Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£5047.00

Crynodeb o’r prosiect: 

Dynododd Cymdeithas Mudiadau Trafnidiaeth Gymunedol Sir Benfro (PACTO) yr angen i gymryd agwedd cwbl ffres tuag at drafnidiaeth gymunedol, gan fod trafnidiaeth yn fater mor fawr yn y sir, gyda gwasanaethau prin ac angen cudd.

Gwael yw’r ymateb i gynlluniau rhannu ceir traddodiadol yn y sir, gan eu bod yn dueddol o ddibynnu ar bobl yn mewngofnodi eu siwrneiau ar-lein, a phobl eraill (sydd eisiau gwneud yr un siwrnai yr un adeg) yn dod o hyd iddynt. Mewn ardal wledig lle mae cartrefi a gwaith wedi eu gwasgaru’n eang ac oriau gwaith yn amrywio, nid yw hyn yn gweithio.

Felly, roedd yr astudiaeth yn ystyried a allai rhannu ceir gael ei drefnu trwy gael y bobl sydd eisiau lifft yn cysylltu â’r gwasanaeth, a’r gwasanaeth wedyn yn anfon neges destun neu neges drwy ap, ebost neu alwad ffôn i holi gyrwyr sydd wedi cofrestru â’r gwasanaeth a allan nhw helpu.

Beth ddigwyddodd:

Cefnogwyd PACTO gan LEADER i ymgymryd ag astudiaeth ddichonoldeb. Fe siaradon nhw gydag ac arolygu nifer o grwpiau ac unigolion, yn ogystal â lleoliadau sy’n rhedeg ystod o ddigwyddiadau, i archwilio opsiynau pobl sy’n gofyn am lifft (neu’n cofrestru fel gyrrwr a fyddai’n derbyn ceisiadau am lifft) pan fyddant yn bwcio ar gyfer digwyddiad neu weithgaredd penodol.  

Y syniad oedd dadstigmateiddio’r angen am lifftiau, trwy ganolbwyntio i ddechrau ar weithgareddau cymdeithasol, yn hytrach na phethau fel apwyntiadau gofal neu feddygol, a chael gymaint o bobl â phosibl i gyfranogi  yn gynnar yn y prosiect. 

Gwersi a Ddysgwyd:

Dangosodd yr astudiaeth fod yna angen mawr am gynlluniau rhannu-lifftiau cynhwysol hyblyg yn Sir Benfro, gyda nifer o ganlyniadau disgwyliedig, gan gynnwys: creu rhwydweithiau a chadernid cymunedol, lleihau eithrio cymdeithasol, cefnogi digwyddiadau cymunedol, a chael effeithiau positif ar ollyngiadau carbon ac economi tanwydd.  

Roedd PACTO yn synnu gymaint yr oedd y lleoliadau yn cefnogi’r cysyniad ac yn cydnabod y byddai’n dda i fusnes. Fe’u synnwyd hefyd gan y ffaith fod y mwyafrif o bobl a arolygwyd yn cynnig siwrnai pe gofynnwyd iddynt, ac mor eang a phositif oedd y gefnogaeth i’r cynlluniau arfaethedig.  

Canlyniad:

Galluogodd canfyddiadau’r Astudiaeth Ddichonoldeb i PACTO sicrhau £311,276 gan y Loteri Fawr ar gyfer prosiect pum mlynedd a fydd yn creu llwyfan rhannu-lifftiau teiliwredig: “Ewch â Fi Hefyd” ac yn cyflogi staff i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r cynllun. 

Bydd hyn yn unigryw, gan fod apiau rhannu lifftiau eraill yn gweithio trwy gofrestru’r siwrnai i ddechrau, tra mai’r man cychwyn yma yw cofrestru’r angen am lifft, wedyn bydd y system yn gofyn i yrwyr detholedig a allan nhw helpu.   

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Debbie Johnson (PACTO)
Rhif Ffôn:
01437 776550
Email project contact