Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39900.00

Mae galw cynyddol gan bobwyr crefft, a gwerthwyr mwy masnachol, am rywogaethau hynafol o rawn sy’n dod yn gynyddol boblogaidd ymhlith defnyddwyr. Mae eu systemau gwreiddiau helaeth o’u cymharu ag amrywiaethau modern, yn eu caniatáu i gael mynediad at fwy o faetholion mewn modd mwy effeithlon, ac yn ffurfio’n ddyfnach o fewn proffil y pridd. Mae hyn yn ein galluogi i’w tyfu ar briddoedd llai ffrwythlon gyda llai o fewnbynnau, cynyddu lefelau maetholion penodol o bosibl yn y grawn a chystadlu yn erbyn chwyn. Mae blas bara o rawn hynafol yn cael ei ystyried i fod yn well na nifer o amrywiaethau modern.

Er bod y galw am y rhywogaethau hynafol yma wedi cynyddu, gall fod yn anodd eu cynhyrchu mewn modd sy’n hyfyw yn economaidd, o ystyried mai bychan yw eu cynnyrch. Nid oes ond ychydig i ddim gwybodaeth agronomegol am y mathau o rawn hynafol, a bydd y gallu i gynnal ymchwil i effeithiau gwahanol gyfraddau o hadau a’u hau dan gnydau eraill ar ffermydd yn rhoi cyfle i’r grŵp o ffermwyr i gael gwell dealltwriaeth o agronomeg ac economeg tyfu’r cnydau. Mae Fferm Caerhys, Caerfai a Lower Harglodd yn Sir Benfro a gyda’i gilydd maent yn cynnig cymysgedd ragorol o brofiad a chymhelliant i ddatblygu eu diddordeb i yrru’r farchnad am rawn hynafol yn y rhan hon o Orllewin Cymru yn ei blaen.

Bydd plotiau arbrawf yn cael eu lleoli ar gaeau sy’n cael eu rheoli yn organig ar bob un o’r tair fferm gan sicrhau eu bod yn unffurf o ran dyfnder y pridd, ffrwythlondeb, draeniad a thopograffeg. Bydd y plotiau yn cael eu hau gydag 2 amrywiaeth o rawn hynafol, Einkorn a barfog Ebrill, ac 1 amrywiaeth modern, Mulika ar gyfer cymhariaeth. 

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddau beth:

Cyfradd hau - Byddant yn cael eu tyfu ar 3 cyfradd hadu gwahanol (isel, canolig ac uchel)

Hau o dan - Sut, neu os, mae hau o dan grawn hynafol yn cael effaith ar eu tyfiant, datblygiad, cynnyrch neu ansawdd.

Bydd y plotiau yn cael eu rheoli yn ôl arferion y fferm e.e. og i reoli chwyn cyn hau dan gnwd arall. Bydd data ar ôl iddynt ymsefydlu yn cael ei gasglu am gyfrif y planhigion, afiechyd y dail, afiechyd gwaelod y coesyn, uchder y cnwd, clwy tywysennau, ymsefydlu, cynnyrch y cynhaeaf a’i ansawdd, ac ansawdd wrth goginio.

Trwy fynd i’r afael â chwestiynau agronomeg allweddol, bydd y prosiect yn gwella effeithlonrwydd cynhyrchiant, a bydd y prawf pobi, blas a maeth yn ein cynorthwyo i brofi’r honiadau ynglŷn â chynnyrch yn seiliedig ar rawn hynafol.

Adroddiadau, Fideos Ac Erthyglau

 

Fideo (Medi 2019): Gerald Miles, Fferm Caerhys, Sir Benfro yn trafod y prosiect…

Fideo (Gorffennaf 2019): Tony Little (Brocer Arloesedd) a Gerald Miles, Fferm C…

 

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Tony Little
Email project contact