Hywel Wigley (right) with son Llywarch participated in HCC Stoc+ sheep fertility project.

Mewn prosiect ymchwil manwl sy’n edrych ar y prif ffactorau i wella ffrwythlondeb defaid, darganfu Hybu Cig Cymru (HCC) bod mynd i’r afael â chlefydau y gellir eu hatal mewn mamogiaid cynhyrchiol yn chwarae rhan arwyddocaol wrth wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb posib busnesau fferm.

Darganfuwyd bod dau glefyd yn chwarae rhan amlwg pan oedd mamogiaid yn sganio’n wag ar y ffermydd fu’n rhan o’r ymchwil, sef clefyd Johne a Tocsoplasmosis.

Gwahoddwyd holl ffermwyr cynllun Stoc+ HCC, a ariennir gan yr UE a Llywodraeth Cymru, i gymryd rhan yn yr ymchwil, gan fod ffrwythlondeb defaid wedi ei amlygu fel un o’r pynciau allweddol yr oedd y ffermwyr eu hunain yn awyddus i ddysgu a deall mwy amdano.

Mae Prosiect Stoc+ yn hybu rheolaeth iechyd diadelloedd a buchesi yn rhagweithiol, i helpu Cymru i arwain y byd o ran lles anifeiliaid, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.

Holwyd i’r ffermwyr a gymrodd ran yn yr ymchwil gychwynnol i gasglu samplau i’w profi a darparu gwybodaeth gefndir a data am niferoedd y ddiadell, canrannau ŵyna blaenorol ac arferion iechyd anifeiliaid cyffredinol y fferm.

Yn ystod ail gam yr ymchwil, dewiswyd 10 diadell ar gyfer adolygiad manwl o ddata sganio a oedd yn cynnwys casglu samplau o famogiaid gwag gan filfeddyg profiadol.

Dywedodd un o’r ffermwyr fu’n rhan o’r gwaith, Hywel Wigley o Lwyngwern, Llanuwchllyn ger y Bala: “Mae’r ymchwil yma wedi bod yn hollbwysig i’m praidd o famogiaid mynydd Cymreig. Dangosodd canlyniadau sganio eleni fod rhai o’r mamogiaid yn sganio’n wag.

“Galluogodd y prosiect i ni baratoi mwy o ymchwil ar y fferm a chanfod unrhyw broblemau o fewn y ddiadell. Gan weithio gyda fy milfeddyg lleol, cymerwyd samplau, gwnaethpwyd profion a nodwyd unrhyw broblemau gan ddelio â nhw yn rhagweithiol ac ymarferol.

“Mae fy mhraidd yn sicr wedi ei chryfhau oherwydd y prosiect yma a dwi’n falch y bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn cael ei rhannu’n eang gyda’r diwydiant i helpu eraill hefyd.”

Wrth gomisiynu’r ymchwil, mae Hybu Cig Cymru wedi creu set unigryw o ddata sy’n edrych ar strwythur oedran diadelloedd a’r effaith y mae bridio tymor hir mamogiaid cynhyrchiol yn ei gael ar agwedd economaidd ffermydd teuluol.

Yn ôl John Richards, arweinydd prosiect HCC: “Rydym bob amser yn ceisio bod yn arloesol ac rydym yn ymfalchïo ein bod wedi gweithio gyda ffermwyr Cymru i gasglu data sydd heb ei gasglu gan ffermwyr defaid Cymru na’r Deyrnas Gyfunol o’r blaen.

“Mae llawer o waith wedi ei wneud i edrych ar fywydau cynhyrchiol gwartheg godro ledled y DU, ond dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd yng Nghymru a’r DU gyda defaid. Mae technoleg yn helpu ffermwyr i gasglu data’n fwy effeithlon nawr ac yn eu galluogi i fwydo’r wybodaeth i waith ymchwil, fel hwn, sy’n edrych ar ffrwythlondeb defaid.

“Elfen ddiddorol arall yw’r amrywiad sylweddol sydd rhwng ffrwythlondeb defaid ar ffermydd yn ogystal â’r gwahaniaeth yn niferoedd yr ŵyn yn flynyddol ar bob fferm, gyda nifer o’r busnesau ddim yn profi’r un problemau ffrwythlondeb bob blwyddyn.

“Y materion eraill a ganfuwyd yn ystod yr ymchwil oedd bod cysylltiad agos rhwng sgôr cyflwr y corff ac oedran mamogiaid a materion ffrwythlondeb, gyda chlefyd Johne yn arddangos nodweddion cyffredin o golli cyflwr corfforol a chyfradd uchel o orfod cyfnewid mamogiaid yn y diadelloedd hynny.

“Mae’r ymchwil newydd hwn mewn defaid yn dangos pwysigrwydd rheoli clefydau’n well ar ffermydd.

“Rydym yn ddiolchgar i’r holl ffermwyr a milfeddygon a gymerodd ran yn y prosiect ac a weithiodd gyda ni i ymchwilio i iechyd anifeiliaid a ffrwythlondeb defaid.

“Edrychwn ymlaen yn awr at rannu’r ymchwil hwn ymhellach gyda’r diwydiant er mwyn parhau i wneud gwelliannau i iechyd, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd defaid ar ffermydd Cymru.”

Mae Stoc+ HCC yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.