- Lleoliad:
-
Castell-nedd Port Talbot
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£60078.00
Disgrifiad o’r prosiect:
Mae egwyddor prosiect Cognation Beicio Rhoi Cynnal ym Mharc Coedwig Afan wedi datblygu o argymhellion Cynllun Busnes Rhoddion Ymwelwyr Cognation, a luniwyd wedi astudiaeth beilot lwyddiannus i ddatblygu llwybrau beicio mynydd ychwanegol ledled De Cymru o dan un faner yn 2010.
Roedd y cynllun peilot yn tynnu sylw at yr angen am gynllun ‘ymwelwyr yn rhoi’, gan ddefnyddio blychau rhoddion mewn lleoliadau strategol amrywiol yng Nghwmafan, gan sicrhau gwaddol o gyfraniadau ariannol tuag at gynnal a chadw a chynaliadwyedd y llwybrau beicio mynedd ym Mharc Coedwig Afan. Roedd y prosiect yn golygu gweithio gyda partneriaid, rhanddeiliaid a gwirfoddolwyr gan sicrhau bod y brand Cognation parhau i gael ei ddefnyddio’n bositif i hyrwyddo’r llwybrau.
Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?
Pwrpas y prosiect Cognation Beicio Rhoi Cynnal oedd creu incwm trwy gynllun ymwelwyr fydd yn cynnal y llwybrau beicio mynydd ym Mharc Coedwig Afan, ac a fyddai’n helpu i sicrhau eu bod yn parhau i gael eu defnyddio ac i gynnal y cyfraniad y mae ymwelwyr beicio mynydd yn ei wneud i’r economi leol.
Er mwyn cyflawni’r nod hwn, mae’r prosiect:
- Wedi anelu at gynnwys amrywiol fusnesau a chyfleusterau ac i osod blychau rhoi wedi’u brandio yn eu safleodd sy’n golygu y gall beicwyr wneud cyfraniadau gwirfoddol tuag at gynnal y llwybrau. Hefyd, i gydweithio â busnesau a sefydlu cynllun ymwelwyr yn rhoi trwy ddefnyddio system ‘optio allan’ ble y bydd ymwelwyr yn rhoi cyfraniad ychwanegol wrth archebu, a gallant ddewis talu neu beidio.
- Wedi’i anelu at farchnata Parc Coedwig Afan fel prif gyrchfan ar gyfer beicio mynydd.
- Gweithio gyda busnesau lleol a rhanddeiliaid yn y maes i sicrhau eu bod yn gallu cymryd mantais o gyfleoedd masnacheiddio a marchnata cydweithredol Cognation o fewn y gymuned beicio mynydd. O ran cynaliadwyedd hirdymor, mae’r prosiect yn anelu at sefydlu grŵp gwirfoddolwyr i gynnal a chadw llwybrau newydd, tasglu penodol ar gyfer selogion a rhanddeiliaid sydd wedi ymrwymo i gynnal y llwybrau ar gyfer y defnydd hirdymor ohonynt ac i roi cyfleoedd hyfforddiant i’r gwirfoddolwyr hynny ddysgu sgiliau newydd, gan eu galluogi i feithrin dealltwriaeth well o waith cynnal a chadw cynaliadwy a hyrwyddo defnydd cyfrifol o’r amgylchedd o amgylch y llwybrau.
Y prosiect a ddarparwyd:
- Cynllun rhoi gan ymwelwyr gan gysylltu gyda 9 o fusnesau/cyfleusterau i osod blychau rhoi wedi’u brandio.
- Cysylltu gyda 30 o randdeiliaid gan gynnwys busnesau i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i farchnata trwy fabwysiadu brandio Cognation (Grŵp Rhanddeiliaid Beicio Mynydd Cwmafan, Grŵp Clwstwr MbWales De Cymru).
- Wedi sefydlu Grŵp Gwirfoddolwyr Llwybr Afan gydag 18 o wirfoddolwyr wedi cofrestru i gymryd rhan yn y diwrnodau hyfforddi a cynnal a chadw y llwybrau.
- Sefydlu partneriaeth o brif randdeiliaid: Cyfoeth Naturiol Cymru, Grŵp Gwirfoddolwyr Llwybrau Afan a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.
- Gwaddol gyda Grŵp Gwirfoddolwyr Llwybrau Afan wedi ymrwymo i gynnal y llwybrau.
Ac yn cyfrannu at y Strategaethau Cenedlaethol canlynol:
- Llewyrch i Bawb: y strategaeth genedlaethol dros Symud Cymru Ymlaen
- Strategaeth Twrisitaeth Llywodraeth Cymru 2013 – 2020, Partneriaeth ar gyer Twf
- Rhannu Pwrpas: Rhannu Dyfodol (Canllawiau statudol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015)
Pwy yw buddiolwyr y prosiect?
Y gymuned leol, busnesau lleol, noddwyr, partneriaid beiciau mynydd a thwristiaeth.
Beth oedd canlyniad eich prosiect?
Roedd perfformiad y Prosiect yn gymysg, ond roedd creu Grŵp Gwirfoddolwyr Llwybr Afan yn sicrhau bod cynaliadwyedd hirdymor y llwybrau mewn dwylo da. Mae cymryd rhan mewn hyfforddiant addas a dyddiau cynnal a chadw rheolaidd wedi caniatâu i’r grŵp o wirfoddolwyr ffynnu, gan alluogi nid yn unig yr aelodaeth i gynyddu, ond i fagu hyder y gwirfoddolwyr eu hunain i chwarae rhan yn y gweithgareddau cynnal a chadw a beicio mynydd yn yr ardal yn y dyfodol.
Beth oedd yr heriau?
O’r wybodaeth y mae’r Tîm Rhaglen Datblygu Gwledig wedi’i gasglu, mae’n ymddangos bod y blychau rhoddion wedi casglu ychydig dros £3 mil yn ystod oes y prosiect.
Fodd bynnag, nid yw’r wybodaeth ynghylch llwyddiant y cynllun ‘optio allan’ o ran yr arian a godwyd wrth archebu llety yn yr ardal gan ddefnyddwyr/ymwelwyr y llwybrau mynydd yn hysbys.
Roedd data ymgysylltu a data y beicwyr mynydd eu hunain yn anodd i’w gasglu a olygodd nad oedd casglu tystiolaeth gan bobl ifanc, menywod a siaradwyr Cymraeg mor llwyddiannus ag a obeithiwyd yn wreiddiol.
Beth nesaf ar gyfer y prosiect?
Sefydlu Gwirfoddolwyr Llwybrau Afan. Mae’r grŵp yn mynd ati i hyrwyddo gweithgarwch awyr agored ac mae’n aelod allweddol o Grŵp Rhanddeiliaid Beicio Mynydd Cwmafan.
Mae diwrnodau hyfforddi a cynnal a chadw rheolaidd y llwybrau yn parhau.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Susan Chilcott
- Rhif Ffôn:
-
01639 686060
- Cyfeiriad e-bost:
- s.chilcott@npt.gov.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.cognation.co.uk/