Rhiannon MMC

Pan enillodd Rhiannon Davies gystadleuaeth magu moch ffermwyr ifanc, ychydig oedd hi’n meddwl y byddai hi flynyddoedd yn ddiweddarach yn goruchwylio’r prosiect a’i cyflwynodd i fyd cadw moch.

Fel Rheolwr Prosiect newydd Menter Moch Cymru, Rhiannon sy’n gyfrifol am oruchwylio’r fenter, a sefydlwyd i ddatblygu a chefnogi’r sector moch yng Nghymru. Daw â’i phrofiad personol o effaith gadarnhaol cefnogaeth Menter Moch Cymru ar y sector yng Nghymru gyda hi.

Wedi’i magu ar fferm bîff a defaid ei theulu yn Nhalgarreg ger Llandysul, daeth gwir gysylltiad cyntaf Rhiannon â moch pan – fel aelod o CFfI Caerwedros – enillodd gystadleuaeth pesgi moch a drefnwyd gan Menter Moch Cymru a CFfI Cymru i annog newydd-ddyfodiaid i’r gystadleuaeth sector moch.

Fel rhan o’r gystadleuaeth, cafodd bump o ddiddyfnwyr a llu o hyfforddiant a mentora ar bynciau’n amrywio o reoli moch i farchnata’r cig. Roedd ennill y gystadleuaeth a’r lefel uchel o gefnogaeth a gafodd gan Menter Moch Cymru yn rhoi’r hyder a’r sgiliau i Rhiannon i lansio busnes gwerthu cig yn uniongyrchol gyda’i theulu.

Dywedodd Rhiannon, “Roeddwn i bob amser eisiau cadw moch, ond doeddwn i erioed wedi cael unrhyw brofiad o weithio gyda nhw cyn i mi gymryd rhan yn y gystadleuaeth, felly roedd cael y cyfle i roi cynnig ar fudd rhwydwaith o gefnogaeth yn hynod werthfawr.

“Diolch i Menter Moch Cymru, roedd wastad rhywun i ateb fy nghwestiynau. Roedd yr hyfforddiant a gefais yn ymdrin â phynciau o les, busnes, a materion rheoleiddio i sgiliau fel marchnata a hyd yn oed ffotograffiaeth cynnyrch – allwn i ddim bod wedi gofyn am fwy.”

Cyn dechrau yn ei swydd newydd, bu Rhiannon yn gweithio gyda chyd-brosiect a reolir gan Menter a Busnes, Cyswllt Ffermio, ac felly mae’n dod â chyfoeth o sgiliau a dealltwriaeth bersonol i’w rôl newydd.

Meddai Rhiannon, “Rwyf wedi profi’r gefnogaeth amhrisiadwy y mae Menter Moch Cymru yn ei rhoi i gynhyrchwyr moch, ac felly rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm i gefnogi a datblygu’r diwydiant moch yng Nghymru ac i ddod i adnabod cynhyrchwyr moch o bob rhan o’r wlad.”

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.