Lleoliad:
Abertawe
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£15300.00

Disgrifiad o’r Prosiect:

Darparu cyfleuster addysg parhaol fel pwynt mynediad i gyflwyno treftadaeth ddiwylliannol a thirweddol. Mae hyn yn cynnwys profiad rhyngweithiol i ysgolion a'r gymuned. Bydd hefyd yn atyniad i dwristiaid. Bydd gardd wyllt o gwmpas yr adeilad lle tyfir perlysiau lleol, a bydd hyn yn annog bioamrywiaeth ac ar yr un pryd yn addysgol. Caiff yr ardd ei defnyddio a'i chynnwys yn y pecyn addysg sy'n cyd-fynd â themâu'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ond mae potensial enfawr iddo y tu hwnt i hyn. Y ffocws fydd yr Oes Haearn, sy'n drobwynt pwysig ar gyfer treftadaeth Cymru. Mae'r tŷ crwn yn adeilad cynaliadwy i'w ddefnyddio at ddibenion hyfforddi, gan esbonio sut roedd pobl yn defnyddiwyd planhigion a'r amgylchedd drwy gydol hanes a sut maent n gwneud hynny heddiw. 

Bydd angen gosod meinciau yn y tŷ crwn a chaniatáu i bobl ddod i mewn iddo yn ystod tywydd gwlyb; rhodfeydd.

Er myn cyd-fynd â phwysigrwydd coed i ddiwylliant yr Oes Haearn, rydym yn bwriadu sefydlu llwyn goed ar safle'r tŷ. (Darperir y coed gan feithrinfa goed gymunedol Coeden Fach)

Penodol - Adeiladu'r tŷ crwn yn seiliedig ar egwyddorion ac allbynnau pecyn addysgu rydym eisoes yn ei gyflwyno ar y Celtiaid yng nghyd-destun Gŵyr. Bydd y tŷ crwn yn atgynhyrchu tŷ crwn a gloddiwyd o anheddiad ar lethr orllewinol Hardings Down . Bydd y tŷ crwn yn darparu profiad gweledol a rhyngweithiol y dywedodd ysgolion fod ei angen arnynt, fel nad oes angen iddynt deithio y tu allan i'r ardal leol i brofi tŷ crwn Oes yr Haearn. Y tŷ crwn hwn fydd yr unig enghraifft o fywyd Oes yr Haearn ym mhenrhyn Gŵyr. 

Mesuradwy - Bydd y prosiect yn ystyrlon ac yn ysgogol a bydd yn annog gwirfoddolwyr lleol i gynorthwyo gyda'r gwaith beunyddiol i gynnal a hyrwyddo cyfleuster a fydd yn unigryw i'r gymuned. Bydd hyn yn helpu i greu cymuned gadarn ac yn helpu i fod yn sail ar gyfer man canolog i gyflwyno mentrau eraill. Bydd hefyd yn help cymunedau lleol i ddysgu am eu treftadaeth ddiwylliannol sy'n bwysig i hunaniaeth a chreu cymdeithasol gydlynol. Byddwn yn cofnodi defnydd o'r tŷ crwn ac yn defnyddio holiaduron adborth yn unol â strategaeth LEADER. Bydd y prosiect yn creu etifeddiaeth fesuradwy. 

Cyraeddadwy - Mae gennym gytundeb â'r ganolfan dreftadaeth am dair blynedd (yn y lle cyntaf). Mae ein cynllun gweithredu'n cynnwys strategaeth hirdymor i adeilad ar y prosiect ac ehangu'r pecyn addysg. Y nod yw atgynhyrchu micro-anheddiad rhywbeth sy'n cynrychioli ffordd o fyw yn yr oes honno sy'n uniongyrchol berthnasol i benrhyn Gŵyr. 

Synhwyrol - Byddwn yn darparu adnodd rhyngweithiol sy'n cyd-fynd â'r gofynion penodol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn croesi'r cwricwlwm Cymreig. Byddwn yn targedu ysgolion o ardaloedd difreintiedig gan roi cyfle iddynt ymweld â phenrhyn Gŵyr a hefyd ddychwelyd gyda'u teuluoedd fel gweithgaredd hamdden. Bydd y prosiect yn darparu cynrychioliad clir o orffennol archaeolegol Gŵyr, gan godi proffil cyfnod ag iddi arwyddocâd academaidd phwysigrwydd cynyddol bwysig. 

Amserol - Prosiect tair blynedd yw hwn yn y lle cyntaf, a bwriedir estyn y prosiect, gan seilio nodau tymor hir ar ei ganlyniadau mesuradwy.

Gower Unearthed a'n gwirfoddolwyr Ymwelwyr â'r Ganolfan Dreftadaeth h.y. twristiaid a theuluoedd/grwpiau cymunedol, ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol. Grwpiau a chymdeithasau lleol h.y. y WI, Sgowtiaid Canolfan Treftadaeth Gŵyr a busnesau lleol.
 

Beth oedd canlyniad eich prosiect? 

Rydym wedi creu cyfleuster addysg parhaol ar gyfer y gymuned wledig. Mae'r canlynol yn rhestr o gyfarfodydd a gweithgareddau diweddar yn y tŷ crwn:

  1. Cyfarfod gyda Jenny Cole, ac yn cydweithio â Temple Wellness Centre (parthed Gwyliau Tân) - Ebrill 2019
  2. Cyfarfod gyda'r Little Village Bakery ynghylch tyfu a chynaeafu grawn treftadaeth er mwyn gwneud bara - Mai 2019
  3. Ymgynghoriad â John Letts ac amgueddfa Sain Ffagan ynghylch cynnal gweithdai amrywiol - Tachwedd 2019
  4. Cwrdd â'r Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, a chynghorwyr lleol i sefydlu ‘sied dynion’ - Mawrth 2019
  5. Grwpiau ysgol o Orffennaf 2019 ymlaen 
  6. Gweithdai Treftadaeth: 
    • Straeon tywyll a diodydd hud - 19 Hydref 2019
    • Gobled Wasael 11 Ionawr 2020
    • Gŵyl Dân 2 Chwefror 2020
  7. Gŵyl Gerdded Gŵyr Mehefin 2019/2020
  8. Taith Gerdded ar gyfer Cymdeithas Gŵyr 
  9. Teithiau Cerdded y WI Mawrth 2019 
  10. Byrddau hysbysebu gan Gymdeithas Gŵyr yn cael eu dylunio ar hyn o bryd
  11. Teithiau cerdded wedi'u trefnu ar gyfer yr ŵyl gerdded 
  12. Cais Cyngor y Celfyddydau i gynnig gweithdai cymorthdaledig/am ddim - parhaus 
  13. Cydweithio o'r newydd gyda Phrifysgol Abertawe a Choleg Celf Abertawe a'i hadran Cyfryngau Digidol yn datblygu cyrsiau achrededig.
  14. Cyfarfod â Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent i drafod Clwb Archaeolegwyr Ifanc yn y tŷ crwn gyda phyllau profi i addysgu sgiliau cloddio. 
  15. Cyflogi gof arian a gof i gyflwyno gweithdai ar y safle - Mehefin 2020.
  16. Digwyddiad sydd ar ddod 

17. Diogelwyd dwy swydd drwy'r holl weithgareddau uchod.

Nifer y canolfannau cymunedol 1
Nifer y swyddi a grëwyd drwy brosiectau a gefnogir - 0.8 FTE
Nifer y cyfranogwyr sy'n cael eu cefnogi - 18

Beth oedd yr heriau?

Dylai costau rheoli'r prosiect fod wedi'u cynnwys yn llawn ynghyd â'r amser a gymerwyd wedi'i amcangyfrif yn rhy isel -rhoddwyd llawer o'n hamser am ddim ond nid oedd modd ei ddefnyddio fel arian cyfatebol. Dysgom bennu gwerth i'n hamser ein hunain, a gwirio gyda phobl/busnesau eraill. Peidiwch ag amcangyfrif yn rhy isel yr amser y mae'r broses gynllunio yn ei gymryd - gan fod y gost yn cynyddu yn ystod yr amser hwn - yn y dyfodol dylid ychwanegu cronfa wrth gefn ar gyfer hyn yn y gyllideb. Roedd llif arian yn anodd iawn i fusnes bach iawn - achosodd hyn gryn straen, ynghyd ag oedi a phroblemau gyda chontractwyr. Byddem yn argymell rhyw elfen o weithdroi arian parod neu daliad yn gyflym ar gyfer arian cyfatebol. 

rydym wedi sicrhau gant gan y Loteri Genedlaethol i'w ddefnyddio fel cymhorthdal i ddarparu'n pecyn addysg i ysgolion a cholegau. Rydym hefyd yn ymgynghori â chynghorwyr lleol ac Arweinydd y Cyngor i ddatblygu 'Sied Dynion' dan arweiniad Gronfa Dreftadaeth y Loteri sy'n dangos cefnogaeth gychwynnol ar gyfer datblygu'r safle hwn ymhellach.

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.swansea.gov.uk/rdp