Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£96873.00

Disgrifiad o'r prosiect:

Mae Prosiect Afon Hafren Gyfeillgar yn gweithio gyda phobl gyda mesurau i wella ansawdd y dŵr yn afon Hafren drwy wella dealltwriaeth a lleihau llygredd o ffynonellau amrywiol. 

Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan y gymuned gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Afon Hafren, sy’n golygu bod cefnogaeth leol, canlyniadau cynaliadwy a gwerth da am arian. 

Gweithio yn yr hen Sir Drefaldwyn yng Ngogledd Powys.  

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Mae costau’n cael eu harbed pan mae cymunedau’n cael eu cymell i gymryd rhan gyda phrosiectau afon. Er enghraifft, wrth gael gwared ar Ganclwm Japan sy’n rhywogaeth ymledol o lannau afonydd, drwy weithio gyda grwpiau Cyfeillion yr Afon, roedd posib i ni weld ble’r oedd, ei drin ac wedyn mynd yn ôl i archwilio flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gan fod Canclwm Japan angen cynllun rheoli pum mlynedd, mae arbediad sylweddol yma. Eto, gydag adeiladu gerddi glaw, wrth gefnogi gwirfoddolwyr i ymgymryd â rhywfaint o’r gwaith adeiladu a helpu ysgolion i wneud y gwaith cynnal a chadw.  

Drwy gynnwys busnesau yn y Wobr Busnes Cyfeillgar i Afon, roedd modd i ni ddangos iddynt y manteision i’w busnes o gymryd rhan gyda’r gymuned leol. Er enghraifft, drwy weithio gyda Stadco, maent wedi cyllido siacedi llachar ar gyfer dyddiau afonydd i ysgolion, a chael gwared ar gored a oedd yn achosi problem i bysgod yn mudo. Byddwn yn parhau i weithio gyda hwy yn y dyfodol ar brosiectau afon. 

Pwy fydd yn elwa ar y prosiect?

Cymunedau a busnesau ledled ardal Afon Hafren ym Mhowys.

Her 

Mae dŵr yn mynd i mewn i’n hafonydd ni o ffynonellau amrywiol a bydd yn cefnogi bywyd gwyllt yr afon os yw o ansawdd da. Mae afonydd glân yn bwysig i hamdden, i fywyd gwyllt, i bysgota, i amaethyddiaeth ac i lawer o fusnesau sy’n dibynnu ar ddŵr glân.  

Mae rhai o'r ffynonellau o ddŵr afon yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan bobl, er enghraifft, gallai draeniau stormydd sy’n gysylltiedig â’r afon gael eu llygru gan dywallt tanwydd ac mae llygredd mwy gwasgarog yn digwydd pan fydd ardaloedd helaeth o dir yn dioddef o erydiad pridd, er enghraifft.    
 
Hefyd mae’r ffordd rydym yn adeiladu ar dir ac yn ei ddefnyddio’n cyfrannu at lifogydd yng nghartrefi a busnesau pobl.  

Datrysiad 

Drwy weithio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd mewn pum dalgylch allweddol i'r afon ym Mhowys, roedd modd i ni gynnig ‘Gwobr Plant Cyfeillgar i Afon’ i’r plant lle’r oeddent yn dysgu am ansawdd dŵr, ffermio, infertebrata afon a bywyd gwyllt arall ac yn gweithio tuag at wneud eu hysgol yn ‘ysgol gyfeillgar i afonydd’. 

Mae ysgolion cyfeillgar i afonydd wedi gosod gerddi glaw yn eu lle i ddal dŵr glaw ac i leihau llygredd mewn afonydd. Drwy greu gerddi glaw yn yr ysgol, mae'r gymuned yn cymryd rhan drwy ddigwyddiadau ac mae llai o lifogydd lleol.  

Beth oedd canlyniad eich prosiect?

Mae’r gymuned wedi buddsoddi yn y prosiect, er enghraifft, mae manteision niferus i’r system ddraenio drefol gynaliadwy yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin: rheoli llifogydd, gwerth o ran dymunoldeb yr ardal, celf amgylcheddol ac addysg gyda’r ysgol gyfan yn rhoi sylw i lenyddiaeth, materion amgylcheddol a rheoli llifogydd yn naturiol.

Rydym wedi cefnogi rhwydweithiau o wirfoddolwyr mewn ffordd gynaliadwy, a fydd yn cael gwared ar rywogaethau ymledol, casglu data am ansawdd dŵr yr afon i infertebrata, arolygu’r lleoliad am nythod eogiaid a phlannu'r Coed Poplys Duon prin.   
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Mike Morris
Rhif Ffôn:
07970 451601
Email project contact