Lleoliad:
Castell-nedd Port Talbot
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£150000.00

Disgrifiad o’r proseict:  

O ganlyniad i doriadau ariannol, daeth Tîm Twristiaeth y Cyngor i ben. Mewn ymateb i’r bwlch hwn mewn darpariaeth, cyflogwyd Swyddog Datblygu Twristiaeth i helpu busnesau twristiaeth ddeall y farchnad roedden nhw’n gweithredu ynddi, adnabod cyfleoedd newydd a’u cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau a syniadau. Nod y dull hwn o weithredu yw cynyddu’r cyfraniad a wneir gan y diwydiant twristiaeth i’r economi wledig yng Nghastell-nedd Port Talbot. 

Beth mae’r prosiect wedi’i gyflawni?:

  • Darparodd y prosiect ymcwhil i anghenion a dymuniadau ymwelwyr â wardiau gwledig– crëwyd hwb gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr. 
  • Crëodd y prosiect gronfa o ffotograffiaeth a fideograffiaeth ar gyfer yr ardaloedd gwledig a oedd ar gael yn hollol rydd i ymarferwyr eu defnyddio i hybu’u hardal.
  • Cynyddodd gweithgareddau rhwydweithio wybodaeth am gynnyrch ac ymdeimlad o le ymysg rhanddeiliaid, ac unionwyd digwyddiadau â blynyddoedd thema Croeso Cymru. Rhoddodd hyn gyfle i arddangos lleoliadau, cyfleoedd a threftadaeth gyfoethog, ddiwylliannol a hamdden yr ardaloedd gwledig.
  • Datblygodd rhwydweithiau rhanddeiliaid twristiaeth, a’u cysylltu â’r Cynllun Rheoli Cyrchfan CPT yn ymdrin â: Abertawe a Dyffryn Aman, Parc Fforest Afan, a Pharc Gwledig Margam.
  • Darparwyd astudiaeth ddichonolrwydd, fel rhan o’r astudiaeth hon cynhyrchwyd ‘Canllaw Cyrchfan’ ar gyfer ei roi i gyfleusterau a darparwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot.
  • Arweiniodd llwyddiant y prosiect at ailsefydlu Tîm Twristiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.
  • Sicrhawyd £520,000 ychwanegol o fuddsoddiad mewn isadeiledd twrisstiaeth a phrosiectau marchanta gan Swyddog Twristiaeth y prosiect, gan ychwanegu gwerth i allu’r ardal i gynnal twristiaeth yn y wardiau gwledig.

Pwy wnaeth elwa o’r prosiect?:  

  • Bu i fusnesau twristiaeth a rhanddeiliaid cysylltiedig elwa o gymryd rhan yng ngweithgareddau amrywiol y prosiect drwy gyfrwng: 
  • Digwyddiadau rhwydweithio – “Ymdeimlad o Le”.
  • Adnoddau rhad ac am ddim – hybu’r ardal yn fwy effeithiol.
  • Cymorth datblygu busnes a ddarparwyd drwy gyfrwng rhwydweithiau rhanddeiliaid.

Heriau / Atebion: 

  • Cafwyd cyfran is o randdeiliaid a helpwyd â’u hanghenion datblygu busnes drwy gyfrwng arolwg mapio unigol. Gellid bod wedi ymgymryd ag arolwg ar lein a fyddai wedi cynorthwyo â’r nifer o fapiadau a gwblhawyd.
  • Sefydlodd canfyddiadau mai cefnogaeth un i un, barhaus, wedi’i theilwra, yw’r dull mwyaf effeithiol o gefnogi’r diwydiant twristiaeth. Mae’r tîm twristiaeth (mewn partneriaeth â’r Tîm Datblygu Economaidd) wedi ymrwymo i gwrdd â busnesau twristiaeth newydd yn yr ardal. 

Canlyniadau: 

  • Etifeddiaeth barhaus y prosiect i’r dyfodol yw blaenoriaethu twristiaeth fel sector ar ei phrifiant yn yr economi wledig leol, ohcr yn ochr â darparu dau aelod llawn amser parhaol o staff Twristiaeth.
  • Mae argymhellion yr astudiaeth ddichonolrwydd yn parhau i gael eu darparu gan y tîm twristiaeth, er mwyn rhoi’r sector dwristiaeth ar waith yn y wardiau gwledig.
  • Mae tair rhwydwaith, a grëwyd o’r newydd, ar gyfer rhanddeiliaid twristiaeth, yn dal i gwrdd, gan weithio ar y cyd i gynyddu’r cyfraniad y gall y diwydiant twristiaeth ei wneud i’r economi wledig.
  • Cymerodd 80 o bobl ran mewn digwyddiadau a grwpiau rhanddeiliaid.
  • Ymgysylltwyd â 54 o randdeiliaid ar draws oes y prosiect.
  • Cyfranogodd 59 o fenywod yn y prosiect, oedd yn llawer uwch na’r targed gwreiddiol o 25.
  • Cefnogwyd 11 cyfranogwr oedd yn siarad Cymraeg drwy’r prosiect.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Karleigh Davies
Rhif Ffôn:
01639 686417
Email project contact