Friends of Diamond Park HB pull

Mae’r ymgysylltu â’r prosiect hyd yma wedi ysbrydoli Cysylltiadau Gwyrdd Powys ym Mrycheiniog.   

Mae 20+ o dirfeddianwyr yn creu dolydd traddodiadol, yn rheoli ac yn creu coetiroedd a llawer iawn mwy.  Mae llawer o arolygon wedi’u cwblhau, gan ychwanegu cannoedd o gofnodion at y Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth. Gwnaethon ni ymuno â Val Bradley, ecolegydd dyfrol trwyddedig a pherchnogion tyddynnod i gadarnhau bod poblogaeth o gimychiaid yr afon a oedd wedi’u cofnodi o’r blaen yn eu nant dal yn iach, gan sylwi bod yna dystiolaeth o weithgarwch dyfrgwn ar yr un pryd. Bwriedir gwneud rhywfaint o waith dilynol yn 2022 mewn nifer o’r safleoedd hyn.

Mae nifer tebyg o grwpiau cymunedol yn rheoli perllannau a choetiroedd cymunedol ac ardaloedd blodau gwyllt neu’n mynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol gyda’n cefnogaeth ni. Er enghraifft, nod cyntaf grŵp cymunedol newydd Cyfeillion Parc Diamond yn Ystradgynlais oedd cael gwared â Jac y Neidiwr o’r nant fach sy’n rhedeg trwy Barc Diamond. Maen nhw wedi tynnu ymhell dros 4000 metr sgwâr o Jac y Neidiwr, gan helpu planhigion brodorol i ffynnu unwaith eto. Gwnaethon nhw hefyd ofyn i Gyngor Tref Ystradgynlais, sy’n rheoli’r parc, dorri mwy mewn ardaloedd eraill o’r parc. Darparodd Cysylltiadau Gwyrdd hyfforddiant mewn adnabod planhigion ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn i alluogi gwaith monitro bioamrywiaeth.

Mae gweithredu dros wenoliaid yn ymledu o Aberhonddu. Mae Grŵp Gwenoliaid Aberhonddu, sydd newydd ei sefydlu, eisoes yn denu aelodau o bell. Nod y grŵp yw cynyddu ymwybyddiaeth o helyntion gwenoliaid a’u perthnasau, cofnodi a diogelu safleoedd nythu a bwydo sy’n bodoli yn ogystal ag annog gosod blychau newydd ar adeiladau. Fe fydden ni wrth ein boddau’n gweld nifer o grwpiau ledled Brycheiniog, yn enwedig o gwmpas Llanfair-ym-muallt, Crughywel, Talgarth, y Clas-Ar-Wy a’r Gelli Gandryll, neu efallai eich bod chi’n gwybod am grŵp sy’n gallu gwneud blychau.

Os yw gwenoliaid, neu unrhyw agwedd arall ar Gysylltiadau Gwyrdd Powys, o ddiddordeb i chi, cysylltwch â Pauline yn p.hill@welshwildlife.org.  Bydden ni’n hoffi’n enwedig ymgysylltu â mwy o fusnesau, gan gynnwys busnesau twristiaeth wledig.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn arian trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Wild flowers