Arloesi_Arallgyfeirio_Cymru

Roedd y seren cyfryngau cymdeithasol, Tom Pemberton, yn boblogaidd iawn ymysg mynychwyr yn ystod ei gyflwyniad yn nigwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cyswllt Ffermio yn Llanelwedd, pan ddywedodd wrthyn nhw fod y refeniw o’i bresenoldeb ar-lein wedi cyfrannu at y gost o adeiladu ysgubor newydd enfawr!

Mae’r ffermwr llaeth pumed genhedlaeth hwn o Swydd Gaerhirfryn wedi dod yn gyflwynydd teledu, awdur ac yn siaradwr cyhoeddus, ar ôl denu llawer o wylwyr a diddordeb ar draws amrywiol sianeli ar-lein yn ystod y degawd diwethaf. Esboniodd Tom nad oedd yr hyder i ymgysylltu â’r cyhoedd, enwogrwydd a ffortiwn wedi dod ‘dros nos’, ond o fewn ychydig flynyddoedd yn unig, gyda chefnogaeth ei deulu, mae ei obsesiwn â ‘gweld canlyniadau’ a’i natur benderfynol i lwyddo wedi ei gael lle y mae heddiw. Mae’n bosib bod rhwystrau fel problem clyw heb ei ddiagnosio pan yn fabi, ac yna dyslecsia difrifol, wedi sbarduno’r dyn ifanc hwn, sy’n cyfaddef ei fod yn ‘deall rhywfaint ar ffigyrau’, i’w rôl bresennol fel un o ddylanwadwyr allweddol y diwydiant ffermio.

“Mae’n rhy hawdd o lawer i deuluoedd ffermio dreulio blynyddoedd yn trafod sut y gallen nhw, neu sut y dylen nhw, wneud pethau’n wahanol, ond oni bai eu bod nhw’n meddwl amdano o ddifri ac yn rhoi syniadau ar waith, fydd dim byd byth yn newid.”

Roedd Tom yn un o 21 o siaradwyr yn y digwyddiad, gyda phynciau’n amrywio o beiriannau gwerthu llaeth i wneud y mwyaf o incwm o’ch tir, ac o ffermio llaeth heb ddefnyddio mewnbynnau i roi ffigwr ar stociau carbon. Darparodd y rhaglen llawn cyflwyniadau addysgiadol a bywiog ar draws tair theatr, yn ogystal â’r cyfle i fynychu ystod o gymorthfeydd ‘blasu’ un-i-un ar ystod eang o bynciau yn gysylltiedig ag arloesi ac arallgyfeirio, y cymysgedd cywir o wybodaeth, arweiniad a chyfleoedd rhwydweithio i’r cannoedd o ymwelwyr a fynychodd.

Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sydd, ochr yn ochr â Lantra Cymru, yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, fod y diwrnod wedi bod yn llwyddiant aruthrol.

“Roedd pawb y buom yn siarad â nhw yn canolbwyntio, wedi’u harfogi â’u hamserlen, ac yn awyddus i wrando a dysgu oddi wrth y cymysgedd eang o entrepreneuriaid ffermio llwyddiannus, siaradwyr a mwy na 70 o arddangoswyr a oedd yn fodlon rhannu eu profiad a’u gwybodaeth.

Manteisiodd llawer hefyd ar y cymorthfeydd un-i-un oedd ar gael ar y diwrnod i drafod eu syniadau neu faterion unigol, ond i unrhyw un a allai fod â chwestiynau neu ymholiadau pellach yn dilyn y digwyddiad ac a hoffai gael cymorth pellach, mae croeso i chi gysylltu â Cyswllt Ffermio – rydym bob amser ar gael i helpu,” dywedodd Mrs Williams.

Dywedodd Rachel Powell, sy’n ffermio gyda’i gŵr James a’u teulu Ifanc yn Nolygarn, Llanbadarn Fynydd, fod y diwrnod y tu hwnt i’w disgwyl.  

“Mae defnyddwyr heddiw eisiau gwybod o ble mae eu bwyd yn dod, a’r sicrwydd eich bod yn sicrhau mai iechyd anifeiliaid a diogelu’r amgylchedd yw’r flaenoriaeth ar gyfer popeth yr ydych yn ei wneud.

Dywedodd yr holl siaradwyr y gwrandawais arnynt fod yn rhaid i chi fod yn angerddol a chanolbwyntio ar yr hyn yr ydych am ei gyflawni, a bod tryloywder yn hollbwysig.

Dyma sut y bydd ffermwyr Cymru yn creu busnesau cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – mae’r hyn a ddysgais yn y digwyddiad wedi fy ysbrydoli i wneud mwy fyth,” meddai Mrs Powell.

Cafodd dau ffermwr bîff a defaid yr ucheldir o Dondu yn Sir Forgannwg, Tabitha Anthony ac Emma Anthony, foment o sylweddoliad, gan ddweud eu bod nhw’n mynd i dreulio mwy o amser yn dysgu am farchnata, brandio a chyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu busnesau ffermio teuluol.

“Fe wnaethon ni fynychu nifer o gyflwyniadau ysbrydoledig ac roedd yn braf clywed ffermwyr a phobl fusnes mor onest, agored ac yn siarad ‘o’r galon’.

Mae ffermwyr yn gwybod eu bod nhw’n gwneud gwaith da, ond dydyn ni ddim bob amser yn cyfleu’r neges honno’n dda, felly rydyn ni’n mynd i gysylltu â Cyswllt Ffermio i weld beth allwn ni ei wneud i wella!”.

Roedd Christian Nightingale o Lely Atlantic yn siaradwr ac yn arddangoswr yn y digwyddiad. Gyda rhai o offer mwyaf arloesol, dyfodolaidd y diwydiant yn cael eu harddangos, dywedodd Mr Nightingale a’i gynrychiolydd gwerthiant yng Nghanolfan Lely Cymru, Clive Thomas, eu bod wedi cael diwrnod ardderchog o rwydweithio gyda chwsmeriaid posib.  

“Roedd diddordeb mawr mewn rhai o’r offer blaengar a fydd, heb os, yn trawsnewid ffermio llaeth y DU yn y dyfodol – yn enwedig systemau a fydd yn lleihau allyriadau amonia ac yn gwella lles anifeiliaid.”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.