Lleoliad:
Dyffryn Wysg
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£40000.00

Mae gan asbaragws botensial da yng Nghymru gan ei fod yn gnwd uchel ei werth sy’n denu lefelau gwerthiant da yn uniongyrchol o’r fferm.  Mae’r cnwd yn llenwi’r bwlch rhwng diwedd mis Ebrill a diwedd mis Mehefin pan nad oes llawer o gnydau eraill ar gael yn y DU. Er bod galw mawr am asbaragws, mae’r costau sefydlu’n uchel a’r cyfnod hir cyn y cynhaeaf cyntaf yn golygu nad yw tyfu’r cnwd yn ddewis deniadol i dyfwyr ar raddfa fechan.

Nod y prosiect hwn yw monitro allbynnau a meincnodi twf asbaragws organig ar ddwy fferm yn Sir Fynwy ar raddfa cae. Bydd hyn yn arwain at ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o’r gofynion ymarferol ac ariannol.

Bydd gwahanol fathau o asbaragws yn cael eu plannu ar y ddwy fferm fel rhan o’r prosiect dros dair blynedd.

  • Eleni (2018), bydd yr asbaragws yn cael eu plannu ym mis Ebrill a bydd % ymddangosiad, niferoedd coesynnau rhedynog ac uchder yn cael eu monitro.
  • Yn yr ail flwyddyn, gan ddibynnu ar niferoedd coesynnau rhedynog yn y flwyddyn gyntaf, efallai bydd angen tocio ychydig, ac yna byddant yn cael eu gadael i ddatblygu. Os nad yw’r coesynnau rhedynog yn ddigon cryf bydd y cnwd yn cael ei adael i ddatblygu a bydd uchder, ansawdd a nifer y coesynnau rhedynog yn cael eu hasesu.
  • Yn y drydedd flwyddyn mae’n debygol y bydd cynaeafu ysgafn ar ddiwedd mis Mai, er mwyn cynaeafu cnwd mewn 3 gradd sef mawr, canolig a sbriw. Bydd data yn cael ei gasglu ar achosion o chwyn/plâu, perfformiad a chostau rheoli cnwd er mwyn medru meincnodi.

Yn y flwyddyn derfynol, mae’r cnwd yn debygol o gael ei gynaeafu ar ddiwedd mis Mehefin. Bydd rhagamcano’r cynhaeaf mawr cyntaf yn cael ei lunio drwy asesu’r planhigion o’r hydref blaenorol nes dechrau’r gwanwyn. Bydd costau organig adwerthol yn cael eu defnyddio ynghyd â’r costau cynaeafu sylfaenol.

Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau

Adroddiad (Mehefin 2019): Adroddiad interim y prosiect asbaragws organig

Cyhoeddiad Technegol (Mai/Mehefin 2018): Archwilio dichonolrwydd ymarferol ac a…

(Mai 2018): Asbaragws Organig (Robert Whittal, Square Farm)

 

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Will John
Email project contact