Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£37430.00

Cyflwyniad

Capel y Methodistiaid Calfinaidd o 1800 sy’n wag yw Beili Du, a ailadeiladwyd yn 1868 gyda stabl fechan ac ystafell ddosbarth wedi’u hychwanegu. Mae’n cadw’r ffasâd wal hir sy’n nodweddiadol o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae’n rhestredig am ei ddiddordeb hanesyddol arbennig fel capel gwledig syml sy’n cadw’r gwaith pren graenog sydd wedi’i baentio oddi mewn iddo.  

Mae ariannu adfer a datblygu’r capel wedi profi i fod yn anodd. Mae Addoldai Cymru wedi llwyddo i sicrhau nawdd i atgyweirio’r to ac adfer y nenfwd turnau a phlaster, ond mae’r capel yn parhau i fod allan o gyrraedd i’r gymuned ac ymwelwyr.   

Yr Ymddiriedolaeth yw’r unig sefydliad yng Nghymru gyda chylch gorchwyl i gymryd perchnogaeth dros gapeli Anghydffurfiol gwag yng Nghymru er budd pobl Cymru.  

Prif Nod  

Datblygu a dehongli hanes capel gwledig gwag rhestredig Gradd II yn gynaliadwy ac yn ddwyieithog, ynghyd â’r ystafell ddosbarth/stabl sy’n gysylltiedig. Ased hanesyddol a diwylliannol pwysig ym Mhentrebach. 

Yr Her  

Mae’r Capel wedi bod yn wag ac ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth ers 2009, ac roedd pryder y byddai’r adeilad yn dirywio. Roeddynt wedi cysylltu ag amrywiol ariannwyr, gan gynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (HLF), i weld beth oedd eu barn ar ariannu posibl; roedden nhw wedi dynodi na fyddai Beili Du yn flaenoriaeth. Fodd bynnag, roeddynt yn gallu sicrhau nawdd i gynnal gwaith o bwys ar y to a’r nenfwd. Mae’r safle wedi cael ei gyfyngu’n fawr oherwydd ei leoliad a’i natur wledig. Nid oeddynt wedi cynnal unrhyw ymgynghoriad ffurfiol hyd yn hyn ac roedd ymgysylltu cyfyngedig gyda’r gymuned.  Adeilad Rhestredig Gradd II yw Beili Du sydd wedi’i restru am ei ddiddordeb hanesyddol arbennig fel capel gwledig syml sy’n cadw’r gwaith pren graenog sydd wedi’i baentio oddi mewn iddo. Mae’n adeilad sy’n gapel gwledig bychan gyda stabl sy’n gysylltiedig ar y llawr gwaelod a grisiau allanol at festri ar yr ail lawr. Erbyn hyn, mae’r capel yn dod yn enghraifft brin o’r math hwn o uned gyfunol, ac mae nifer o’r adeiladau hyn wedi cael eu colli i ddatblygiad preswyl. Mae hefyd yn safle cyfyngedig, yn gymydog i dŷ Beli Du ac mae mannau parcio yn brin. Bu ariannu ailddefnydd cynaliadwy o’r adeilad tra’n cynnal ei gymeriad yn her.

Yr Ateb  

Oherwydd y diffyg sgop o ran awditoriwm y capel ei hunan, teimlwyd mai’r ateb gorau ar gyfer ailddatblygu’r adeilad yn llwyddiannus oedd yr ardal stabl ar y llawr gwaelod a’r festri a leolwyd ar yr ail lawr. Y ffordd orau i ganfod ateb i’r problemau hyn oedd comisiynu arbenigwr i brofi amrywiaeth o opsiynau trwy astudiaeth ddichonoldeb. Byddai hyn yn galluogi’r Ymddiriedolaeth i ymgysylltu gyda phobl leol i chwilio am ddefnydd newydd cynaliadwy i’r stabl a’r festri. Mae wedi eu galluogi nhw i benderfynu a yw cyfle datblygu yn gwneud synnwyr busnes da, a yw’n addas ai peidio ar gyfer y gymuned; yn ymarferol yn ariannol ac a yw’n bosibl yn dechnegol ai peidio. Fe fydd hefyd yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol iddynt i’w galluogi i chwilio am y nawdd cyfalaf angenrheidiol sy’n angenrheidiol i atgyweirio a datblygu.  

Roeddynt hefyd yn awyddus i adrodd stori’r capel hwn ac i ddefnyddio technolegau digidol i ddehongli hyn er mwyn codi ymwybyddiaeth a’i ddatblygu fel atyniad i ymwelwyr.  Mae’r prosiect hwn wedi eu galluogi i gynnal ymchwil helaeth ac ymgysylltu gyda phobl leol a sefydliadau treftadaeth i gasglu llu o wybodaeth arwyddocaol am hanes y capel yn lleol ac am hanes ehangach Methodistiaeth.  

Roeddynt wedi cynnal gwaith sganio laser ar y capel, sy’n cyflwyno data Point Cloud (data ar geometreg tri dimensiwn) sy’n rhoi cofnod cywir o’r adeilad. Mae’r data hwn erbyn hyn wedi ei archifo o fewn y Cofnod Henebion Cenedlaethol. Yn ogystal, mae’n ffurfio’r sail ar gyfer laser “Flythrough” a fydd ar gael ar eu gwefan a sianel YouTube. Mae’n ffurfio’r sail hefyd dros animeiddiad o fewn ffilm dehongli 5 munud. Maent hefyd wedi llunio taflen draddodiadol. Bydd y deunyddiau dehongli digidol a thraddodiadol hyn yn cynyddu ymwybyddiaeth am stori’r capel pwysig hwn, yn lleol ac i ymwelwyr, ac fe fydd yn ganolbwynt datblygu Beili Du fel atyniad bychan i ymwelwyr.   

Y Budd  

Bydd cymuned Pentre-Bach yn elwa trwy’r defnydd sensitif o’r stabl a festri yn y pendraw a’r cynnydd mewn mynediad i’r capel, ynghyd â stori hanes y capel. Fe fydd hyn yn cefnogi twristiaeth a’r sectorau addysg o bosibl gan y gallai dehongli hanes y capel a mynediad at yr adeilad fod yn gyrchfan ac adnodd addysgol gwerthfawr.  

Y Canlyniad Mae ymchwil ac ymgysylltu helaeth gydag aelodau’r gymuned leol, haneswyr lleol allweddol, a defnyddio deunydd archifol o dreftadaeth leol/cenedlaethol a sefydliadau hanes wedi cynyddu’r wybodaeth ddwyieithog sydd ar gael yn sylweddol, ac mae hanes Beili Du wedi cyflwyno gwybodaeth i lunio dehongliad digidol a thraddodiadol a fydd yn ychwanegu gwerth at yr hunaniaeth leol a’r adnoddau diwylliannol sydd ar gael.  Fe fydd hefyd yn eu galluogi i gysylltu gyda chapeli eraill sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth ym Mhowys – trwy gyfres o daflenni – un ar Feili Du a dau gapel arall ym Mhowys.  Maen nhw wedi cefnogi busnesau lleol trwy gaffael ymgynghorwyr a leolir o fewn Powys a defnyddio ac ymgysylltu gyda lleoliadau busnes lleol cymaint ag sy’n bosibl. Mae hyn wedi arwain at ymrwymiadau oddi wrth ddau leoliad allweddol sy’n dal taflenni ac wedi dod yn ddalwyr allweddi.  Maent hefyd wedi gwneud defnydd o sefydliadau treftadaeth a hanes a leolir ym Mhowys: gan gynnwys Swyddfa Archifau Sir Powys yn Llandrindod, Archifau Sir Gaerfyrddin yng Nghaerfyrddin, Llyfrgell Aberhonddu a’r Gaer, Aberhonddu, Llyfrgell Prifysgol Abertawe, Canolfan Dreftadaeth Llanwrtyd, ynghyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.  Mae cyswllt wedi cael ei wneud gyda’r ysgol gynradd sirol leol ym Mhontsenni gyda’r nod o ddatblygu prosiect ysgol yn seiliedig ar agwedd Eisteddfod yr ymchwil; fodd bynnag, mae hyn wedi cael ei ohirio oherwydd yr amgylchiadau presennol. Mantais anuniongyrchol i’r ymgysylltu yma oedd ymrwymiad gan y gymuned i gefnogi hyn o gronfeydd a godir mewn cyngherdd gymunedol a gynhaliwyd yn Eglwys Dewi Sant, Llywel ym mis Tachwedd 2019 ac fe fydd yn brosiect a gaiff ei datblygu yn y dyfodol.  

Maen nhw wedi ymgysylltu gyda phobl o Ganolfan Dreftadaeth Llanwrtyd mewn cyfarfod safle i drafod addasu a newid y defnydd o gapel gwag a’r materion a wynebwyd trwy ddatblygu a rheoli’r ased diwylliannol yn barhaus. Mae’r astudiaeth achos a luniwyd wedi helpu i gyflwyno gwybodaeth ar gyfer y prosiect hwn ynghyd â bod yn ased diwylliannol arall i gysylltu ag ef.  

Deilliannau/Canlyniadau’r Prosiect

Deilliant (Dangosydd Lefel Achos)  Cyflawnwyd  
Nifer yr astudiaethau dichonolrwydd   1
Nifer y rhanddeiliaid a gafodd eu cynnwys 7
Nifer y cyfranogwyr a gefnogwyd (digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn unig)  8
Nifer y busnesau sy’n elwa 4

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Christine Moore
Rhif Ffôn:
01597 827378
Email project contact