Welsh Lamb Meat Quality Panels Chester

Mae paneli blasu i ddefnyddwyr a drefnwyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) wedi golygu bod y rhai a'u mynychodd yn prynu a choginio mwy o gig oen ac yn fwy ymwybodol o frand Cig Oen Cymru PGI.

Bu Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru HCC, sef rhan o'r Rhaglen Datblygu Cig Coch sy'n cael ei hariannu gan Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, yn cynnal paneli blasu i ddefnyddwyr yn ystod y tair blynedd ddiwethaf ar draws y DG. Casglwyd adborth y defnyddwyr ar sail ffactorau sy'n cael effaith ar ansawdd a blas y cig er mwyn sicrhau bod Cig Oen Cymru yn cadw ei enw da am ansawdd ledled y byd.

Mae'r data o baneli blasu a gynhaliwyd yn Llwydlo, Caer a Reading, yn dangos bod 60% o'r rhai fu'n cymryd rhan yn prynu mwy o gig oen ar ôl y sesiynau blasu. 

Yn ogystal, roedd gan 81% o’r cyfranogwyr well dealltwriaeth o fanteision maethol Cig Oen Cymru, a nododd 60% eu bod bellach yn cadw llygad am logos Cig Oen Cymru ar ôl bod ar banel blasu. Roedd 50% o’r cyfranogwyr wedi prynu Cig Oen Cymru ar ôl cymryd rhan yn y sesiynau blasu.

Yn ystod y profion, roedd pob aelod o banel yn cael saith dogn o gig oen a gofynnwyd iddyn nhw roi marciau ar sail ansawdd y cig – sef sawr, blas, breuder a suddlonder – yn ogystal â'u mwynhad cyffredinol ohono. Gofynnwyd hefyd i banelwyr faint y bydden nhw'n fodlon ei dalu am bob darn o gig. Ar ben hyn, rhoddwyd cyflwyniad i gyfranogwyr, ac roedd hwnnw'n pwysleisio buddion maethol Cig Oen Cymru a'r ffordd gynaliadwy o'i gynhyrchu.

Mae HCC yn casglu adborth gan 2,000 o ddefnyddwyr yn ystod oes y prosiect i greu glasbrint i'r diwydiant ynghylch yr hyn sydd orau gan ddefnyddwyr. 

Dywedodd Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer Ansawdd Cig , Dr Eleri Thomas: ‘Mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod ein hymchwil blasu nid yn unig o fudd i’r diwydiant ond hefyd yn brofiad defnyddiol iawn i ddefnyddwyr. Trwy fynychu'r paneli blasu, mae gan y rhai fu'n cymryd rhan well dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth  o Gig Oen Cymru, ac maen nhw'n fwy tebygol o'i brynu yn y dyfodol – ac mae hynny'n ganlyniad gwych.'

Mae’r adborth a dderbyniwyd gan HCC yn ddienw, ond roedd yn cynnwys sylwadau fel ‘Roedd y panel yn ddiddorol iawn ac roedd y cig yn fendigedig.' Rwy'n defnyddio cig oen nawr yn lle cig ffowlyn, mewn prydau poeth yn ogystal ag yn oer mewn salad.' Rown i'n meddwl nad own i'n licio cig oen, ond dysgais ba mor flasus yw e!’

Dangosodd y canlyniadau hefyd fod 60% o’r cyfranogwyr, ar ôl mynychu panel blasu,  yn fwy tebygol o ddewis pryd o gig oen wrth fwyta allan a bod dros 55% o’r cyfranogwyr yn fwy tebygol o goginio cig oen fel pryd canol wythnos, sef pryd o fwyd allweddol y mae HCC wedi bod yn ei dargedu er mwyn cynyddu faint o gig oen sy'n cael ei fwyta.

Ychwanegodd Dr Thomas: ‘Mae prosiect Ansawdd Cig Cig Oen Cymru yn gyfle gwych i ymgysylltu â 2,000 o ddefnyddwyr ar draws pob rhan o’r DG ac i ddangos iddyn nhw rinweddau unigryw Cig Oen Cymru, yn ogystal â’u hysbrydoli i’w ddewis a'i goginio.

‘Mae’n wych bod y digwyddiadau hyn wedi arwain at fwy o bobl yn dewis prynu a choginio Cig Oen Cymru.’

Ar hyn o bryd mae HCC yn cynnal ei bedwaredd gyfres o baneli blasu, sef yr olaf, yn Lerpwl, Rhydychen a Malvern. Drwy gydol y bum mlynedd ddiwethaf, mae'r prosiect wedi bod yn ceisio canfod sut mae ffactorau fel y natur dymhorol, porthiant a'r broses aeddfedu yn cael effaith ar ansawdd y cig a dewis y defnyddwyr. Cyhoeddir adroddiad terfynol ar ddiwedd y prosiect er mwyn i'r diwydiant allu ystyried y canlyniadau. 

Mae’r Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru gan HCC yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am Brosiect Ansawdd Cig Oen Cymru, gan gynnwys adroddiadau am y canlyniadau, yn ogystal â’r Rhaglen Datblygu Cig Coch yn ei chyfanrwydd, ar gael  yma  ar wefan HCC.

 

Welsh Lamb Meat Quality Panel - Chester