Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£73200.00

Disgrifiad o'r prosiect:

Edrychodd Prosiect ‘Gwaith Glannau Gwy’ ar agweddau busnes ac adeilad ffisegol Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy a dylanwadodd ar gyfeiriad y sefydliad yn y dyfodol, gan amlinellu’n hyderus lwybr tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a disglair.

Asesodd yr astudiaeth fanwl y ffordd y gallai Glannau Gwy arallgyfeirio ei ddarpariaeth i’r gymuned, gan gynnwys o bosib creu gofod perfformio ac ymarfer ychwanegol. 

Byddant yn manteisio ar y cyfle i edrych ar eu hadeilad rhestredig Gradd 2 eiconig a byddant yn nodi ffyrdd arloesol o wella ardaloedd fel systemau gwresogi a mynedfeydd i bobl anabl, gan sicrhau bod yr holl gyfleusterau’n bodloni gofynion modern. 

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Mae cynnal astudiaeth ddichonoldeb wedi galluogi Glannau Gwy i edrych ar ei arferion presennol a’i fodel busnes a nodi ffyrdd o wella’r rhain o ran amrywiaeth y rhaglen maent yn gallu ei chynnig a’r cyfleusterau ar y safle. 

Arweiniwyd yr astudiaeth ddichonoldeb gan fyd busnes gyda'r nod o gynnig cyfleusterau newydd nad ydynt ar gael yn lleol a symud y ganolfan tuag at ddiogelwch ariannol. 

Pwy fydd yn elwa ar y prosiect?

Cymuned Llanfair-ym-Muallt a’r ardaloedd cyfagos

Her 

Problemau allweddol yr astudiaeth ddichonoldeb oedd meddwl am fodel busnes llai dibynnol ar gyllid cyhoeddus gan gynyddu’r cyfleusterau a'r rhaglen roeddent yn gallu ei chynnig. Yr her allweddol arall fyddai sicrhau cyllid i symud y prosiect yn ei flaen ar ôl cwblhau'r astudiaeth ddichonoldeb a galluogi iddynt sicrhau bod y ganolfan gelfyddydau yn addas i bwrpas.

Datrysiad 

Defnyddiodd Glannau Gwy wasanaethau Rheolwr Prosiect, Rob David (RDPM), Tîm Datblygu Busnes (Cultivate) a thîm dylunio Pensaernïol o dan arweiniad Angus Morrogh-Ryan o de matos ryan. Buont yn gweithio’n agos hefyd gyda Dilwyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol Theatr Mwldan yn Aberteifi, a wnaeth waith uwchraddio tebyg ar ei gyfleuster a’i fodel busnes ddeng mlynedd yn ôl.

Beth oedd canlyniad eich prosiect?

Drwy weithio gyda thimau proffesiynol cafwyd cyngor arbenigol ar y newidiadau posib y gallent eu gwneud i’r adeilad a sut gallent sbarduno'r busnes yn ei flaen. 

Mae hyn wedi arwain at Lannau Gwy yn creu astudiaeth ddichonoldeb a fydd yn sbardun yn awr ar gyfer sicrhau cyllid i fynd â’r prosiect ymlaen i'r cam nesaf. 

Fel rhan o'r broses ddichonoldeb, cynhaliwyd ymgynghoriadau ganddynt gyda nifer o wahanol grwpiau ac aelodau’r cyhoedd. Roedd eu hadborth o gymorth i ddylanwadu ar y cynllun terfynol. 

Cododd yr ymgynghoriadau broffil y prosiect ac mae wedi cyffroi'r dref gyda'r posibiliadau ar gyfer Glannau Gwy.  

Mae Glannau Gwy wedi sefydlu’r broses o godi arian i fynd â’r prosiect i gam 3 RIBA a bydd yr astudiaeth ddichonoldeb fanwl o gymorth iddynt wedyn gyda cheisiadau i gyllidwyr posib.

Roedd yr astudiaeth ddichonoldeb yn cynnwys cynllun busnes pum mlynedd y bydd Glannau Gwy yn ceisio ei roi ar waith. 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Jill Mustafa
Rhif Ffôn:
01982 553668
Email project contact