Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£10236.00

Gwneud cwnsela ar gael i bawb

Crynodeb o’r prosiect: 

Elusen yw Cymdeithas Adleraidd Cymru sy’n darparu hyfforddiant mewn cwnsela a sesiynau cwnsela preifat o’u canolfan yn Arberth.

Yn 2016 bu iddynt gydnabod fod yna angen cynyddol i gynnig cefnogaeth gymunedol i bobl na allai fforddio talu am gwnsela, na chael mynediad i’r ganolfan, felly gwnaethpwyd cais am gyllid LEADER i dreialu gwasanaeth allgymorth a fyddai ar gael i’r rheiny oedd fwyaf anghenus. Roeddent yn dymuno darparu adnoddau lles a gwellhad i’r gymuned gyfan, a fyddai’n annog unigolion i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain a rheoli blinderau bywyd bob dydd.

Beth ddigwyddodd: 

Galluogodd cefnogaeth LEADER i’r Gymdeithas Adleraidd gynllunio cwricwlwm o gyrsiau, ei dreialu a’i fireinio a sefydlu’r coleg lles symudol. Yn ystod y peilot fe redwyd cyrsiau lles hygyrch mewn chwe thref o amgylch y sir a sefydlwyd pedair canolfan ardal.

Roedd y cyrsiau yn rhai mynediad agored gyda chymysgedd o gyfranogwyr o wahanol brofiadau, galluoedd a gwybodaeth. Hwyluswyd pob grŵp yn y fath fodd nes gwneud pawb yn gyfartal, gan gynnwys y tiwtoriaid, fel bodau dynol sydd i gyd yn wynebu heriau bywyd.

Canlyniadau:  

Diolch i gyllid LEADER, mae gan y Ganolfan Adleraidd wasanaeth lles allgymorth sy’n parhau i gael ei gynnig. Mae hwn yn becyn wedi’i gostio’n llawn sy’n cynnwys cost dau diwtor, llogi ystafell, yswiriant, deunyddiau printiedig a lluniaeth.

Gan bod y ganolfan am i bobl barhau i allu cael gafael ar gyrsiau lles am ddim, fe adolygwyd a newidiwyd eu model cyflenwi hyfforddiant, gyda’r nod o gynhyrchu arian dros ben digonol i roi cymhorthdal i’r ganolfan ddysgu, wrth barhau i wneud cais am gyllid.   

Roedd hyn yn golygu adolygu ac ailfrandio eu cwrs cwnsela lefel mynediad yn ogystal â newid y model cyflenwi ar gyfer eu tystysgrif BACP-achrededig a chyrsiau diploma mewn Cwnsela Adleraidd. Disgwylir i’r newidiadau hyn ddenu mwy o arian gan ffioedd cyrsiau myfyrwyr y gellir eu rhoi yn y ganolfan dysgu lles symudol a pharhau i gefnogi’r rheiny sydd fwyaf anghenus.

Gwersi a Ddysgwyd:

Darganfu’r Ymddiriedolwyr fod llwyddiant y peilot LEADER wedi eu gorfodi i adolygu eu model cyflenwi yn llwyr ar gyfer eu cyrsiau Cwnsela Adleraidd lefel ragarweiniol ac achrededig, gan ymgorffori sesiynau penwythnos preswyl a seminarau ar-lein, a’u helpodd yn eu tro i gyrraedd cronfa ehangach o fyfyrwyr cwnsela.

Dyfyniad gan un o gyfranogwyr y coleg symudol:

“Roedd yn hwb i mi gario ’mlaen”

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Linda Edwards
Rhif Ffôn:
01834 860330
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.adleriansocietywales.org.uk/