Lleoliad:
Castell-nedd Port Talbot
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£16000.00

Disgrifiad o’r Prosiect:
 

Sicrhawyd cyllid LEADER i osod paneli solar ar adeiladau cymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot er mwyn cynhyrchu ynni glân a bydd hyn yn golygu sicrhau prydlesi ar bob safle, cynnal arolygon strwythurol ar bob adeilad i sicrhau bod y toeau'n strwythurol gadarn, gan sicrhau y gellir cysylltu safleoedd â'r grid drwy Western Power Distribution a marchnata cynnig o gyfranddaliad i ariannu prynu'r paneli solar ffotofoltaig ar gyfer yr adeiladau hyn.
Drwy osod paneli solar, gellir cynhyrchu ynni glanach a fydd yn galluogi adeiladau cymunedol i leihau eu costau ynni ac arbed arian. Bydd y cyfle i gymryd rhan yn y cynnig o gyfranddaliad hefyd yn rhoi cyfle i bobl leol fuddsoddi mewn dyfodol cynaliadwy i'r adeiladau cymunedol hyn. Rhagwelir y bydd y gwaith hwn yn arwain at leihad o 100 tunnell o allyriadau carbon yn y cymunedau hyn. 
 

Beth gyflawnodd y prosiect?
 

1.    Cynhaliwyd astudiaethau dichonoldeb gan gynnwys Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs) a chymwysiadau grid; cysylltwyd â sefydliadau cymunedol; a chynhaliwyd trafodaethau am brydlesi ar bob un o'r safleoedd canlynol:

•    Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg. Canolfan newydd i ymwelwyr (RDP)
•    Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg. Yr hen ganolfan i ymwelwyr (RDP)
•    Llyfrgell Cymer (RDP)
•    Pwll Nofio Cymunedol Cymer/Cwm Afan (RDP)
•    Canolfan Menter Gymunedol Croeserw (RDP)
•    Clwb Cymunedol Croeserw (RDP)
•    Clwb Rygbi a Phêl-droed Resolfen (RDP)
•    Building Blocks Resolfen (RDP)
•    Canolfan Gymunedol Tregatwg (nad yw’n rhan o’r RDP)
•    Canolfan Gymunedol Owain Glyndwr, Castell-nedd (nad yw’n rhan o’r RDP)
•    Neuadd Gymunedol Aberdulais (RDP)
•    Twyn Teg (Coastal Housing) (nad yw’n rhan o’r RDP)
•    Twyn Teg: Awel (nad yw’n rhan o’r RDP)
•    Ysbryd y Môr, Aberafan (nad yw’n rhan o’r RDP)
•    Canolfan Gyngor Melincryddan, Castell-nedd (nad yw’n rhan o’r RDP)
•    Hen ysgol Cwmgors (RDP)
•    Canolfan Ffrindiau a Chymdogion (FAN), Castell-nedd (nad yw’n rhan o’r RDP)
•    Neuadd Gymunedol Crynant (RDP)
•    Neuadd y Mileniwm, Cwmllynfell (RDP) 
•    Clwb Rygbi Cwmgors (RDP)
•    NPTCVS (nad yw’n rhan o’r RDP)

2.    Codwyd £131,940 i ariannu cost y paneli solar ar y safleoedd canlynol. Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys Glyn-nedd, Dove, Blaendulais ac AAT a osodwyd yn 2014 ond gwnaethom gynnal archwiliadau trydanol a gwaith chynnal a chadw ar y safleoedd hyn yn 2019-20.

Mae'r 6 gosodiad yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gyfanswm o 136kW. Deallwn mai'r 6 safle hyn yw'r unig osodiadau solar yng Nghymru a gefnogir gan raglen y Cynllun Datblygu Gwledig (RDP).

Safle Dyddiad Comisiynu Cyfanswm Capasiti Aráe kW  Cost (£) Amcangyfrif o kWh a gynhyrchir bob blwyddyn Amcangyfrif o Arbedion Carbon (kC02/y flwyddyn)
Llyfrgell Cymer 21/02/20 12 12,651 8,500 1981
Hen Ysgol Cwmgors  28/08/19 30 29,414 25,500 5942
Clwb Rygbi Cwmgors 02/03/20 33 27,928 26,852 6257
Neuadd Gymunedol Crynant  27/11/19 4 5,202 3,400 792
Neuadd y Mileniwm, Cwmllynfell  14/02/20 11 12,624 8,500 1981
Canolfan Hyfforddi Glyn-nedd 2014 12      
Gweithdai Dove 2014 21      
Canolfan Gymunedol Blaendulais 2015 30      
Awel Aman Tawe 2014 4      
Pwll Nofio Cymer ongoing 50 48,000 42,500 9903

Bydd cynhyrchu solar ffotofoltaig yn darparu trydan glân i berchnogion adeiladau a'r grid. Bydd yn helpu grwpiau cymunedol lleol drwy leihau eu biliau trydan a chadw arian o fewn yr economi leol; 

Bydd yn hyrwyddo'r defnydd o ynni adnewyddadwy, ac ymwybyddiaeth ohono, i ddefnyddwyr yr adeilad a'r cyhoedd. 
Mae'r prosiect hwn yn dangos model ariannol newydd a fydd yn ei gwneud yn ymarferol gosod paneli solar ffotofoltaig.
Mae'r safleoedd a ddefnyddir yn cynnwys: neuaddau cymunedol, canolfannau chwaraeon, ac adeiladau a ddefnyddir ar gyfer clybiau ieuenctid, ymhlith eraill.
   
Pwy oedd Buddiolwyr y Prosiect?

Perchnogion yr adeiladau a fydd yn elwa ar gostau ynni rhatach. Bydd yr incwm o werthu'r trydan yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu cyfranddalwyr, i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy pellach, ac i ariannu prosiectau addysg.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Dan McCallum
Rhif Ffôn:
01639830870
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://awel.coop/
Cyfryngau cymdeithasol: