A rhos pasture in June – scrub and over mature hedges are important elements of this habitat

 

Mae prosiect Adfer Porfa Rhos yn Gynllun Rheoli Cynaliadwy, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2021 a daw i ben ym mis Mawrth 2023, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed, ac mae yna 2 aelod o staff sy’n gweithio arno’n benodol:  Lucy Morton, rheolwr prosiect a Toby Hay, Swyddog y Celfyddydau a Threftadaeth Cymunedol. Mae Rhayader-by-Nature, sef grŵp hanes naturiol lleol, a CARAD (Celfyddydau Cymunedol Rhaeadr a’r Cylch) hefyd yn ein cefnogi.

Gair Cymraeg sy’n disgrifio glaswelltir corsiog gwlyb ydy rhos. Mae’r math hwn o laswelltir hefyd i’w weld mewn rhannau eraill o’r DU, lle mae yna enwau gwahanol arno:  ‘culm grassland’ yn Nyfnaint, ‘fen meadow’ yn Nwyrain Anglia a ‘wet lawns’ yn Fforest Newydd. Mae’n gynefin sy’n  gyffredin ond ar drai yng Nghymru ac mae wedi’i nodi yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 fel cynefin glaswelltir â blaenoriaeth sy’n 3% o’r arwyneb glaswelltir ym Mhowys. 

Mae porfa rhos i’w weld ar briddoedd asidig yn bennaf, wedi’u draenio’n wael, ar waelod dyffrynnoedd neu ar ymylon ucheldiroedd, ac mae’n gallu amrywio o ran cyfansoddiad rhywogaethau ond Glaswellt y Gweunydd a rhywogaethau brwyn amrywiol ydy’r prif blanhigion sy’n arwydd ohoni. Mae’n cefnogi cyfoeth o fywyd gwyllt, mae’n cyflenwi gwasanaethau ecosystemau sydd o fydd i’r amgylchedd lleol, (storio carbon, ansawdd a storio dŵr ac iechyd y pridd) ac mae’n ddiwylliannol bwysig gan fod yna gysylltiad rhwng porfa rhos a chrefftau a sgiliau traddodiadol. 

Dyma brif amcanion prosiect Adfer Porfa Rhos: 

  • Adfer a gwella porfa rhos yn ardal y prosiect
  • Gwella strwythur y pridd, carbon a storio dŵr
  • Gwella’r economi leol, ymchwilio i farchnadoedd ar gyfer cynhyrchion a datblygu twristiaeth sy’n gysylltiedig â bywyd gwyllt a ffermio 
  • Datblygu buddion i addysg, iechyd a llesiant, hamdden, y celfyddydau a threftadaeth.

Mae arolygon botaneg ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn wedi’u cynnal dros 2 haf i gadarnhau graddau’r porfeydd rhos, ac ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon nid yw’r holl ganlyniadau o’r haf hwn wedi’u derbyn eto, ond y darganfyddiadau cychwynnol ydy bod yna ros da helaeth yn yr ardal, sy’n bositif iawn.

 

Cattle Grazing on a rhos pasture

Mae rhoi anifeiliaid i bori’n allweddol i reoli porfa rhos, a gwartheg ydy’r porwyr gorau gan eu bod yn creu strwythur llystyfiant amrywiol a byddan nhw’n pori ar y prysgwydd a’r llystyfiant mwy  coediog. Mae’r prosiect yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr yn yr ardal rhwng Rhaeadr Gwy, Nantmel a’r Bontnewydd-ar-Wy, gan annog a chefnogi rhoi gwartheg i bori trwy ddarparu ffensys, llociau gwartheg a chafnau dŵr. 

Rydyn ni hefyd wedi darparu hyfforddiant ar driniaethau ar gyfer llyngyr yr iau ac ar foddion gwrthlynghyrol, ac rydyn ni’n bwriadu darparu hyfforddiant ar chwilod tail gyda 'Dung Beetles for Farmers'. Y gobaith ydy datblygu cynllun cynhyrchion rhos a blychau cig eidion gan ddefnyddio siop fferm leol sydd newydd agor fel y man adwerthu.

Mae defaid wedi bod yn pori ar lawer o’r porfeydd rhos yn ardal y prosiect am lawer o flynyddoedd ac mae hyn wedi golygu bod rhywogaethau blodau gwyllt sy’n gysylltiedig â’r rhos wedi diflannu oherwydd y pori. Mae Tamaid y Cythraul, Succisa pratensis, yn un o’r rhain. Dyma’r planhigyn y mae glöyn byw Britheg y Gors yn ei fwyta, sef rhywogaeth a oedd wedi darfod amdani yn y rhan hon o Sir Faesyfed ar ddechrau’r 2000au. Mae’r planhigyn yn blodeuo ar ddiwedd yr haf ac mae’n ffynhonnell neithdar rhagorol pan fo blodau eraill wedi darfod.

Volunteers planting at rhos pasture

Rydyn ni wedi bod yn gweithio i ailsefydlu’r rhywogaeth hon trwy blannu planhigion plwg sydd wedi’u tyfu o hadau lleol gan wirfoddolwyr o Rhayader by Nature. Lle bo defaid dal yn pori, gosodwyd lleiniau wedi’u ffensio i amddiffyn y planhigion ifanc; bydd y gât yn galluogi pori yn y gaeaf, ond bydd yna reolaeth fecanyddol hefyd hyd nes bydd y planhigion wedi sefydlu.

A J Butler with the cut and collect equipment - Rhos

Mae yna rai safleoedd rhos sydd heb eu pori ers blynyddoedd lawr, a llwyddon ni i ddod o hyd i gontractwr a allai ‘dorri a chasglu’ y llystyfiant dwys a oedd yn llethu’r planhigion llai. Torrwyd stribynnau trwy laswellt y gweunydd marw gan wneud pentyrrau o amgylch ymyl y safle. Pan ddychwelwyd ym mis Mehefin, gwelwyd bod Fioled y Gors, y Carwy Droellennog a rhywogaethau eraill wedi ymateb i’r torri a’u bod yn tyfu yn y rhodfeydd.

Small pearl-bordered fritillary adult butterfly

Mae Fioled y Gors yn rhywogaeth hynod o bwysig gan mai dyma ydy’r planhigyn y mae glöyn byw y Fritheg Berlog Fach yn ei fwyta Y Fritheg Berlog Fach | Cadwraeth Glöynnod Byw (butterfly-conservation.org). Mae’r larfâu yn bwyta’r dail ar ddiwedd yr haf ac ar ddechrau’r gwanwyn. Cynhaliwyd arolwg o bresenoldeb ac absenoldeb y glöynnod byw llawn dwf yr haf hwn, gan ein bod eisoes yn gwybod bod y fioled i’w chael mewn un neu ddau o safleoedd.

Mae ochr y Celfyddydau a Threftadaeth Cymunedol o’r prosiect, sydd wedi’i gefnogi gan yr Amgueddfa a’r Oriel yn Rhaeadr Gwy, CARAD, wedi cynnwys llawer o bobl leol, yn amrywio o artistiaid a cherddorion i ecolegwyr arbenigol a chrefftwyr. 

'In the long grass' Rhos Festival

Gwnaeth dros 50 o bobl fwynhau ‘Yn y Glaswellt Hir’ – Gŵyl Porfa Rhos – digwyddiad a gynhaliwyd yn y Glôb Byw ger Llanwrthwl, a oedd yn dathlu’r rhos â theithiau cerdded, cerddoriaeth a gweithgareddau celf. Roedd hefyd yn cynnwys cyflwyniad cyntaf yr Artist Preswyl, Sean Harris, sef ‘Clymau Sy’n Cynnal - The Ties that Bind Us’, trêt clyweledol barddol.  

Crëwyd Cwilt Cymunedol y Rhos dros nifer o sesiynau yn neuadd y pentref yn Llanllŷr yn Rhos yn ystod gaeaf 2022, gan ddefnyddio planhigion ac anifeiliaid, dŵr a phridd rhos fel ysbrydoliaeth. Daeth â 14 o bobl frwdfrydig at ei gilydd, gan gynnwys 5 o blant ac roedd yn galw am lawer o wahanol sgiliau, gan gynnwys paentio ar ffabrig, batic, llifo a phrintio, brodwaith, appliqué, printio leino a chwiltio â llaw i’w orffen.

Y Cwilt Cymunedol yn hongian yn llyfrgell Llandrindod, gyda Jane Titley (y pellaf ar y chwith), yr artist fu’n helpu i ysbrydoli’r gwneuthurwyr. Ysgallen y gors (ar y dde), manylyn o’r cwilt.

Rhos

Mae gwneud basgedi brwyn pabwyr yn un o grefftau traddodiadol porfa rhos; byddai’r basgedi’n cael eu defnyddio i gario mawn, a fyddai’n esbonio pam fod mawnogydd yn enw arall ar rai porfeydd rhos.  

Gathering the soft rush in July, it is dried, bashed and soaked, before making the basket in September

Bu Clair Murphy, o Rushmore Baskets, yn arwain gweithdai ar gyfer aelodau 'Rhayader by Nature.' 

Adfer porfa Rhos. Gwobr grant £349,200.

Mae'r prosiect hwn yn gydweithrediad â ffermwyr lleol, rheolwyr tir, busnesau twristiaeth, grwpiau amgylcheddol a busnesau celfyddydau a diwylliant y DU, gyda'r nod o adfer graddfa tirwedd i adfer cynefinoedd eiconig Gymreig porfa Rhos yng ngogledd Brycheiniog a gorllewin Sir Faesyfed. Bydd y prosiect yn cyflwyno camau i adfer yr ardaloedd glaswelltir corsiog presennol i fod yn dir pori mwy gwydn, amrywiol, llawn rhywogaethau. Bydd canlyniadau'r gwaith hwn yn cynnwys cywasgu pridd yn gostwng, gwella strwythur pridd a gwella'r gallu i storio carbon a dŵr, arafu rhediad ac erydiad. Bydd Porfa bresennol Rhos yn cael ei gysylltu unwaith eto fel nodwedd dirwedd barhaus. Bydd y cydweithrediad yn mynd ymlaen i ddathlu gwerth diwylliannol, ysbrydoledig ac esthetig cynefin Porfa'r Rhos mewn Cymru fodern. Bydd gwell mynediad i gymunedau lleol ac ymwelwyr â'r dirwedd arbennig hon yn cynnig ystod o gyfleoedd hamdden ac ymarfer corff awyr agored.

I gael rhagor o wybodaeth am waith Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed a Phrosiect Porfa Rhos ewch i: Ein Prosiectau | Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed (rwtwales.org)
Lucy Morton lucy@rwtwales.org Toby Hay toby@rwtwales.org