Senedd WCFD PLANED Team Pic June 2023

Ar 8 Mehefin, daeth digwyddiad arloesol yn y Senedd â thair menter ynghyd a gafodd eu hariannu gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru i archwilio’r camau nesaf ar gyfer datblygu cadwyn gyflenwi a chaffael bwyd cynaliadwy yn gyhoeddus yng Nghymru. Cyflwynodd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Menter Môn a PLANED eu llwyddiannau, cyfleoedd, ac argymhellion ar gyfer darparu bwyd lleol i bobl leol sy’n fanteisiol i’r amgylchedd, yr economi a’r gymdeithas.

Dywedodd Abi Marriott, Cydlynydd Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru (WCFD), “Cyflwynodd digwyddiad ‘Dyfodol Bwyd o Gymru’ dystiolaeth gref gan y tair rhaglen beilot, a oedd yn dangos sut all gwahanol fodelau gydweithio i gefnogi caffael bwyd yn gyhoeddus sy'n cynnig manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol i bobl Cymru.”

Noddwyd y digwyddiad gan Weinidogion y Senedd ar draws y pleidiau, yn cynnwys Cefin Campbell AS, Eluned Morgan AS, Jane Dodds AS, Peter Fox AS a Russell George AS. 

Cafodd y rhai a fynychodd y digwyddiad gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau Holi ac Ateb a chyflwyniadau, yn ogystal â chyfrannu at grwpiau ffocws bach er mwyn gallu rhannu eu profiadau a lleisio eu barn ynghylch darparu bwyd lleol i bobl leol, a’r angen i gyflawni manteision amgylcheddol, gwerthoedd maethol uchel, ac arbedion carbon drwy gaffael cyhoeddus.

Dywedodd un o'r mynychwyr wrthym “roedd yn wych gweld ffrwyth gwaith caled PLANED, Menter Môn a Social Farms and Gardens.  Roedd yr arddangosfa’n fewnwelediad gwerthfawr i ddyfodol posibl y diwydiant bwyd o Gymru, ac yn amlygu gwerth modelau newydd ac arloesol megis y rhai a welwyd heddiw.”

Drwy gyfnewid gwybodaeth a syniadau yn ystod y sgwrs hon, dangosodd y rhaglenni peilot sut all gwahanol fodelau weithio ar y cyd yn llwyddiannus er mwyn cefnogi caffael cyhoeddus o fwyd cynaliadwy a chadwyni cyflenwi byr sy'n cynnig manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

Yn ystod y digwyddiad, dysgodd y rhai a oedd yn bresennol am ganlyniadau'r prosiect, argymhellion allweddol a chlywed gan aelodau'r gymuned a buddiolwyr prosiectau.  

“Roeddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o westeion ar draws y partïon yn annog trafodaethau ynghylch bwyd a’r heriau a’r cyfleoedd o greu cadwyn gyflenwi bwyd gynaliadwy, leol.” Sam Stables, Swyddog Datblygu Prosiect (WCFD)

Bu’r digwyddiad hefyd yn arddangos bwyd a diod gan gyflenwyr Cymreig, gan amlygu eu hôl troed carbon a dwysedd maethol. Ymhlith y cyflenwyr a gymerodd ran oedd Welsh Brew Tea, Dwyfor Coffee, Coffi Dre, Fferm Morris Crucywel, Llysiau Hooma Hu, Cultivate Y Drenewydd – Planhigion Micro-wyrdd gan CEA, Microacers Wales, Valleys Veg, Llaeth y Llan, Hufenfa De Arfon, Edwards o Gonwy, a bara o fecysiau Cymreig fel Village Bakery.

Ar y cyfan, roedd digwyddiad Dyfodol Bwyd o Gymru yn llwyddiant mawr o ran dod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd i archwilio modelau arloesol ar gyfer caffael cyhoeddus o fwyd cynaliadwy a chadwyni cyflenwi byr yng Nghymru. Cyflwynodd y mentrau eu llwyddiannau, cyfleoedd, ac argymhellion ar gyfer darparu bwyd lleol sy’n fanteisiol i’r amgylchedd, yr economi a’r gymdeithas.