Lleoliad:
Castell-nedd Port Talbot
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£72105.00


Cafodd ‘Dysgu am Dechnoleg’, ei ddatblygu i hyrwyddo pwysigrwydd a gwerth technoleg ddigidol i gynorthwyo gydag agweddau amrywiol ar fywyd modern ymhlith oedolion 50+ oed yn ein cymunedau gwledig. Esboniodd Dean Richards, Rheolwr Prosiectau, fod dosbarthiadau’n cael eu cynnal i gefnogi defnyddwyr sydd am gael gwybodaeth am bynciau megis bancio ar y rhyngrwyd, prynu nwyddau ar-lein, a chyrchu gwefannau cymharu prisiau i edrych am dariffau tanwydd eraill i hybu ymddeoliad iach ac actif ac i bobl dros 50 oed barhau i fod yn annibynnol yn ein wardiau gwledig. Hyd yn hyn, mae’r gwersi’n mynd yn dda.

Dywedodd Dean,

"Rydym yn hynod falch ein bod wedi cael arian i gyflwyno’r Prosiect ‘Dysgu am Dechnoleg’ ar draws naw ward wledig yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’r prosiect yn cyflwyno gwasanaethau a arweinir gan ddefnyddwyr, nad ydynt yn ymwneud â maes llafur, mewn amgylchedd hygyrch, hwyl ac ymarferol. Mae’r gweithdai grŵp a’r sesiynau unigol a addaswyd yn cael eu cyflwyno gan ein tîm o staff a gwirfoddolwyr dynodedig ac maent yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn gwneud defnydd llawn o TGCh i wella eu bywydau ymhellach. Rydym eisoes wedi gweld y prosiect yn dechrau mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol a rhoi hwb i hyder y rhai hynny heb wybodaeth am TG neu braidd dim gwybodaeth, gan wybod mai dyma ddechrau effaith gadarnhaol y prosiect. Gall y rhai sy’n dymuno cymryd rhan yn y prosiect edrych ymlaen at gael cefnogaeth mewn meysydd megis offer digidol, chwilio’r rhyngrwyd, cyfryngau cymdeithasol, siopa ar-lein, technoleg ffonau symudol, cyfeiriaduron gwasanaethau lleol, bancio ar y rhyngrwyd, offer iechyd digidol a llawer mwy. Rydym yn hyderus wrth i’r prosiect barhau i ddatblygu, y byddwn yn cael effaith barhaus ar gymunedau lleol gan sicrhau bod gan ddefnyddwyr gwasanaeth mwy o allu i wynebu’r heriau niferus sy’n gysylltiedig â heneiddio”.


Nid yw oed yn rhwystr i ddysgu

Ar ymweliad diweddar â Chartref Preswyl Tŷ Maes Marchog yn Nyffryn Cellwen, lle cynhelir dosbarth TG, 'Dysgu am TG' Age Connects Castell-nedd Port Talbot ar fore dydd Iau, cyfarfu Suzette Phillips a Bethan Blackmore o'r CDG â nifer o'r rhai sy'n mynd i'r dosbarth, ynghyd â Joanne Baitup, tiwtor y dosbarth. Esboniodd Joanne rywfaint am y dosbarth: Mae'r dosbarth ar gyfer unrhyw un 50+ oed sydd â diddordeb mewn TG - mae gan gleientiaid gyfle i sgwrsio a dysgu mewn lleoliad anffurfiol a chyfarwydd wrth gael paned o de. Maen nhw'n dod â'u dyfeisiau eu hunain i ddarganfod sut i'w defnyddio. Mae awyrgylch hamddenol y dosbarth yn gwneud dysgu'n hwyl ac mae'r testunau a drafodir yn berthnasol i anghenion a diddordebau'r grŵp.

lDywedodd un o'r rhai sy'n mynd i'r dosbarth, Muriel Davies sy'n 86 oed,

"pan rydych yn hŷn, mae gallu deall sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn agor eich bywyd. Rwy'n cysylltu'n rheolaidd â'm hwyres sy'n byw yn Ffrainc - rydym mewn cysylltiad bron yn ddyddiol sy'n golygu nad wyf yn colli unrhyw agwedd ar fywyd fy ngor gor-wyrion hyfryd. Ychydig iawn a wyddwn i am Facebook ac e-bost cyn i mi ddod ar y cwrs hwn, ond mae Joanne yn esbonio popeth yn wych - rwyf wir yn edrych ymlaen at ddod."

Un arall sy'n mynd yn rheolaidd i'r dosbarth Dysgu am TG yw Tom Marston a esboniodd fod y dosbarth yn ffordd i gymunedau ddod ynghyd ac mae'n lle da i gwrdd â phobl newydd. Mae Eira Roberts hefyd yn mynd i'r dosbarth. Nid oes ganddi fynediad i'r rhyngrwyd gartref ond mae wedi dysgu sut i'w defnyddio er mwyn siopa a lawrlwytho patrymau crosio ymysg pethau eraill. Mae hefyd wedi dysgu llawer am ddiogelwch ar y we a sut i syrffio'n ddiogel. Mae un o'r gwŷr eraill, Wyn Hodge, er nad yw'n trefnu gwyliau ar-lein, yn ymchwilio i gyrchfannau cyn mynd ar ei wyliau er mwyn iddo wybod cymaint â phosib am y lleoedd y mae'n ymweld â hwy cyn iddo fynd yno. Yn ystod yr ymweliad, roedd Doris Hales yn defnyddio'r rhyngrwyd i gwyno i'r cyngor am nad oedd ei gwastraff gardd wedi cael ei gasglu!

Meddai Suzette

"Yn ystod ymweliad Bethan a minnau, roedd yn galonogol gweld agwedd gadarnhaol y rhai sy'n mynd i'r dosbarth. Doedden nhw ddim yn ofni rhoi cynnig ar bethau, ac roeddent yn frwdfrydig iawn am fanteision defnyddio TG yn ogystal â buddion gwneud ffrindiau drwy fynd i'r dosbarth. Roeddent oll yn gyfforddus iawn gyda Joanne ac yn canmol ei hamynedd a'i sgiliau addysgu. Roedd yr awyrgylch yno'n wych."
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Dean Richards
Rhif Ffôn:
01639 617333
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.acnpt.org.uk