Lleoliad:
Ceredigion
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39960.00

Mae’r clafr yn achosi colledion economaidd a lles difrifol ac amcangyfrifir ei fod yn costio £5.86m y flwyddyn i’r diwydiant defaid yng Nghymru rhwng costau triniaeth a cholli cynhyrchiant.  Un mater allweddol wrth geisio taclo’r clafr mewn diadelloedd defaid a rhyngddynt yw pa mor hawdd yw hi i’r heintiad symud o ddiadell i ddiadell, oherwydd sialensiau bioddiogelwch, sydd yn achosi pryder neilltuol mewn systemau pori eang/ar yr ucheldir, ac ardaloedd sy’n cael eu cyd-bori. Yr ateb gorau yn y tymor hir i drin y clafr yw cael gwared ar y clefyd o Gymru a gweddill Prydain. Y gobaith gorau sydd gennym o gyflawni hyn yw os bydd ffermwyr yn cydweithio i daclo’r afiechyd.

Yn y prosiect tair blynedd hwn bydd grŵp o ffermwyr o ardal Talybont, Gogledd Ceredigion yn ymchwilio sut y gall cydweithio, yn hytrach na gweithio ar ffermydd unigol, wella llwyddiant y driniaeth clafr. Y gobaith yw, trwy ddefnyddio technegau diagnosis a thrin y clafr sy’n bodoli mewn modd wedi ei gydlynu ar draws yr holl ffermydd ym mhlwyf Ceulan a Maesmawr, y bydd hyn yn gwella effeithlonrwydd y driniaeth clafr.

Cynllun y Prosiect

Bioddiogelwch

Bydd ffermwyr yn ardal Ceulan a Maesmawr yn edrych ar wella lefelau bioddiogelwch ar eu ffermydd:

  • Cynnal a chadw ffensys a chwilio am fylchau/mannau lle mae defaid yn rhwbio
  • Ffensys dwbl pan fydd hynny’n bosibl a phwyslais arbennig ar ardaloedd risg uchel
  • Cyfathrebu gyda chymdogion a chyd-drefnu’r driniaeth
  • Dewis anifeiliaid newydd o ffynonellau sy’n hysbys neu pan fydd eu statws iechyd yn hysbys
  • Trin yr holl stoc sy’n dod i mewn a’u cadw mewn cwarantîn am 7 diwrnod o leiaf
  • Glanhau unrhyw offer/cyfleusterau trin a rennir cyn eu defnyddio

Profi a Diagnosis

  • Bydd sampl o bob diadell yn cael eu profi gyda’r prawf gwaed ELISA. Mae’r prawf gwaed hwn yn cynnig mwy o gywirdeb na’r crafiadau croen a ddefnyddir ran amlaf.
  • Gall y prawf ganfod clafr cyn pen 2 wythnos ar ôl heintio, cyn i’r briwiau gweledol ymddangos. Bydd diagnosis cynnar a chywir yn rhoi cyfle i ffermwyr gadw unrhyw anifeiliaid sydd wedi eu heintio ar wahân oddi wrth y ddiadell i helpu i’w atal rhag chwalu.
  • Os byddant wedi eu heintio bydd yr anifeiliaid yn cael eu cofnodi a bydd cynllun triniaeth rhwng y milfeddyg a’r ffermwr yn cael ei weithredu.
  • Bydd yr holl ffermydd cyfagos yn cael gwybod a byddant yn profi am glafr mor fuan ag sy’n ymarferol.
Triniaeth
  • Trafodir triniaethau addas rhwng y ffermwyr a’u milfeddyg gan roi blaenoriaeth i ddipio pan fydd yn bosibl.
  • Mae dip OP yn rhoi mwy o sicrwydd a phan fydd yn cael ei ddefnyddio gan gontractwyr cymwys mae’r risg i iechyd pobl a’r amgylchedd yn cael ei lleihau.
Ymweliad dilynol
  • Cyn pen dau fis o’r driniaeth bydd y milfeddyg lleol yn ymweld eto i gymryd rhagor o brofion gwaed i werthuso effeithiolrwydd y driniaeth.
  • Trafodir camau pellach gyda’r milfeddyg.

Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau

Fideo (Mehefin 2019): Dafydd Jones, Milfeddygon Ystwyth, a Huw Davies, Llety If…

 

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Helen Ovens
Email project contact