Dr Richard Irvine chief vet

Heddiw, mae Dr Richard Irvine yn dechrau ei rôl newydd yn Brif Swyddog Milfeddygol Cymru.

Mae Dr Irvine yn ymuno â Llywodraeth Cymru ar ôl bod yn Ddirprwy Brif Swyddog Milfeddygol y DU ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr polisi ar gyfer Iechyd Anifeiliaid Byd-eang yn Llywodraeth y DU.

Yn filfeddyg profiadol iawn, mae Richard wedi bod yn gweithio yn y proffesiwn ers dros 25 mlynedd, ac mae'n dod â chyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd gydag ef. Mae ganddo gefndir mewn iechyd a lles anifeiliaid, polisi masnach, yn ogystal â gwyddoniaeth a millfeddygaeth gwladol.

Cyn hyn, mae Richard wedi treulio cyfnod mewn practis milfeddygol cymysg clinigol yn ne Cymru.

Mae hefyd wedi cael gwahanol rolau yn arwain rhaglenni gwyliadwriaeth iechyd anifeiliaid a gwyddoniaeth yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Dywedodd Dr Irvine:

Mae ffermwyr a milfeddygon ledled Cymru yn gwneud gwaith gwych ac rwy'n edrych ymlaen at eu cyfarfod a'u cefnogi fel Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.

Rydym i gyd wedi ymrwymo i amddiffyn iechyd a lles anifeiliaid a thrwy gydweithio gallwn fynd i’r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu a chyflawni ein nodau ar y cyd.

Mae llawer wedi’i gyflawni yng Nghymru a fy ngwaith i, ochr yn ochr â'r tîm yn Llywodraeth Cymru, yw adeiladu ar hynny.

Rwy’n edrych ymlaen at fwrw ati a gwneud gwahaniaeth go iawn yma yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Rwy'n falch iawn o groesawu Richard fel ein Prif Swyddog Milfeddygol newydd.

Bydd arweinyddiaeth ac arbenigedd Richard yn hanfodol wrth gyflawni ein nodau uchelgeisiol o ran Iechyd a Lles Anifeiliaid a'n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu.

Bydd ei wybodaeth a'i brofiad yn gaffaeliad mawr ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef.