Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£12000.00

Disgrifiad o'r prosiect:

Roedd y trigolion yn bryderus bod Piler Rodney, Heneb Restredig Gradd II*, yn dirywio ac yn dechrau ‘chwyddo’ 

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Edrychodd yr Astudiaeth Ddichonoldeb ar hanes y Piler ac mae wedi codi ymwybyddiaeth.

Gobeithir y bydd byrddau gwybodaeth ychwanegol yn cael eu hychwanegu yn y dyfodol, ac y bydd taflenni’n cael eu gwneud, i esbonio’r hanes. 

Pwy fydd yn elwa ar y prosiect?

Cymunedau Ceredigion.

Her 

Nid oedd sicrwydd am berchnogaeth y Piler - gwnaed y gwaith atgyweirio diwethaf arno gan Wŷr Sir Drefaldwyn.

Nid oedd cyrff statudol fel CADW a Chyngor Sir Powys yn fodlon derbyn unrhyw gyfrifoldeb, na chwaith y perchennog tir, am nad oedd y tir y mae’r Piler yn sefyll arno wedi cael ei gyflwyno’n rhodd.

Datrysiad 

Penderfynodd tri Chyngor Cymuned cyfagos ddod at ei gilydd a sicrhau grant gan ARWAIN ar gyfer cynnal Astudiaeth Ddichonoldeb a fyddai’n edrych ar berchnogaeth y safle ac yn awgrymu datrysiadau posib. Cytunwyd i gyllid cyfatebol gan y Cynghorau Cymuned a dalodd am ddrôn ac arolwg saernïol ar y Piler.

Beth oedd canlyniad eich prosiect?

Mae’r Astudiaeth Ddichonoldeb wedi dangos na ellir sefydlu perchnogaeth heb lawer o waith cyfreithiol. Gellid ffurfio Grŵp Cyfeillion Piler Rodney a allai godi arian ar gyfer y cyllid sydd ei angen.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Carol Davies
Rhif Ffôn:
01597 827378
Email project contact