- Lleoliad:
-
Castell-nedd Port Talbot
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£29804.00
Datblygu Gwaith Haearn Mynachlog Nedd trwy adfywio treftadaethol fel ased byw hygyrch.
Disgrifiad o’r Prosiect:
Adroddodd CADW fod y safle mewn perygl mawr o ganlyniad i ddarnau'n disgyn o rannau uchel o'r adeilad, felly yr unig ffordd o gael mynediad at y safle yw dan oruchwyliaeth un o Gyfeillion Cwmni Haearn Mynachlog Nedd (FNAIC). Er y cyfyngiadau hyn, yn y ddwy flynedd diwethaf trawsnewidiwyd y safle'n gyfan gwbl, o fan gadael sbwriel diffaith i ardal gymunedol, trwy gael gwared ar lystyfiant a oedd yn difrodi'r olion archaeolegol a symud y sbwriel anghyfreithlon. Fodd bynnag, er y trawsnewidiad hwn, oni bai y gellir sicrhau mynediad diogel, mae'n anodd gweld sut gellir cynnal potensial llawn y safle hwn.
Adroddodd CADW fod y safle mewn perygl mawr o ganlyniad i ddarnau'n disgyn o rannau uchel o'r adeilad, felly yr unig ffordd o gael mynediad at y safle yw dan oruchwyliaeth un o Gyfeillion Cwmni Haearn Mynachlog Nedd (FNAIC). Er y cyfyngiadau hyn, yn y ddwy flynedd ddiwethaf trawsnewidiwyd y safle'n gyfan gwbl, o fan gadael sbwriel diffaith i ardal gymunedol trwy gael gwared ar lystyfiant a oedd yn difrodi'r olion archaeolegol a symud y sbwriel anghyfreithlon. Fodd bynnag, er y trawsnewidiad hwn, oni bai y gellir sicrhau mynediad diogel, mae'n anodd gweld sut gellir cynnal potensial llawn y safle hwn.
Er bod hwn yn safle treftadaeth o bwysicrwydd byd-eang, nid oes neb wedi ymchwilio iddo'n archaeolegol. Sicrhaodd FNAIC gyllid LEADER ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb er mwyn ymchwilio i’r camau i warchod y safle a'i ddiogelu ar gyfer mynediad cyhoeddus. Comisiynwyd arolwg archaeolegol hefyd er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i’r gymuned am y Gwaith Haearn.
Bydd y gymuned leol ac ymwelwyr â'r ardal yn cael mynediad am ddim i'r safle, er mwyn dysgu am ei hanes ac fel cyfleuster hamdden i gerdded ac ymlacio.
Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?
- Mae'r safle'n wastad, sy'n ei wneud yn hygyrch, yn enwedig i'r rheini ag anableddau.
- Bydd myfyrwyr coleg a hyfforddeion yn gallu dysgu sgiliau adeiladu ym maes treftadaeth.
- Bydd athrawon a disgyblion ysgol yn gallu defnyddio'r safle i ymchwilio i hanes busnesau o Gymru a'u cysylltiadau â'r byd ehangach. Gellir defnyddio'r safle ar gyferpynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).
- Bydd FNAIC a Gwirfoddolwyr Dyffryn Clydach yn gallu parhau i weithio ar y safle ac ymchwilio i'w dreftadaeth.
- Bydd gan archaeolegwyr a haneswyr fynediad at y safle ar gyfer cloddio.
Llwyddiannau:
- Cynhaliwyd arolygon strwythurol, archaeolegol a bioamrywiaeth.
- Cysylltu gydag amrywiol sefydliadau
- Cyfrannu tuag at y Strategaethau Cenedlaethol canlynol:
Blaenoriaethau ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru
- Fframwaith Archaeoleg Cymunedol
- Llewyrch i Bawb: y strategaeth genedlaethol ar gyfer Symud Cymru Ymlaen
- Strategaeth Twristiaeth Llywodreth Cymru 2013 – 2020, Partneriaeth ar gyfer Twf
- Rhannu Pwrpas: Rhannu Dyfodol Canllawiau Statudol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol.
Rhoi cyhoeddusrwydd eang i’r prosiect hwn o fewn CNPT a’r siroedd cyfagos, trwy roi a bod yn bresennol mewn sgyrsiau, digwyddiadau a rhannu ei hanes a’i bwysigrwydd o fewn ein treftadaeth ddiwydiannol yng Nghymru i dros 500 o bobl (yng nghefn gwlad/nad ydynt yng nghefn gwlad a thu allan i’r sir).
- Sefydlu sylfaen dystiolaeth gadarn a dilyniant cryf trwy’r cyfryngau cymdeithasol.
- Creu ‘cymuned’: pawb yn cydweithio yn rheolaidd; symud sbwriel sydd wedi’i adael ar y safle ers blynyddoedd a dilyn cynllun cynnal a chadw ar gyfer clirio llystyfiant.
- Wedi cynnal nifer o deithiau cerdded a theithiau o amgylch y safle.
- Wedi cynnal cloddfa archaeolegol cymunedol poblogaidd.
Mae’r gwaith haearn a chysylltiadau hanesyddol o bwysigrwydd rhyngwladol, sydd heb gael llawer o sylw, a’u hanwybyddu i raddau helaeth yn hanes Chwyldro Diwydiannol Prydain. Mae’r Gweithfeydd Haearn yn ‘lle a newidiodd ein byd’ ac mae FNAIC yn ceisio cywiro’r cam hanesyddol hwn a chodi proffil Cymru o fewn hanes y Chwyldro Diwydiannol.
Ad-fywio Blaenoriaethau CNPT: CNPT Gwyrdd a Bywiog
Roedd ynni adnewyddadwy yn bwysig i’r Gweithfeydd Haearn; bu diddordeb lleol wrth archwilio pwll yr olwyn ddŵr. Symudwyd y sbwriel a adawyd ar y safle dros nifer o flynyddoedd, gan reoli’r llystyfiant oedd yn difrodi’r henebion cofrestredig, a hyrwyddo’r safle i bobl leol ac ymwelwyr. Bu hyn yn bwysig i adfywiad economaidd lleol.
Pwy yw buddiolwyr y prosiect?
Cymunedau a Busnesau Lleol drwy ddenu twristiaeth i’r ardal.
Beth oedd canlyniadau eich prosiect?
Gallai’r Gwaithi Haearn uno pobl, gan ddod â cymunedau at ei gilydd ar draws cenedlaethau, rhaniadau ethnig ac economaidd-gymdeithasol. Mae eisoes yn mynd i’r afael â theimladau o unigrwydd sydd gan nifer o bobl oedranus drwy eu gwneud yn rhan o weithgareddau defnyddiol, ond heb fynediad diogel i’r safle, bydd llawer o’r gwaith hwn yn cael ei golli. Mae’n hanfodol ein bod yn ehangu manteision y cysylltiadau gyda’r Gwaith Haearn.
Byddwn yn cadw at argymhellion yr arolwg strwythurol, fel rhai yr arolwg archaeolegol.
I sicrhau mynediad diogel yn y dyfodol, mae’n rhaid derbyn cyllid ar gyfer cadwraeth y safle.
Er bod cymdeithas yn mynd yn gyfoethocach ar y cyfan, nid yw’r cyfoeth cynyddol hwn bob amser yn treiddio at unigolion a chymunedau mewn tlodi. Mae’r prosiect hwn wedi ceisio dileu rhwystrau sy’n atal pobl, a helpu iddynt gyflawni eu potensial yn llawn. Yn y tymor byr, mae’r prosiect hwn wedi gwella bywydau pobl leol trwy agor y safle i deithiau sy’n cael eu harwain o amgylch y safle, fel y gall bobl fwynhau yr awyrgylch wledig a thawel sydd yno, ac annog pobl i ymarfer trwy ei ddefnyddio i gerdded ac ar gyfer teithiau arwain.
- Mae’r prosiect hwn wedi ceisio atal tlodi, gan fuddsoddi mewn plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae’n rhaid i Gymru gystadlu mewn economi fyd-eang, ac un ffordd o wella ein safon byw yw i bobl astudio pynciau STEM, yn enwedig peirianneg, trwy deithiau arwain a sgyrsiau.
- Mae’r prosiect wedi ceisio lleihau anghydraddoldebau ar y cychwyn cyntaf a thorri’r cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol, tangyflawni addysgol a llai o gyfleoedd mewn bywyd drwy annog disgyblion i astudio pynciau STEM, a dileu tlodi uchelgais. Mae ar gael yn y gymuned leol, yn hytrach na phrosiect trefol mewn dinas fawr.
Beth oedd yr heriau?
Ar y cychwyn, roedd diffyg eglurder o ran y diffiniad o ddangosyddion perfformiad allweddol.
Roedd yr angen am ȏl-daliadau yn anodd iawn.
Cafwyd cyngor ariannol ynghylch cael benthyciadau ar gyfer cyllid o £25,000 o ddwy ffynhonnell.
Ni allai FNAIC, fel elusen fechan, fforddio hyn, a byddai’r oedi o ran amser yn anodd o ran bodloni dyddiadau cau. Caiff sefydliadau elusennol eu sefydlu yn y fath ffordd nad oes atebolrwydd gan ymddiriedolwyr. Mae hyn yn gwneud sefydliadau ariannol yn amharod i fenthyca iddynt.
Golygai’r broblem hon bod yn rhaid i un o’r ymddiriedolwyr gynnig benthyciad o’r arian yr oedd wedi’i gynilo, a chymryd risg ariannol enfawr gyda’r benthyciad hwn.
Beth sydd nesaf ar gyfer eich prosiect?
Byddwn yn cadw at argymhellion yr arolwg strwythurol hwn, fel rhai yr arolwg archaeolegol.
I sicrhau mynediad diogel yn y dyfodol, mae’n rhaid derbyn cyllid grant ar gyfer y safle.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Peter Richards
- Rhif Ffôn:
-
01792863316
- Cyfeiriad e-bost:
- wernddu@tiscali.co.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- https://www.facebook.com/FriendsofNeathAbbeyIronCompany/
- Cyfryngau cymdeithasol: