Lleoliad:
Bro Morgannwg
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£4761.50

Disgrifiad o'r prosiect:

Mae’r ffordd rydym yn gweithio yn newid.  Mae mwy o bobl yn mynd yn hunangyflogedig ac yn chwilio am gydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith.  Gallai hynny olygu symud i ardaloedd gwledig fel Bro Morgannwg a gweithio o gartref.  Gallai'r gweithwyr hynny deimlo wedi ynysu, a dechrau chwilio am fwy o gyfleoedd i ddatblygu eu rhwydweithiau a chael cymorth i dyfu eu busnes. 

Mewn ardaloedd gwledig eraill o'r DU ac Ewrop, megis Gwlad yr Haf, Swydd Wiltshire a Chatalwnia, mae mannau cydweithio/deori wedi dod yn boblogaidd, i gynnig swyddfeydd hyblyg a chyfeillgar.

Dyma’r gwaith a wnaed ar gyfer y prosiect: 

  • Arolwg ar yr angen am le gweithio yn ardaloedd gwledig y Fro 
  • Arolwg o adeiladau gwag nad ydynt yn cael eu defnyddio’n llawn  
  • Ymchwil i ffyrdd gwahanol o ddarparu lle cydweithio  
  • Ysbrydoli digwyddiadau newydd ar gyfer lleoedd gweithio 
  • Ymweliadau i ddysgu

Arolygon 

Cafodd yr arolygon eu lansio yn Sioe y Fro yn Awst 2017.  Cafodd yr arolygon gyhoeddusrwydd drwy'r cyfryngau cymdeithasol, yn y Gem ac ar y wefan.

  • Arolwg ar yr angen am le gweithio yn ardaloedd gwledig y Fro - Datblygwyd arolwg ar yr Angen am Le Gweithio i Fusnesau yn ardaloedd gwledig y Fro (gweler Atodiad 1).  Roedd yr arolwg yn ceisio targedu pobl a oedd yn chwilio am le gwaith ac i wybod beth oedd eu hanghenion busnes. Cafwyd 23 o ymatebion i'r ymateb ond ni wnaeth yr ymatebwyr ateb pob cwestiwn.
  • Arolwg ar adeiladau gwag nad ydynt yn cael eu defnyddio’n llawn - Datblygwyd arolwg ar adeiladau gwag nad ydynt yn cael eu defnyddio’n llawn yn ardaloedd gwledig y Fro.

Yr Arferion Gorau o ran Lleoedd Gweithio Hyblyg

Oherwydd mai prin yw’r lleoedd gweithio yn ardaloedd gwledig y Fro, cafodd rhagor o waith ymchwil ei wneud ar fodelau lleoedd gweithio a oedd ar gael i fusnesau’n datblygu yn ne Cymru a’r tu hwnt.

Rhwydwaith Lleoedd Gweithio Ysbrydoledig 
Sefydlwyd rhwydwaith i ddenu pobl sy'n chwilio am leoedd gweithio newydd a phobl sydd â lleoedd gwag neu leoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio’n llawn ac y maent eisiau iddynt gael eu defnyddio er mwyn eu hysbrydoli i gymryd camau i greu lleoedd gweithio newydd yn ardaloedd gwledig y Fro.

Er mwyn i’r cyfranogwyr ddysgu mwy, cynhaliwyd cyfres o ymweliadau astudio i ganolbwyntio ar ffyrdd newydd o greu lleoedd gweithio gwledig ysbrydoledig.

Canlyniadau’r Prosiect

Y Canlyniadau – 

  • Wedi datblygu rhwydwaith da o bobl sy’n chwilio am le gweithio a phobl sydd ag ysgubor wag. Wedi cael cysylltiad â mwy na 70 o bobl. 
  • Wedi darparu adborth defnyddiol ar yr arolygon i ganfod pa fath o le y mae pobl eisiau a pha fath o le gwag sydd ar gael.
  • Wedi darparu nifer o gyfleoedd dysgu i ysbrydoli pobl i adnewyddu eu hadeiladau gwag, gan gynnwys dau ddigwyddiad rhwydweithio a thri ymweliad astudio.
  • Wedi darparu cymorth personol i fwy na 30 o bobl a oedd yn chwilio am le gweithio, a thua 10 o dirfeddianwyr a oedd ag adeiladau gwag.   
  • Gallu darparu cyngor o ganlyniad i'r wybodaeth a ddysgwyd drwy'r prosiect, a dangos y ffordd at asiantaethau eraill, e.e. Cyswllt Ffermio, yr Adran Gynllunio neu ddarparwyr lleoedd gweithio. 

Y Gwersi a Ddysgwyd

Mae’n cymryd amser i ddatblygu rhwydwaith, ac er bod y cyfranogwyr yn rhan o rwydwaith dysgu, ni fyddant yn gweithredu ar unwaith. 
 
Er bod nifer o adeiladau gwledig gwag yn y Fro, nid peth hawdd yw eu trawsnewid.  Rhaid goresgyn nifer o rwystrau a gallai hynny atal pobl rhag gweithredu, gan gynnwys: 

  • Cael caniatâd cynllunio i droi’r adeilad.  Mae rhagor o gyngor ar gael yn y Canllawiau Cynllunio Atodol 
  • Troi ac Adnewyddu Adeiladau Gwledig  Mae Cynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg, Polisi MD11 Troi ac Adnewyddu Adeiladau Gwledig yn ffafrio trawsnewid adeiladau gwledig ar gyfer busnesau eraill, y gymuned a thwristiaeth yn hytrach nag ar gyfer defnydd preswyl. 
  • Deall materion treth a chyfrifyddu.  Er enghraifft, byddai tynnu adeilad o ddefnydd amaethyddol yn golygu ei dynnu o ryddhad eiddo amaethyddol treth etifeddiant.  Mae’n bwysig cael cyngor am strwythurau busnes. 
  • Deall y model busnes ar gyfer y lle newydd, a chymryd amser i ddatblygu cynllun busnes. 
  • Gallai adeilad sydd newydd ei droi (e.e. yn swyddfa neu’n weithdy) fod yn agored i ardrethi busnes. - Sicrhau arian i droi'r adeiladau.  Efallai nad oes gan rai ffermwyr gyfalaf i wneud y gwaith felly byddai angen iddynt wneud cais am arian grant, e.e. Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig.   
  • Materion perchnogaeth tir o fewn y teulu  
  • Ystyriaethau cyfreithiol ac yswiriant.  Argymhellir gosod les gyda thenantiaid posibl, a dilyn rheoliadau tân ac iechyd a diogelwch lle gweithio. 
  • Mae mynediad at fand eang cyflym iawn yn rhywbeth pwysig i'w ystyried hefyd.

Beth nesaf i’ch prosiect chi?

  • Mae nifer o gyfranogwyr y rhwydwaith wedi cael eu hysbrydoli i greu lleoedd gweithio newydd, gan gynnwys: 
  • Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg, sydd wrthi’n meddiannu Canolfan Gwybodaeth i Deuluoedd Gorllewin y Fro a Chanolfan Ieuenctid Llanilltud Fawr 

Mae hen Fferm Dwrciod ym Mhendeulwyn wrthi'n gwneud cais am Gyllid Datblygu Cymunedau Gwledig i droi hen sied yn lle cymunedol / lle gweithio i'w rannu. 

Mae’r prosiect wedi arwain hefyd at fwy o ddiddordeb mewn cyfleoedd posibl i gydweithio, yn enwedig ar gyfer y sector diwydiannau creadigol.  Mae Cymunedau Gwledig Creadigol wrthi'n cymryd rhan yn y prosiect Cydweithredu Colabora, i archwilio'r arferion gorau o ran lleoedd cydweithio ledled Ewrop.