Gwelwyd bod taenu gwrteithiau y mae seleniwm a sylffwr wedi cael eu hychwanegu atynt yn rhoi hwb i lefelau seleniwm mewn glaswellt hyd at bum gwaith, ac mae hefyd yn cynyddu maint cnydau glaswellt hyd at 11%, yn ystod treial gan Cyswllt Ffermio.

Fe wnaeth tri o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio gymryd rhan yn y prosiect i ganfod effeithiolrwydd defnyddio gwrteithiau sydd wedi’u cyfoethogi â seleniwm a sylffwr.

Dywed yr arbenigwr glaswelltir a phridd annibynnol, Chris Duller, a roddodd gymorth technegol ar gyfer y treial, ei bod yn hysbys bod llawer o briddoedd yng Nghymru yn ddiffygiol mewn seleniwm – un o’r mwynau sy’n chwarae rhan bwysig mewn perfformiad da byw.

“Mae cynyddu statws seleniwm porthiant drwy ddefnyddio gwrteithiau sy’n cynnwys seleniwm yn gallu gwella cynhyrchiant, a gall fod yn ychwanegiad defnyddiol, neu’n ddewis arall yn lle ychwanegu mwynau neu roi bolysau,” meddai.

Mae diffyg sylffwr mewn glaswelltir hefyd nawr yn fwy cyffredin; gall hyn gael effaith ar faint cnydau glaswellt a lefelau protein a siwgr a rhwystro nitrogen rhag cael ei amsugno, gan arwain at fod nitrogen dros ben yn y pridd, sy’n gallu trwytholchi dros y gaeaf.

Bu Cyswllt Ffermio mewn partneriaeth â Yara ar gyfer y prosiect, gan gyflenwi ei wrteithiau Silage Booster a Nutri Booster i’w taenu, er mwyn treialu yn erbyn caeau rheoli sydd wedi’u taenu â chymysgeddau gwrtaith sylfaenol.

Cynhaliwyd y treial yn ystod tymor tyfu 2021 yn Rhiwaedog, sy’n fferm biff a defaid yn y Bala, ar Mountjoy Farm, sy’n fferm laeth ger Hwlffordd, ac ym Modwi, sy’n fferm biff a defaid ym Mhen Llŷn.

Cynhaliodd Rhiwaedog y treial mewn dau o’r caeau silwair toriad cyntaf a Mountjoy Farm mewn cae silwair ail doriad, tra bod Bodwi wedi monitro perfformiad un cae ar y toriad cyntaf a’r ail.

Taenodd Rhiwaedog Silage Booster ar 375kg/ha gyda 21:8:11 yn y cae rheoli, taenodd Mountjoy Nutri Booster ar 375kgN/ha gydag amoniwm nitrad yn y cae rheoli, a thaenodd Bodwi Silage Booster ar 375kg/ha i’r toriad cyntaf ac ar 310kg/ha i’r ail, gan ddefnyddio 21:8:11 yn y cae rheoli.

Samplodd Mr Duller y glaswellt, a dangosodd y dadansoddiadau bod y gwrtaith Booster ar draws pob safle, yn y silwair a’r llystyfiant ffres, wedi cynyddu’r cynnwys seleniwm – bum gwaith yn nodweddiadol mewn glaswelltir ffres a dwy i dair gwaith mewn silwair.

Cofnodwyd manteision maint cnydau o hyd at 11% ar y tair fferm.

Gyda’r gost arferol o ychwanegu sylffwr i bob toriad silwair yn oddeutu £7/ha, mae’r glaswellt ychwanegol a dyfwyd yn y treial hwn - 300kgDM/ha – yn werth bron £50 o ran egni a phrotein.

“Mae hynny’n elw ar fuddsoddiad iachus o 7:1,” meddai Mr Duller.

Adroddodd fod lefelau protein ac egni crai yn amrywiol iawn yn y llystyfiant ffres, heb ddim tueddiadau clir, ond fod y lefelau siwgr yn uwch yn y glaswellt lle taenwyd y gwrtaith Booster ar bump o’r chwe sampl.

“Cofnododd y dadansoddiadau o’r silwair gynnydd mewn ME ym mhob safle/toriad silwair ynghyd â chynnydd mewn protein crai mewn tair o’r pedair sampl,” meddai Mr Duller.

Yn hanesyddol, argymhellwyd gwrteithiau sylffwr ar gyfer systemau silwair aml-doriad a defnyddwyr nitrogen trwm.

“Mae’r treial hwn yn cadarnhau bod sylffwr, hyd yn oed ar lefelau nitrogen is, yn fewnbwn pwysig ac economaidd werthfawr,’’ meddai Mr Duller.