Young vets taking part in training in Bala on supporting proactive flock health management

Mewn arolwg diweddar gan Hybu Cig Cymru (HCC), dywedodd dros 50% o’r milfeddygon a holwyd fod rhoi cyngor cynllunio iechyd rhagweithiol i ffermwyr cig eidion a defaid wedi eu cynorthwyo i wella cynhyrchiant ar ffermydd Cymru.

Mae’r astudiaeth sy’n holi barn milfeddygon ar gynllunio iechyd yn rhan o waith y prosiect Stoc+ a ariennir gan yr UE a Llywodraeth Cymru. Pwrpas Stoc+ yw hyrwyddo rheolaeth iechyd ragweithiol mewn diadelloedd a buchesi, i helpu Cymru arwain y ffordd o ran lles anifeiliaid, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.

Darganfuwyd drwy’r cyfweliadau, yr arolygon barn a’r grwpiau ffocws a ymgysylltodd â dros 50 o swyddogion milfeddygol Cymru fod gwahaniaeth yn lefelau hyder y milfeddygon a raddiodd yn fwy diweddar o’i chymharu â’r milfeddygon mwy profiadol.

Yn ôl yr ymchwil, er bod gan raddedigion milfeddygol newydd agweddau mwy cadarnhaol tuag at gynllunio iechyd fferm o’i chymharu â’r milfeddygon profiadol, roeddynt yn gyfyngedig yn eu gallu i gynghori oherwydd eu diffyg profiad a’r arferion gwaith diwylliannol ehangach.

Dywedodd Lowri Thomas, Swyddog Iechyd Praidd a Buches HCC: “Dyma’r rheswm ein bod wedi sefydlu’r cynllun newydd a chyffrous yma ar gyfer milfeddygon amaethyddol sydd newydd raddio fel eu bod yn cael y cyfle i gyfarfod a rhwydweithio, wrth gael mynediad ar yr un pryd at gyngor arbenigol gan arbenigwyr o fewn y diwydiant.”

Roedd y sesiwn cyntaf a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Bala yn rhannu gwybodaeth hanfodol am brif bryder iechyd ffermwyr Stoc+ sef cloffni defaid. Roedd yr arbenigwyr Joe Angell a Phillipa Page wrth law i drafod gyda’r milfeddygon ifanc sut i weithio gyda ffermwyr i roi’r technegau rheoli diweddaraf ar waith er mwyn lleihau effaith cloffni ar gynhyrchu ŵyn ar ffermydd.

Nododd 50% o ffermwyr Stoc+ mai cloffni mewn defaid oedd y prif fater iechyd roeddynt am fynd i’r afael ag ef ar eu ffermydd, gyda rheoli llyngyr a ffrwythlondeb defaid yn dilyn.

Dywedodd un o’r milfeddygon a fynychodd y sesiwn, Rosie Ling o Filfeddygfa’r Wern yn Rhuthun: “Dwi’n falch iawn fy mod wedi sicrhau’r amser i fynychu. Rhoddodd y sesiwn y wybodaeth a’r ysbrydoliaeth i mi gymryd mwy o ran yn y gwaith o fynd i’r afael â chloffni ar ffermydd.

“Ychydig ddyddiau ar ôl y digwyddiad ffoniais ffermwr lle roeddwn yn gwybod bod ganddo broblem cloffni, er mwyn i mi allu llunio gwell cynllun ar ei gyfer. Erbyn hyn dwi’n teimlo bod llawer mwy y gallaf ei wneud i helpu ffermwyr fynd i’r afael â chloffni mewn defaid.”

Dywedodd Lowri Thomas, o HCC: “Mae’n galonogol bod yr arolwg hwn hefyd wedi canfod bod gan y milfeddygon a’r ffermwyr berthynas waith agos a’u bod yn hyderus i fynd i’r afael ag unrhyw anghenion iechyd ar ffermydd unigol.

“Mae’r ymchwil, fodd bynnag, wedi ein helpu i ddeall yn well lle gallwn gefnogi’r milfeddygon iau i helpu’n ffermwyr i wella iechyd ein buchesi a’n diadelloedd ddefaid yng Nghymru.

“Byddwn nawr yn adeiladu ar lwyddiant y sesiwn gyntaf ac yn trefnu tri digwyddiad arall yn edrych ar bynciau penodol i’r milfeddygon yn yr wythnosau nesaf,” eglura Lowri Thomas.

Cadarnhaodd ymchwil milfeddygol a gynhaliwyd gan Stoc+ fod 82.5% o’r milfeddygon a holwyd yn teimlo’n hyderus i gynnig cyngor i ffermwyr ynghylch eu hanghenion cynllunio iechyd unigol tra allan ar ffermydd.

Mae Stoc+ HCC yn un o dri phrosiect pum mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.