dolafon and Ysgol Dyffryn Irfon

Mae plant lleol of Ysgol Dolafon ac Ysgol Dyffryn Irfon wedi bod yn darganfod bywyd gwyllt yn yr afon Irfon, sy'n ymestun o Abergwesyn i Llanfair ym Muallt.

Aeth elusen cadwraeth bywyd gwyllt genedlaethol Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dwr Croyw a'r plant ysgol, o oedran saith hyd at unarddeg, i'r afon i ymchwilio y planhigion a'r anifeiliad sy'n byw yno. Cymeron ran mewn gweithgareddau yn cynnwys samplu cicio - sy'n symud creaduriaid oddi ar waelod yr afon – gan ddefnyddio netiau rhwydi ac hambyrddau i olluogi'r plant i edrych yn fwy manwl arnynt a'u henwi.

Gwelodd y plant sawl rhywogaeth o bysgod fel brithyll a minau, ynghyd infertebratau yn cynnwys Cler Mai a Phryfed Cadis.

Gyda chymorth Menter Rheolaeth Gynaliadwy Llywodraeth Cymru, mae Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dwr Croyw yn gweithio gyda cymunedau lleol i amddiffyn cynefinoedd dwr croyw a gwlyptir dalgylch afon Irfon.

Roedd ymweliadau'r ysgolion yn ran o elusen prosiect Cynefinoedd Dwr Croyw Gwydn Talgylch Irfon sy'n canolbwyntio ar rywogaethau planhigion ac anifeiliaid dwr croyw prin ac o dan fygythiad. Mae rhain yn cynnwys Misglod Perlog Dwr Croyw, sydd mewn perygl difrifol oherwydd cyflwr gwael y rhan fwyaf o afonydd.

Mae Rhoanne Clark, Prifathro Gweithredol y ddwy ysgol yn awyddus i gael y plant i gyd i fynd allan i'r awyr agored a mwynhau eu hamgylchedd lloel mor aml a phosib.

Dyweddodd “Cawsant gymaint o ysbrydoliaeth a diddordeb ym Mhwll Golchi ac ym Mhwll Bo fel ei bod yn anodd eu cael yn ol i'r ysgol”. Ychwanegodd bod y gweithgareddau hyn yn dynodi pwer dysgu y tu allan.

“Rwy'n gredwr cryf mewn cael eich dwylo yn fudr a darganfod drosoch eich hun beh sy'n ein cysylltu a natur, sy'n ein gwneud yn llawer mwy chwilfrydig am ein byd”

“Mae'r Ifron ar ein stepen drws, a drwy do i'w hadnabod gallwn ei deal yn well a chymeryd gwell gofal ohoni” dywedodd.

Dewi Roberts

Yn cynnal y geithgareddau oedd  Dyn yr Afon Dewi Roberts, sy'n angerddol iawn am afonydd ac yn gweithio'n rheolaidd ar draw Powys ac sydd wedi ymddangos ar Springwatch a Wales: Land of the Wild.

Meddai ef “Treuliodd y plant amser helaeth yn casglu, arsylwi ac adnabod gwahanol ffawna. Mae bob amser yn bleser gweld wynebau disgyblion wrth weld y gwahanol organebau sy'n galw'r afon yn gartref iddynt. Creodd y cyfan lawer o chwilfrydedd”.

Dywedodd Swyddog Prosiect Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dwr Croyw Catherine Hughes:

“Does dim yn debyg i roi eich welis ymlaen a chaslgu samplau dwr i weld beth sydd yn ein hafonydd”.

“Mae'r Irfon yn llifo ger Ysgol Dolafon yn Llanwrtyd ac hefyd Ysgol Dyffryn Irfon ger Garth, ac mae'r Fisglen Berlog Dwr Croyw, sydd mewn perygl rhyngwladol, yn byw yno o hyd, sy'n ei gwneud yn afon bwysig iawn sy'n haeddy ein sylw. Mae ein prosiect yn ymwneud a chysylltu a phawb sydd a diddordeb yn y dalgylch. Ac, wrth gwrs, nid yw hyn yn ymwneud a'r afon yn unig. Mae talgylch Irfon hefyd yn cynnwys nentydd, pyllau, gwlyptiroedd, llynnoedd a ffosydd, sydd gyda'i gilydd yn creu rhwydwaith sy'n cefnogi bywyd gwyllt dwr croyw a'n ieched a'n lles ein hunain”.

“O ffermwyr i wirfoddolwyr, ysgolion a busnesau, mae ein prosiect yn cynnwys pobl lleol mewn arolygon a samplu. Bydd y data hwn wedyn yn ein helpui ddeall sut mae iechyd y dalgylch yn newid dros amser”.

Ariennir prosiect Afon Irfon drwy grant Cynllun Rheoli Cynaliadwy fel ran o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru o dan Raglen Datblygu Gwledig Cymru (2014-2020) a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.
 

Local School Girls Sampling