Lleoliad:
Ynys Môn
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39960.00

Mae defaid cynffon-dew yn hawdd eu hadnabod am fod eu cynffonnau a’u chwarter ôl yn fawr ac yn dew. Fel arfer, bydd y defaid hyn i'w cael mewn mannau cras ac anial fel y Dwyrain Canol, Gogledd Affrica, Gogledd India a Chanol Asia.  Gallant ffynnu dan amodau anodd oherwydd eu gallu i ennill pwysau er gwaethaf diet sydd heb fawr o faetholion. Defnyddir y cig a'r braster unigryw o'r defaid hyn mewn bwyd Arabaidd traddodiadol ac mae galw mawr amdano gan grwpiau ethnig yn y DU. Dywedir bod cig y defaid cynffon-dew yn llai bras ac yn fwy brau a suddlon na chig defaid â chynffonau tenau. Canfuwyd hefyd bod gan eu cig fwy o asid brasterog Omega-3 nag Omega-6 a’i fod yn cynnwys llai o fraster dirlawn – ac mae hynny’n dda i iechyd y sawl sy’n bwyta’r cig.

Y prosiect hwn fydd y cyntaf o'i fath i gyflwyno'r Damara, sef brid o ddefaid cynffon-dew, i farchnad y DU a'i nod yw cael Cymru i arloesi yn natblygiad y defaid hyn. Mae dau ffermwr o Ogledd Cymru yn rhan o’r prosiect, a fydd yn para am dair blynedd.  Y nod yw canfod pa mor ymarferol yw magu defaid Damara pur neu groesfridio’r defaid gyda mamogiaid Romney, croes-Texel a chroes-Llŷn.  Caiff y defaid eu monitro i weld pa mor dda y maent yn addasu i’r tywydd llai poeth a gwlypach sydd gennym yng Nghymru.

Cynllun y Prosiect

  • Embryonau a semen Damara yn cael eu mewnforio yn 2019
  • Grŵp o famogiaid croes-Romney a chroes-Texel yn cael eu defnyddio ar gyfer trosglwyddo embryonau ym Mlwyddyn 2 a Blwyddyn 3 (ŵyn pur)
  • Grŵp o famogiaid Romney, croes-Texel a chroes-Llŷn yn cael eu semenu’n artiffisial ym mlwyddyn 2 a  mlwyddyn 3 (ŵyn croesfrid)
  • Rhwyddineb ŵyna, pwysau geni, pwysau wyth-wythnos a phwysau diddyfnu’r ddau grŵp, ynghyd â nodweddion eu hiechyd a’u cyrff, yn cael eu monitro drwy gydol y ddwy flynedd er mwyn eu cymharu â grŵp safonol o famogiaid Llŷn

O ystyried bod dros 1,000 o fridiau defaid yn cael eu cydnabod yn y byd, a thua 60 o fridiau’n cael eu ffermio yn y DU, yn ôl Bwrdd Gwlân Prydain, mae lle i edrych ar ddeunydd genetig mwy diddorol er mwyn arallgyfeirio oddi wrth y farchnad gonfensiynol.

Bydd canlyniad y prosiect hwn yn dangos a oes modd magu defaid cynffondew yn llwyddiannus yng Nghymru.  Bydd yn darparu ffigurau ar gyfer cyfraddau twf ac yn ceisio canfod pa mor fawr y gallai’r farchnad a'r galw fod am y cynnyrch arbenigol gwerthfawr hwn. 

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Geraint Hughes
Email project contact