Lleoliad:
Bro Morgannwg
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£40000.00

Un o nodweddion tirwedd amaethyddol Cymru yw’r coetiroedd bach sydd wedi eu gwasgaru yn eang trwy gefn gwlad. Nid yw llawer o’r coetiroedd yma yn cael eu rheoli’n llawn oherwydd eu maint gan fod cost peiriannau trin coed mawr yn ei gwneud yn aneconomaidd i’w rheoli na’u cynaeafu. Mae gan hyn oblygiadau hefyd o ran bioamrywiaeth gan fod strwythurau lle mae’r coed o’r un oedran yn llai amrywiol na strwythurau lle mae’r coed o oedrannau gwahanol ac mae ardaloedd sy’n cael eu mygu gan fieri yn cyfyngu ar aildyfiant naturiol y coed ac amrywiaeth o ran strwythur. Anfantais arall peiriannau fforestydd mawr yw’r her o leihau’r amharu ar yr amgylchedd. Gall cynaeafu coed adael rhychau dwfn lle bydd peiriannau trwm yn suddo, gan arwain at ddiffyg aildyfiant oherwydd bod y pridd wedi ei gywasgu, a gwaddod mewn cyrsiau dŵr oherwydd bod y pridd yn rhedeg oddi ar y wyneb.

Agriculture and Forestry - Forest Scene

 

Gall defnyddio peiriannau sy’n cael llai o effaith fod â’r potensial i gynnig buddiannau mawr i berchenogion coetiroedd bach yng Nghymru. Peiriannau bach ysgafn yw’r rhain fel offer llywio sgid ar draciau a thractorau alpaidd sy’n cael llai o effaith ar y pridd uchaf a gellir eu defnyddio hefyd mewn tywydd llai ffafriol. Mae Michael Lewis ac Andrew Thomas yn ffermwyr ym Mro Morgannwg sydd yn wynebu problemau yn cael mynediad at eu coetir fferm ac felly yn ymchwilio i fanteision peiriannau llai eu heffaith i ddynodi’r dulliau mwyaf addas o leihau’r amharu ar yr amgylchedd.

Dyluniad y Prosiect:

  • Bydd safleoedd coetiroedd yn cael eu harolygu a bydd pedair ardal astudio gynrychioliadol yn cael eu dynodi ar sail unffurfiaeth o ran yr arwyneb a chyflwr y safle dan yr wyneb (fel y math o bridd, llechwedd, dwyster y coetir ac ati).
  • Mae’r prosiect yn ceisio mesur y cyfaint o ddŵr a’r gwaddod a gollir o’r pedair ardal, gan gynnwys ardal reoli (dim cynaeafu), cynaeafu confensiynol, a dau ddull coedwigaeth effaith isel gan ddefnyddio tractor alpaidd a cherbyd cynaeafu ar draciau.

Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau

Cyhoeddiad Technegol, Rhifyn 18 (Tachwedd / Rhagfyr 2018): Cymharu’r buddiannau…

 

(Medi 2018): Will John (ADAS) Safleoedd coetir yn cael eu clirio:

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Will John
Email project contact