Hwn yw'r pedwerydd rifyn Cylchlythyr Gweithredu Gwledig Cwm Taf. Mae Gweithredu Gwledig
Cwm Taf yn rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020 sy’n cael ei ariannu gan Gronfa
Amaethyddol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn cydweithio â chymunedau a mentrau
sydd wedi eu lleoli yn Wardiau Gwledig Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, yn benodol Bedlinog,
Cyfarthfa, Ynys Owen, Plymouth, Treharris, y Faenor, Maerdy, Rhigos ac Ynysybwl. Cylch gwaith y
rhaglen yw:
- Arallgyfeirio’r economi wledig
- Gwella ansawdd bywyd mewn cymunedau gwledig
- Ymgysylltu â chymunedau ar lawr gwlad
- Annog ffyrdd newydd dyfeisgar o gynnal datblygiad gwledig
Er mwyn canfod rhagor am y modd y gall rhaglen Gweithredu Gwledig Cwm Taf eich cynorthwyo,
cysylltwch â’r Swyddog Gweithredu, Gweithredu Gwledig Cwm Taf ar 01685 727089
ruralaction@merthyr.gov.uk
Mae’r rhufyn hwn yn canolbwyntio ar brosiect sy’n helpu i achub enwau lleoedd lleeol, dysgu yn
yr awyr agored yn Ynysybwl, Gwarchodwyr Cefn Gwlad gyda Cadwch Cymru’n Daclus a phlannu
coed yn Nant Llwynog.
Os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw rai o’r gweithgareddau a gaiff eu cynnwys yn y cylchlythyr
hwn, cysylltwch â ni.